14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Roedd penawd tebyg i’r canlynol mewn sawl papur newydd yn ddiweddar:
‘”Mae ymddiriedaeth yn yr heddlu yn fregus iawn yn ol yr arolygwyr.”
Adroddiad damniol gan Andy Cooke,Prif Arolygwr yr Heddlu,yn Safle Plismona 2022,sbardunodd y math hwn o benawd.
Mae’r adroddiad yn cynnwys tri pheth i’r Llywodraeth a’r prif gwnstabliaid,yn cynnwys:
Heb ymatal o gwbl,dywedodd Andy Cooke:
“Roeddwn yn blismon am 36 mlynedd cyn cymryd y swydd hon.Nid oes gennyf amheuaeth am ymroddiad a dewrder mwyafrif helaeth swyddogion yr heddlu a’r gweithlu.Ond mae gwendidau amlwg a chyson ar draws y gwasanaeth heddlu yn Lloegr a Chymru,ac o ganlyniad i nifer o sgandalau dychrynllyd,mae ymddiriedaeth y cyhoedd yn fregus iawn.
Galwaf am ddiwygio sylweddol er mwyn rhoi mwy o bwer i arolygwyr yr heddluoedd er mwyn sicrhau gallu gwneud popeth sydd yn anghenrheidiol i helpu heddluoedd i wella.Buom yn gofyn am gymorth nifer o weithiau dros y blynyddoedd.Dim ond hyn a hyn o weithiau mae posibl dweud yr un peth mewn geiriau gwahanol,a daeth yr amser yn awr i’r Llywodraeth gyflwyno deddfwriaeth newydd i gryfhau ein argymhellion.Rhaid i newid ddechrau ar y top.Rhai i brif gwnstabliaid a chomisiynwyr heddlu a throsedd wneud mwy i sicrhau effeithiolrwydd eu heddluoedd,a chanolbwyntio ar eu blaenoriaethau.Nid prif waith yr heddlu yw ymateb i greisis iechyd meddwl unigolyn,na chynnal cyfiawnder cymdeithasl.Eu swydd yw cynnal y gyfraith.
Rhaid i heddluoedd ddangos proffesiynoldeb.a chael y pethau sylfaenol yn gywir wrth ymchwilio i drosedd,ac ymateb yn briodol i alwadau 999.Dyna’r peth pwysicaf i’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu,a dyna’r ffordd ymlaen i adfer ymddiriedaeth y cyhoedd.Mae egwyddor sylfaenol plismona drwy gydsynio dan fygythiad,ac ar yr egwyddor hon y codwyd ein gwasanaeth heddlu,ac mae’n hen bryd gweithredu.”
Fel cyfreithwyr sydd yn ymwneud yn ddyddiol a gweithgareddau plismyn unigol,cadwn lygad barcud ar ddatblygiadau plismona,er mwyn deall pa effaith all hyn gael ar achosion y rhai yr ydym ni yn eu hamddiffyn.
Rydym yn dal i boeni bod lefelau ariannu presennol yn golygu efallai nad oes ymchwilio iawn i droseddau,a’r perygl,o ganlyniad,i’r person anghywir gael ei gyhuddo,oherwydd nad oedd yr ymchwiliad yn ddigonol.
Trwy sicrhau gwybodaeth fanwl o unrhyw newidiadau yn y ddeddfwriaeth neu gyfraith achosion,gallwn roi’r cyngor gorau posibl i chi. Os hoffech drafod eich achos,cysylltwch a Michael Strain ar 01758 455 500 or office@strainandco.co.uk
Yn ôl i'r prif dudalen blog.
> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol
> Ariannu a Costau
> Cysylltiadau a Gwybodaeth Pellach
> Cydnabyddiaeth a Cymhwysterau
> Geirda
Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Ffôn: 01758 455500
E-bost: office@strainandco.co.uk
© 2024 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.
Gwefan gan Delwedd.