STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Pizza yn alibi

Pizza yn alibi

Dyddiad: 2019-11-19

Honnir i’r Tywysog Andrew, ar Fawrth 10fed 2001, gyfarfod a chael tynnu ei lun gyda gwraig sydd wedi ei gyhuddo o gamymddygiad rhywiol.Mewn cyfweliad ar y B.B.C. mae’r Tywysog yn dweud pa mor chwerthinllyd yw’r honiad, ac mae’n ceisio sefydlu alibi gyda dau gynnig diddorol:

“Ar y diwrnod arbennig hwnnw, sef Mawrth 10fed yn ôl a ddeallwn erbyn hyn, roeddwn i gartref; roeddwn gyda’r plant, ac wedi mynd a Beatrice i barti i Pizza Express yn Woking. Roedd hynny tua phedwar i bump o’r gloch yn y prynhawn mae’n debyg.

“Ac yna gan nad oedd y dduges gartref, mae gennym reol syml fel teulu bod un rhiant yno os yw’r llall i ffwrdd.”

Mae’n ddealladwy bod aelod o’r teulu brenhinol yn cofio ymweliad a Pizza Express, rhywbeth cyffredin iawn i’r rhelyw ohonom, ond hwyrach nad trefniant arferol am bryd o fwyd allan i’r ychydig o’r dethol rai.

Sut felly mae’r wybodaeth yma’n cymharu o safbwynt alibi?

Dyma’r disgrifiad cyfreithiol o alibi: “Tystiolaeth sydd yn tueddu i ddangos nad oedd y cyhuddedig, neu ei bod yn annhebygol ei fod, yn y man yr honnir i’r drosedd ddigwydd, adeg yr honnid ei chyflawni, oherwydd ei fod mewn lleoliad neu ardal neilltuol ar amser benodedig.”

Problem sylfaenol yn codi o adroddiad y Tywysog Andrew yw mai dim ond cyfnod cymharol fyr mae’r alibi yn ei lenwi – taith yn ôl a blaen ( tua 40 munud bob ffordd, o gymryd mai o’i gatref yn Windsor yr oedd yn teithio), a’r amser dreuliwyd yn y parti ( 2 awr hwyrach), felly dim mwy na 4 awr i gyd.Onibai bod amseriad yr honiad o drosedd yn cydfynd yn union a’r amser ddywed y Tywysog iddo dreulio yn Woking, nid oes fawr o arwyddocâd i hyn fel tystiolaeth. Cynnig alibi oedd ei ail stori hefyd, ac nid yw’n afresymol honni ei fod gartref ( yn gofalu am y plant yn ol pob tebyg, er nad yw’n dweud hynny) am fod ei wraig i ffwrdd.Ar yr olwg gyntaf eto, nid yw hyn yn afresymol, ond mae adroddiad hollol wahanol o’r digwyddiad ar gael hefyd, yn ogystal a llun na phrofwyd hyd yn hyn nad yw yn un dilys.Byddai angen i reithgor brofi’r gwrthdaro rhwng yr adroddiadau. Mewn gair, mae honni bod gennych alibi yn tueddu i fod yn hollol ddiwerth.

Byddai strategaeth amddiffyn gref yn ymchwilio’n fanwl i’r amseroedd, ac yn chwilio am dystiolaeth i ategu hyn. Gallai erlynydd yn hawdd ganfod nifer o droeon pan oedd y ddau riant i ffwrdd o gartref, a holi am eu trefniadau gofal plant – mae’n bur arferol i aelodau o’r teulu brenhinol gyflogi gweithwyr i ofalu am eu plant. YN anffodus i’r Tywysog, gwadu’r honiad yn llwyr oedd yr unig beth wnaeth yn ei gyfweliad teledu, ac roedd eisoes wedi gwneud hyn. Pan ddaw ein cleientau ni i drafod mater mor bwysig, byddwn yn sicrhau bod achos cryf a manwl yn cael ei gyflwyno i’r llys.Ni ddylid gadael unrhyw beth i ffawd pan mae enw da a rhyddid yn y fantol.

Sut gallwn Helpu?

Gallwn roi cyngor ar bob agwedd o ymholiad neu erlyniad troseddol. Cysylltwch a Rhys Tudur ar 01758 455 500, a gadewch i ni helpu.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.