STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Hawl i gael eich anghofio

Hawl i gael eich anghofio

Dyddiad: 2018-04-16

Rhoddwyd dyfarniad gan yr Uchel Lys yn yr achos cyntaf o “achosion yn trafod yr hawl i gael eich anghofio” Cyfeirir at y ddau geisydd fel NT1 ac NT2.

Roedd y ddau wedi eu dyfarnu’n euog o droseddau yn y gorffennol. O safbwynt Deddf Ailsefydlu Troseddwyr, roedd y collfarnau wedi darfod, ond er hynny, drwy fynd ar Google (neu unrhyw orsaf ymchwilio arall) mae’r manylion I’w canfod.Dymuniad y ddau oedd i Google ddileu’r cofnodion, fel na fyddent yn ymddangos ar unrhyw safle ymchwilio.

Gwaith y llys oedd edrych ar safbwynt y dynion oedd o’r farn bod y wybodaeth “ nid yn unig yn hen, ond yn amherthnasol; nad oedd o unrhyw ddiddordeb i’r cyhoedd ac yn ymyrraeth anghyfreithlon a’u hawliau hwy.”Ac hefyd roedd yn rhaid i’r llys ystyried yr achos o safbwynt Google oedd yn dadlau bod cynnwys y manylion yn gyfreithlon.

Beth oedd troseddau’r ddau ddyn?

Yn achos NT1, pan oedd yn ei 30au ddiwedd y 1980au a dechrau’r 1990au, roedd yn rhan o fusnes eiddo dadleuol oedd yn ymwneud a’r cyhoedd.Ddiwedd y 1990au, yn ei 40au, cafwyd ef yn euog o gynllwyn troseddol yn gysylltiedig a’r busnes hwnnw, a dedfrydwyd ef i gyfnod o garchar. Cyhuddwyd ef am drosedd arall yn ymwneud a’r un busnes, ond nid aeth ei achos o flaen llys. Fe gafwyd rhai o gyn-weithwyr y cwmni yn euog. Bu adroddiadau am hyn a materion cysylltiedig ar y cyfryngau ar y pryd.

Daeth yr adroddiadau ar gael i orsaf chwilio Google, ynghyd a manylion eraill oedd yn cynnwys manylion oddi ar wefan seneddol.Rhyddhawyd NT1 ar drwydded ar ol cwblhau hanner ei garchariad. Roedd y gollfarn wedi darfod yn gynnar yn y 21ain ganrif.Parhaodd yr adroddiadau ar-lein, a Google yn dal i ychwanegu manylion cysylltiedig . Ymhen amser gofynnodd NT1 am gael dileu’r holl fanylion.

Nid oes unrhyw gysylltiad rhwng ffeithiau achos NT2 a NT1. Yr unig gysylltiad yw bod peth tebygrwydd yn y drefn o ymdrin a’r ddau; mae’r un mater o egwyddor yn codi gyda’r ddau, a daeth y ddau o flaen yr Uchel Lys y naill ar ol y llall, gyda’r un rhai yn eu cynrychioli.

Yn gynnar yn y 21ain ganrif , pan yn ei 40au, roedd NT2 yn ymwneud a chwmni oedd yn destun gwrthwynebiad y cyhoedd oherwydd eu harferion yn ymwneud a’r amgylchedd. Ychydig dros 10 mlynedd yn ol, plediodd yn euog i ddau gyhuddiad o gynllwyn troseddol yn y busnes hwnnw, a threuliodd gyfnod byr yn y carchar. Gwelwyd adroddiadau am hyn ar y cyfryngau ac yn y wasg leol a chenedlaethol ar y pryd.

Treuliodd chwech wythnos yn y carchar cyn cael ei ryddhau ar drwydded. Daeth y ddedfryd i ben dros 10 mlynedd yn ol.Roedd y gollfarn hefyd wedi darfod rai blynyddoedd yn ol.Parhaodd yr adroddiadau ar-lein, a Google Search yn dal i anfon rhestrau.Mae son wedi bod hefyd am ei achos a’I ddedfryd mewn adroddiadau mwy diweddar ynglyn a materion eraill – dau yn adroddiadau o gyfweliadau roddodd NT2.Ymhen amser gofynnodd i Google ddileu’r cysylltiadau hyn.

Beth benderfynodd y Llys?

Collodd NT1 ei achos. Bydd y manylion yn aros ar hyn o bryd, er mae disgwyl iddo apelio.Enillodd NT2, a’r llys yn gorchymyn i Google ddileu’r wybodaeth. Gwrthododd y llys ei ddigolledu na thalu iawndal.Nid yw’n eglur eto a fydd Google yn apelio.

A yw’r gyfraith yn fwy eglur yn awr?

Rhyw ychydig bach! Mae’n amlwg nad yw’n hawdd dileu gwybodaeth ar orsaf chwilio. Bydd rhaid trafod ffeithiau pob achos yn unigol, ac felly bydd rhaid i lawer iawn o bobl fynd a’u hachos I’r llys er mwyn ceisio dileu eu gweithrediadau yn y gorffennol oddiar Google a gorsafoedd chwilio eraill.

Yn achos NT2 dyma oedd gan y Barnwr I’w ddweud:”Ynglyn a chais NT2 i dynnu ei fanylion oddiar orsafoedd chwilio ar y we, fy nyfarniad yw bod y wybodaeth am y drosedd a’r gosb wedi dyddio, eu bod yn amherthnasol, ac nad oes digon o ddiddordeb cyfreithlon i ddefnyddwyr Google i gyfiawnhau iddynt fod ar gael o hyd, ac felly dylid rhoi gorchymyn I’w dileu.Buasai’r gollfarn wedi darfod rywbryd beth bynnag, a digwyddodd hynny ym Mawrth 2014, er buasai wedi digwydd ym mis Gorffennaf pa run bynnag. Mae NT2 wedi cyfaddef yn agored ei fod yn euog gan fynegi gwir edifeirwch.

Nid oes unrhyw dystiolaeth y byddai’n cyflawni trosedd o’r fath eto. Mae’n gweithio yn awr mewn maes hollol wahanol.Prin, os o gwbl,mae’r ffaith iddo droseddu yn y gorffennol yn berthnasol i asesiad unrhyw un o’I addasrwydd i gynnal busnes perthnasol yn awr neu yn y dyfodol .Nid oes gwir angen i unrhyw un gael rhybudd o’r hyn ddigwyddodd yn y gorffennol.”

Ond o safbwynt NT1 dyma safiad y Barnwr:”Dyma fy mhrif gasgliadau. Tua throad y ganrif roedd NT1 yn ffigwr cyhoeddus, yn chwarae rhan mewn bywyd cyhoeddus.Mae ei swydd wedi newid fel mai rhan gyfyngedig sydd ganddo mewn bywyd cyhoeddus, fel gwr busnes nad yw’n delio a chwsmeriaid. Ond,wedi dweud hynny,mae ganddo ran yn y maes.

Nid yw’r wybodaeth am ei drosedd a’I gosb yn breifat. Manylion am drosedd ym myd busnes yw. Yr oedd, ac y mae yn dal i fod, yn fater cyhoeddus ei natur. Nid oedd ganddo unrhyw hawl i ddisgwyl preifatrwydd ynglyn a’r wybodaeth pan erlynwyd ef a’I gael yn euog a’r gosb yn dilyn.Rwyf wedi dod I’r casgliad nad oes ganddo’r hawl cael dileu’r rhestrau ar y we yn awr. Nid oes dim yn anghywir o gwbl yn y manylion. Mae’n ymwneud a’i fywyd busnes, nid ei fywyd personol. Mae’r wybodaeth yn sensitif, ac mae wedi nodi rhai rhesymau dilys dros eu dileu. Ond ni lwyddodd i gyflwyno unrhyw dystiolaeth rymus i gefnogi’r rhesymau hyn.

Mae rhan helaeth y niwed mae’n cwyno yn ei gylch yn ymwneud a byd busnes, a pheth ohono’n dyddio cyn yr amser pan mae ganddo hawl i gwyno bod Google wedi prosesu’r wybodaeth.Yn unol ag Erthygl 8, mae ei hawliau preifatrwydd yn weithredol erbyn hyn, ond nid ydynt yn cyfrif llawer. Ymddengys y wybodaeth yn gyntaf yng nghyd-destun adroddiadau am droseddau ac am y llysoedd ar y cyfryngau cenedlaethol. Roedd hyn yn beth naturiol i’w ddisgwyl yn dilyn ymddygiad troseddol y ceisydd.Mae’r wybodaeth yn un hanesyddol, ac mae cyfraith ailsefydlu yn dod i rym,ond rhywbeth ymylol yw hynny yn yr achos yma.Roedd dedfryd y ceisydd mor hir fel nad oedd ganddo mewn difrif obaith y buasai’r gollfarn byth yn darfod.

Mae’r gyfraith wedi newid, ond pe buasai’r ddedfryd yn hwy, ni fuasai’r gollfarn wedi darfod yn awr .Buasai wedi bod yn hwy, onibai am leihad personol, ond does a wnelo hynny ddim a’r euogrwydd.Oherwydd ei yrfa mewn busnes ar ol ei ryddhau o garchar,roedd y wybodaeth yn berthnasol wrth i aelodau’r cyhoedd asesu ei onestrwydd. Ac mae’r wybodaeth yn dal yn ddigon perthnasol heddiw.Nid yw wedi derbyn ei fod yn euog; mae wedi camarwain y cyhoedd a’r Llys hwn, ac nid yw wedi mynegi unrhyw edifeirwch. Mae’n dal mewn busnes, ac mae’r ffaith bod y wybodaeth yn dal ar gael, yn fodd o leihau’r perygl iddo ddal i gamarwain, fel gwnaeth yn y gorffennol.”

Ymddengys bod agwedd gyffredinol NT2, a’I edifeirwch, wedi bod yn allweddol wrth drafod ei apel.Felly nid yn unig ffeithiau am y gollfarn sydd yn cyfrif, ond hefyd ymddygiad y ceisydd yn y cyfamser, a’I fusnes ar hyn o bryd, neu ei weithgareddau eraill.

Sut gallwn ni helpu?

Ar hyn o bryd ,ein cyngor yw eich bod yn gwybod canlyniad unrhyw apel, cyn meddwl mynd i’r llys ynglyn a gwybodaeth amdanoch sydd ar gael ar wefanau ymchwilio Mae’n bur debygol mai’r Uchel Lys fydd yn penderfynu ar y mater hwn yn y pen draw, ac os digwydd hynny,fe gymerith o leiaf flwyddyn i’w weithredu.

Os oes gennych unrhyw bryderon, neu os dymunwch drafod unrhyw beth ynglyn a’ch achos, cysylltwch os gwelwch yn dda a Michael Strain ar 01758 455 500 neu michael@strainandco.co.uk

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.