STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Galw Anne Sourby yn Natsi

Galw Anne Sourby yn Natsi

Dyddiad: 2019-01-11

Efallai bod galw Anne Sourby yn Natsi tra roedd hi’n darlledu ar newyddion Sky yn drosedd.Yn y Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986 mae Adrannau 4,4A a 5 yn nodi’r troseddau sydd yn fwyaf tebygol o gael eu herlid. Ymdrin a “lefelau is” o droseddau trefn gyhoeddus mae’r adrannau hyn; adran 4 yn cynnwys “ymddygiad bygythiol”, ac adran 4A a 5 “ ymddygiad afreolus”. Adran 4 yw’r mwyaf difrifol, ac felly adran 5 yn llai difrifol.

Gall beth wnaeth y protestwyr yn ystod y cyfweliad, ac wedyn ar y stryd fod yn un o’r troseddau hyn.Mater i Wasanaeth Erlyn y Goron fydd penderfynu pa drosedd gyflawnwyd, a’r Llys fydd yn penderfynu oedd y bobl hyn yn euog. Gellid erlyn y ddau fath o ymddygiad gyda’i gilydd, ar wahan, neu peidio erlyn o gwbl. Rhaid cofio bydd yr erlyniad yn trafod effaith yr ymddygiad ar Miss Sourby, ac ar aelodau’r cyhoedd oedd yn yr ardal o flaen y senedd.

Beth am y gweiddi?

Gall hyn ddod o dan Adran 4A neu 5. Yn ol adran 4a mae person yn euog os yw’n defnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol, difriol neu sarhaus, ac yn achosi aflonyddwch, dychryn neu ofid. Rhaid iddo hefyd fod yn bwriadu achosi aflonyddwch, dychryn neu ofid. Yn ol adran 5 mae person yn euog os yw’n siarad neu ymddwyn yn fygythiol neu difriol o fewn golwg neu glyw rhywun y mae’n debygol yr achosir aflonyddwch, dychryn neu ofid iddo drwy hynny. Y gwahaniaeth allweddol yw’r bwriad i greu aflonyddwch, dychryn neu ofid. Yn ol adran 5 nid oes rhaid i aflonyddwch ac yn y blaen fod wedi ei achosi, dim ond fod posiblrwydd achosi hyn.

A beth am yr ymddygiad ar y stryd?

Gall hyn ddod dan yr adrannau uchod, neu adran 4 sydd yn fwy difrifol ac yn datgan fod person yn euog o drosedd os defnyddiodd iaith fygythiol, ddifriol neu sarhaus neu os oedd ei ymddygiad tuag at rywun arall yn fygythiol, difriol neu sarhaus. Rhaid iddo hefyd fwriadu gwneud i’r dioddefwr gredu y defnyddir trais anghyfreithlon tuag ato, neu mewn sefyllfa ble mae’n debygol i’r dioddefwr ofni hyn, er hwyrach nad oedd bwriad i wneud hyn.

A gyflawnwyd trosedd mewn gwirionedd gan y protestwyr?

Yr ateb yw na. Bydd yr heddlu’n parhau a’u hymchwiliad ac yn casglu tystiolaeth. Hwyrach na fydd digon o dystiolaeth i ofyn i Wasanaeth Erlyn y Goron ddod ag achos yn erbyn y protestwyr, neu os gofynnir iddynt hwyrach byddant yn gwrthod am nad oes digon o dystiolaeth.Efallai caiff y protestwyr eu cyhuddo, ond eu cael yn ddieuog.

Rhaid hefyd ystyried yr hawl i fynegi barn. Mae adran 10 yn caniatau rhyddid i fynegi barn, ac efallai bod galw Anne Sourby yn Natsi yn cael ei ganiatau dan yr adran hon.Er mwyn rhwystro anhrefn neu drosedd, mae adran 10 yn datgan y dylid cyfyngu ar ryddid i ddweud eich barn.

Beth os mai fi wnaeth weiddi ar Anne Sourby?

Mae pob trosedd trefn gyhoeddus yn wahanol, a phob achos yn wahanol hefyd.Dyna safbwynt gyffredinol y gyfraith. Mae safbwyntiau pendant wedi eu lleisio o blaid ac yn erbyn yn ystod y dyddiau diwethaf. Credwn ei bod yn rhy fuan i fynegi barn; rhaid edrych ar bob trosedd trefn gyhoeddus yn ei chyd-destun ac ymchwilio’n fanwl i’r holl ffeithiau. Os ydych angen cyngor arbenigol cysylltwch a Carys Parry ar 01758 455 500, a gadewch i ni helpu.Gallwn roi cyngor ar sut i bledio, ffyrdd o amddiffyn, neu ddedfrydau posibl mewn ystod eang o sefyllfaoedd.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.