STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Dynladdiad - Canllaw Dedfrydu Newydd

Dynladdiad - Canllaw Dedfrydu Newydd

Dyddiad: 2018-07-31

Heddiw cyhoeddwyd canllaw newydd ar gyfer troseddau dynladdiad gan y Cyngor Dedfrydu, y corff sydd yn gyfrifol am osod canllawiau dedfrydu yn Lloegr a Chymru.

Dyma’r troseddau perthnasol:

  1. Gweithred anghyfreithlon o ddynladdiad ,( sydd yn drosedd cyfraith gwlad).
  2. Dynladdiad o ganlyniad i esgeuluster garw,( sydd yn drosedd cyfraith gwlad).
  3. Dynladdiad o ganlyniad i golli rheolaeth – amddiffyniad statudol rhannol i lofruddiaeth (Adrannau 54 a 55 o Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009).
  4. Dynladdiad o ganlyniad i beidio bod yn llawn gyfrirfol – amddiffyniad statudol rhannol i lofruddiaeth (Adran 2 o Ddeddf Dynladdiad 1957).

Pryd gweithredir y canllaw? Dyma fydd y canllaw i bob troseddwr ddedfrydir ar neu ar ol Tachwedd 1af 2018. Felly os cewch eich erlyn cyn hynny bydd eich dedfryd yn dilyn y canllaw newydd, os plediwch yn euog, neu os dedfrydir chi yn euog.

Beth yw’r gwahanol fathau o ddynladddiad?

  1. Gweithred anghyfreithlon o ddynladdiad. Dyma’r math o ddynladdiad gaiff ei erlyn amlaf, ac mae’n cynnwys marwolaethau o ganlyniad i ymosodiadau pan nad oedd unrhyw fwriad i ladd nac i achosi niwed difrifol iawn. Gall fod gwahaniaethau mawr. Er enghraifft, sefyllfa lle mae dau gyfaill yn dadlau, ac un yn gwthio’r llall gan achosi iddo syrthio a tharo’i ben gyda chanlyniadau angeuol. Neu rhywun yn chwilio am esgus i ymladd ac yn ymosod yn nerthol ar berson, ond heb fwriadu ei ladd. Gallai hefyd gynnwys marwolaeth o ganlyniad i droseddau eraill, megis cynnau tan neu ladrad. Dedfrydwyd 105 o droseddwyr am y drosedd hon yn 2016.
  2. Dynladdiad esgeuluster garw – sydd yn digwydd pan fo troseddwr yn peidio cyflawni ei ddyletswydd tuag at ddioddefwr a hynny’n achosi marwolaeth y dioddefwr, ac o ganlyniad yn drosedd neu gamwaith. Mae nifer o amgylchiadau lle gall hyn ddigwydd. Yn y cartref, gallai gynnwys rhieni neu ofalwyr yn methu gwarchod plentyn rhag perygl amlwg. Yn y gwaith, gallai olygu cyflogwyr yn anwybyddu’n llwyr ddiogelwch eu gweithwyr Dedfrydwyd 10 troseddwr am y drosedd hon yn 2016.
  3. Dynladdiad o ganlyniad i golli rheolaeth.Dyma sydd yn digwydd os yw gweithred troseddwr yn dilyn colli rheolaeth am ei fod ofn ymosodiad treisgar arno ef ei hun, er enghraifft.Onibai am hyn byddai’n euog o lofruddiaeth. Dedfrydwyd 12 troseddwr am y drosedd hon yn 2016.
  4. Dynladdiad o ganlyniad i beidio bod yn llawn gyfrifol. Byddai rhywun euog o’r drosedd hon wedi bod yn dioddef o gyflwr iechyd meddwl cydnabyddedig effeithiodd ar ei gyfrifoldeb adeg y drosedd; onibai am hyn byddai’n euog o lofruddiaeth. Yn 2016 dedfrydwyd 26 am y drosedd hon.

Pam cyflwyno’r canllaw hwn? Bydd yn sicrhau arweiniad cynhwysfawr o’i gymharu a’r arweiniad cyfyngedig iawn fodolai cynt. Hyd yma, canllaw ar gyfer dynladdiad corfforaethol yn unig oedd yn bodoli, ac yn dilyn canllaw’r Cyngor ar gyfer troseddau yn ymwneud ag iechyd a diogelwch. Mae hefyd ganllaw gan y corff weithredai cyn ffurfio’r Cyngor Dedfrydu, ar gyfer dynladdiad o ganlyniad i gythruddo,ond sydd bellach wedi dyddio, yn dilyn newidiadau deddfwriaethol i’r amddiffyniadau rhannol i lofruddiaeth.

A fydd hyd dedfryd yn fwy? Mae’r Cyngor Dedfrydu’n rhagweld mai ychydig iawn fydd yr effaith- tua 10 yn fwy yn mynd i’r carchar bob blwyddyn o ganlyniad i ddilyn y canllaw; ond rhybudd hefyd ei bod yn anodd sicrhau sut bydd lefelau dedfrydu yn newid. Gwyddom o brofiad bod rhywfaint o gynnydd mewn hyd dedfrydau yn digwydd wrth ddilyn canllawiau newydd. Hyfforddwyd ein cyfreithwyr yn y dull o ddefnyddio canllawiau dedfrydu, a sicrhau bod barnwyr yn eu gweithredu’n gywir.

Sut gallwn helpu? Am gyngor ar unrhyw beth yn ymwneud a chyfraith droseddol cysylltwch a Carys Parry ar 01758455 500 neu office@strainandco.co.uk

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.