STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Dedfrydu troseddwyr yn dioddef o anhwylder meddwl

Dedfrydu troseddwyr yn dioddef o anhwylder meddwl

Dyddiad: 2020-07-22

Cyhoeddodd y Cyngor Dedfrydu ganllaw newydd ar gyfer dedfrydu troseddwyr yn dioddef o anhwylder meddwl.”Egwyddorion trosfwaol: Dedfrydu troseddwyr gyda anhwylder meddwl, diffygion datblygiad a niwed niwloregol;”mae’r canllaw newydd yn cynnig eglurder a thrylowyder ym y broses o ddedfrydu’r grwp hwn o droseddwyr.

Awgryma tystiolaeth bod unigolion o fewn y system cyfiawnder troseddol yn fwy tebygol o fod yn dioddef o broblemau iechyd meddwl na’r boblogaeth yn gyffredinol. Er enghraifft, pan wnaed arolwg trwy sgrinio carcharorion wrth iddynt gyrraedd y carchar, dywedodd 23% iddynt gael rhyw gyswllt blaenorol gyda’r gwasanaethau iechyd meddwl.

Am y tro cyntaf bydd gan farnwyr ac ynadon ganllawiau i’w helpu wrth ddedfydu yn y maes anodd a chymhleth hwn. Mae’r canllawiau ddaw i rym ar Hydref 1af 2020 ar gyfer ymdrin ag oedolion oedd, pan gyflawnwyd y drosedd, ac neu adeg y dedfrydu yn dioddef o anhwylder neu nam megis:

  • Anhwylderau meddwl: cyflyrau fel sgitsoffrenia, iselder, neu salwch straen ol-drawma (PTSD).
  • Anhwylder datblygiad: awtistiaeth neu anabledd dysgu.
  • Nam niwloregol, wedi dioddef niwed i’r ymenydd (ABI) neu demensia.

Wrth asesu faint fydd yr anhwylder yn amharu ar y ddedfryd, mae’r canllaw’n nodi bod rhaid i’r llys ddilyn llwybr unigolyddol, a chanolbwyntio ar y materion dan sylw yn yr achos penodol hwnnw.Bydd lefel y nam achoswyd gan unrhyw gyflwr yn gwahaniaethu’n sylweddol o un person i’r llall.Rhaid i’r llys ystyried bob amser bod gan y troseddwr anhwylder neu nam, ond ni fydd hyn o angenrheidrwydd yn amharu ar y ddedfryd. Pan mae’r troseddau’n rhai difrifol, rhaid i’r llys ystyried diogelwch y cyhoedd.

Dylai’r llys fod bob amser yn ymwybodol o effaith yr anhwylder neu’r nam ar allu’r troseddwr i ddeall a chymryd rhan yn yr achos llys. Wrth benderfynu lefel yr euogrwydd, dylai asesiad cyntaf y llys ddilyn pob canllaw perthnasol i’r drosedd gyflawnwyd, a wedyn ystyried oedd yr anhwylder neu’r nam yn gwneud y troseddwr yn llai euog.

Mae’r ffactorau i’w hystyried gan y llys yn cynnwys:

  • Mae’n bosibl i droseddwr fod yn llai euog os oedd yn dioddef o nam (neu anhwylder, neu gyfuniad o’r ddau gyflwr) pan gyflawnodd y drosedd, ond dim ond os oes digon o gysylltiad rhwng nam neu anhwylder y troseddwr a’i ymddygiad troseddol.
  • Mewn rhai achosion gall fod y troseddwr yn llawer llai euog oherwydd ei nam neu anhwylder. Mewn achosion eraill, hwyrach nad yw’r cyflwr yn berthnasol o gwbl i ba mor euog yw.Felly mae angen dadansoddiad gofalus o holl amgylchiadau’r achos, a phod deunydd perthnasol.
  • Dylai llysoedd sicrhau bod troseddwyr yn deall eu dedfryd, a beth fydd yn digwydd os ail-droseddant, a neu os torrant amodau eu trwydded neu oruchwyliaeth.
  • Mae egluro’n fanwl hefyd yn bwysig, er mwyn galluogi’r dioddefwyr yn ogystal i ddeall beth yw’r ddedfryd.

Amlinellir ystod o ddedfrydau posibl, yn cynnwys dirwyon, rhyddhau, gorchmynion cymunedol, Darpariaethau Triniaeth Iechyd Meddwl, triniaeth cyffuriau ac alcohol, a charchar.

Wrth benderfynu pa ddedfryd i’w rhoi, dylai’r llysoedd ystyried:

  • Natur y drosedd sydd i’w dedfrydu.
  • A yw nam neu anhwylder y troseddwr yn berthnasol i’r datrysiad, yn enwedig dan bwerau gynhwysir yn y Ddeddf Iechyd Meddwl

Image credit: Image by moujemouje is licensed under CC BY-ND 2.0

Sut gallwn helpu?

Cysylltwch a Carys Parry ar 01758 455 500 am gyngor arbenigol. Gallwn roi cyngor ar bledio ac amddiffyn, a pha ddedfryd sydd yn bosibl mewn llawer iawn o amgylchiadau.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.