STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Cyfraith Helen

Cyfraith Helen

Dyddiad: 2020-01-17

Ym 1998 llofruddiwyd Helen McCourt, clerc yswiriant 22 oed, a chafwyd Ian Simms yn euog o’i llofruddio.Yn ddiweddar rhoddwyd cyfarwyddid gan y Bwrdd Parol i ryddhau Simms gan ddweud nad oedd angen iddo fod yn y carchar bellach er mwyn diogelwch y cyhoedd. Mae teulu Helen yn gwrthwynebu’r rhyddhau am na ddatgelodd Simms eriod ble’r oedd corff Helen, gan ei fod ef yn dal i wadu bod yn gyfrifol am ei llofruddio. Diweddglo i ymgyrch teulu Helen i newid y gyfraith fyddai “Cyfraith Helen”, sef cyfraith fyddai’n sicrhau bod llofrudd yn gorfod datgelu lleoliad gweddillion y dioddefwr cyn ystyried parôl iddo.

Beth yw’r cynigion?

Yn ôl y gyfraith newydd byddai’n ofynnol i’r Bwrdd Parol gymryd i ystyriaeth a yw carcharor sydd dan glo am ladd anghyfreithlon, neu dynnu lluniau anweddus o blant, wedi gwrthod datgelu gwybodaeth am y dioddefwr. Mewn achosion o ddyn-laddiad neu lofruddiaeth, os na wyr y Bwrdd Parol lle neu sut y cafwyd gwared a gweddillion y dioddefwr, ac y cred bod gwybodaeth sydd heb ei ddatgelu gan y carcharor, bwriedir:

”wrth wneud penderfyniadau ynglŷn a diogelwch y cyhoedd wrh ymdrin a charcharor am oes, rhaid i’r Bwrdd Parol ystyried:

• Y ffaith nad yw’r carcharor wedi datgelu’r ffeithiau hyn. • Y rhesymau pam na wnaeth, yn nhyb y Bwrdd.

O safbwynt lluniau anweddus, rhaid i’r Bwrdd Parol ystyried amharodrwydd y troseddwr i enwi’r plant yn y lluniau.

Pa mor bell mae’r broses wedi datblygu?

Yn Araith y Frenhines ar Ragfyr 19eg 2019, cyhoeddwyd Mesur Carcharorion (Rhyddhau Gwybodaeth am Ddioddefwyr) 2019-2020. Cafwyd ail-ddarlleniad o’r mesur ar Ionawr 8ed 2020.

Beth mae’r Bwrdd Parol yn ei wneud?

Mae’n ofynnol iddo warchod y cyhoedd rhag unrhyw berygl o niwed difrifol i neb na dim.Ni cheir rhoi cyfarwyddid i ryddhau carcharor onibai bod y Bwrdd yn fodlon nad oes angen carcharu’r unigolyn bellach er mwyn diogelwch y cyhoedd; dyna’r maen prawf.

Beth yw’r ystyriaethau i aelodau’r Bwrdd?

• yr holl wybodaeth sydd yn eu meddiant, yn cynnwys unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig neu ar lafar a gawsant. • pob achos yn ôl ei rinweddau, heb wahaniaethu ar unrhyw sail. • a yw rhyddhau yn gydnaws a gofynion ac amcanion cyffredinol goruchwyliaeth yn y gymuned, h.y.gwarchod y cyhoedd a sicrhau bod y carcharor yn ymdoddi’n llwyddiannus yn ôl i’r gymuned..

Wrth asesu’r lefel risg rhaid i’r Bwrdd ystyried rhestr o faterion, gan gynnwys natur ac amgylchiadau’r drosedd dan sylw, yr effaith ar deulu’r dioddefwr, a pha mor ymwybodol yw’r carcharor oes o’r effaith gafodd ei drosedd.

Mae canllawiau presennol y Bwrdd Parol yn dangos yn eithaf clir bod rhaid ystyried y ffaith bod troseddwr yn gwrthod datgelu gwybodaeth. Gall hyn olygu ei fod yn dal yn berygl i’r cyhoedd, ac felly na ddylid ei ryddhau.

Oes angen Cyfraith Helen?

Mewn gwirionedd, mae’r Bwrdd Parol eisoes yn ystyried yr union faterion fyddai’n gynwysedig yng Nghyfraith Helen. Yr ynig wahaniaeth fyddai bod yr hyn sydd yn hen arfer gan y Bwrdd yn dod yn ofynnol yn gyfreithiol.

Materion eraill

Mae Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 yn cyfeirio’n benodol mai elfen waethygol wrth roi dyfarniad yw “cuddio, dinistrio neu ddatgymalu’r corff”. Mae hawl gan y Llysoedd felly i roi dedfryd hwy i’r rhai sydd yn celu lleoliad y dioddefwr.

Mae’n annhebygol bydd Cyfraith Helen yn newid llawer ar ddedfrydu troseddol, ond mae’n dangos bod y llywodraeth hon yn canolbwyntio o’r newydd ar faterion dedfrydu, sydd yn awgrymu bod fframwaith dedfrydu llymach ar y ffordd yn fuan.

Sut gallwn helpu?

Am gyngor arbenigol, cysylltwch a Bethan Williams ar 01758 455 500, a gadewch i ni helpu gyda chyngor ar sut i bledio, ar amddiffyniad a dedfrydau posibl mewn nifer eang o amgylchiadau.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.