STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Cwmniau Prawf Preifat yn methu yn eu dyletswydd tuag at ddioddefwyr, a chymdeithas

Cwmniau Prawf Preifat yn methu yn eu dyletswydd tuag at ddioddefwyr, a chymdeithas

Dyddiad: 2018-09-27

Ychydig flynyddoedd yn ol rhannwyd y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn ddwy’ ran. Parhaodd y Gwasanaeth fel ag yr oedd i oruchwylio troseddwyr risg uchel, yn fwyaf arbennig rhai oedd yn treulio cyfnodau hir yng ngharchar, neu rai a gofynion ail-sefydlu cymhleth. Ond cwmniau eraill sydd yn goruchwylio’r mwyafrif mawr o droseddwyr, gan gystadlu am bris i wneud y gwaith o ail-sefydlu troseddwyr, a’r dulliau talu yn aml yn ddibynnol ar lwyddiant.Bu archwiliad manwl i’r trefniadau yn ystod y misoedd diweddar, ac mae’r darganfyddiadau’n bur frawychus a dweud y lleiaf, ac yn achosi pryder. Sefyllfa neu broblem arbennig sydd yn achosi i lawer droseddu, ac os na chaiff y broblem honno ei datrys, mae ail-droseddu’n siwr o ddigwydd.Er enghraifft, rhaid i ddulliau ymdrin a phroblem cyffuriau, alcohol ac iechyd meddwl lwyddo, er mwyn dileu’r cylch o droseddu.

Yr wythnos hon astudiwyd carfan arall o droseddwyr, sef rhai yn cyflawni trais a chamdrin domestig. Camdrin o’r fath yw unrhyw enghraifft neu gyfres o enghreifftiau o ymddygiad o reoli, gorfodi neu fygwth, trais neu gamdrin rhwng pobl 16 oed a throsodd sydd, neu fu mewn perthynas glos, neu sydd yn aelodau o’r un teulu, waeth beth fo eu rhyw na’u rhywioldeb. Mae’r camdrin yn cynnwys creu niwed seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol a/neu emosiynol.Yn hytrach na bod yn drosedd ynddo’i hun, dibynna camdrin domestig ar gefndir a chyd-destun y troseddu.

Ni ellir cyfeirio at gamdrin domestig fel un drosedd unigol, ond yn hytrach, ystod o droseddau o fewn y patrwm ymddygiad, yn cynnwys:

  • Trais corfforol
  • Niwed seicolegol neu emosiynol
  • Trais rhywiol
  • Trais “ar sail dyletswydd” (e.e.priodas orfodol)
  • Aflonyddu
  • Stelcio
  • Trais rhwng gangiau
  • Rhannu neu anfon fideos neu luniau preifat a phersonol o berson arall heb ei ganiatad.(h.y. pornograffi dial)
  • Ymddygiad o reoli a gorfodi

Amcangyfrifir i 2 filiwn o bobl ddioddef camdriniaeth ddomestig llynedd. Mae canran sylweddol o’r rhai sydd yn derbyn gwasanaeth prawf yn rhai sydd wedi cyflawni camdrin domestig, a dyna ran fawr o waith y Cwmniau Ail-sefydlu Cymunedol. Profwyd mai yn y maes hwn mae’r gofynion mwyaf cymhleth o safbwynt ail-sefydlu, ac mae adfer y troseddwyr hyn yn hanfodol i amddiffyn y cyhoedd, ac i arwain y troseddwr i fyw bywyd heb dreisio na chamdrin yn y dyfodol.

Yn anffodus mae cynnwys adroddiad arall yn codi cwestiynau dwys iawn:

“Yn gyffredinol ni allai gweithwyr ( y cwmniau prawf) roi gwasanaeth o ansawdd da wrth ddelio a chamdrin domestig. Roedd pwysau gwaith yn drech na hwy, ac roedd llawer angen mwy o hyfforddiant a goruchwyliaeth. Roedd rhai dibrofiad yn gorfod ymdrin a phroblemau cymhleth, ac oherwydd y pwyslais ar weithio”o bell” gan rai Cwmniau (C.R.C.). nid oedd modd cael cefnogaeth eu cyd-weithwyr Arweiniodd diffyg gwybodaeth a sgiliau, a’r amser roddir i ymdrin a thrais domestig i ddiffygion sylweddol yn ansawdd y gwasanaeth. Arwynebol oedd llawer o asesiadau; nid oedd y cyfarpar oedd gan y gweithwyr bob amser yn help i ddadansoddi ac asesu’r achosion yn drwyadl. Felly nid oedd modd iddynt ddeall cefndir y camdrin ym mhob achos, na’r ffactorau ynghlwm wrth yr ymddygiad. Roedd rhai cynlluniau yn gweithio ac yn cynnwys amcanion drefnwyd yn addas ar gyfer yr unigolyn dan sylw, ond prin oedd yr enghreifftiau hynny. Roedd lle i bryderu’n fawr am beth o waith y Cwmniau wrth geisio amddiffyn dioddefwyr ( ac yn enwedig plant).Prin oedd y cyd-berthynas rhwng ansawdd y gwasanaeth a gweledigaeth y Cwmniau ar gyfer dioddefwyr. Methai llawer ddeall yn iawn beth oedd effaith camdrin domestig ar deuluoedd, na pa mor berthnasol oedd cyfuno gwahanol agweddau er mwyn rheoli’r perygl o niwed.Roedd y canolbwyntio’n gyfangwbl ar yr unigolyn oedd wedi troseddu, a’r asesiadau a’r cynlluniau yn arwynebol.Nid oedd digon o ddadansoddi llais ac anghenion dioddefwyr, na’r wybodaeth oedd ar gael gan asiantaethau eraill oedd yn cydweithio a hwy, er mwyn lleihau’r perygl o niwed. Weithiau roedd gormod o ddibynnu ar benderfyniadau asiantaethau eraill, fel gofal cymdeithasol i blant a’r NPS, ynglyn a lefel perygl niwed a gwarchod, heb wneud yn sicr eu bod yn ddilys. Felly ni lwyddent bob amser i wneud penderfyniad effeithiol ynglyn a sut i warchod dioddefwyr a phlant, nac i sylweddoli mai rhan greiddiol o’u gwaith yw monitro rheolaeth allanol, fel gorchymyn atal, a’u bod hefyd i ymweld a chartrefi.”

Pam bod hyn yn bwysig?

Gwelwn lawer o gleientau sydd yn wirioneddol edifar am eu hymddygiad troseddol ac angen help i ddelio a’r rhesymau wrth wraidd eu problem. Mae cymdeithas nad yw’n llwyddo i helpu troseddwyr i ail-sefydlu yn mynd i dalu’n ddrud, yn ariannol ac mewn ffyrdd gwaeth. Rhaid i’r rhai sydd yn gwneud y polisiau ymdrin a’r pryderon fynegwyd mewn adroddiadau diweddar, gan ei fod yn fater o frys.

Cysylltwch a Michael Strain ar 01758 455 500 neu michael@strainandco.co.uk am help gyda unrhyw gwestiwn cyfreithiol.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.