STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Chwarae Gwleidyddiaeth yn erbyn Tor-cyfraith.

Chwarae Gwleidyddiaeth yn erbyn Tor-cyfraith.

Dyddiad: 2019-11-29

A ninnau ar ganol ymgyrch etholiad cyffredinol nid annisgwyl bod trafod “ cyfraith a threfn” yn y newyddion wrth i’r prif bleidiau gwleidyddol ymladd am bleidlais y bobl.

Fel cwmni, ni chynigiwn unrhyw farn o ran plaid wleidyddol, ond er hynny, mae’n werth sylwi ar rai o’r datganiadau diweddar.

Llofruddio plant

Mae’r Torïaid yn argymell “ gorchymyn carchar am oes” fel man cychwyn cosb i unigolyn 21 oed neu fwy sydd yn llofruddio plentyn dan 16 oed.Golyga hyn na fyddai byth yn cael yr hawl i barôl.Mae Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 eisoes yn cynnwys mesurau ynglŷn a hyn, ond ar yr wyneb, argymhelliad y Torïaid yw tynhau ar y rheolau hyn.Yn ôl ein asesiad ni, petae hyn yn dod i rym, mae’n anhebygol y byddai’n effeithio ar fwy nac un neu ddau achos y flwyddyn.

Trosedd cyllyll

Mae’r drosedd hon yn uchel ar yr agenda boliticaidd, ac rydym wedi trafod y testun hwn yn ddiweddar iawn. Mae’r Torïaid yn argymell newid i’r pwerau stopio ac archwilio, a delio’n gyflym yn y llysoedd gyda’r rhai sydd yn cael eu harestio.Mae unrhyw newidiadau i’r rheolau stopio ac archwilio yn debygol o fod yn ddadleuol; ac a yw’r arian roddir ar hyn o bryd i’r system cyfiawnder troseddol yn ddigonol i ymdrin ag unrhyw gynlluniau sylfaenol newydd.

Plismona

Datganwyd eisoes gan y Torïaid y cyflogir 20,000 yn fwy o blismyn, felly mae’n deg dychmygu, os cyrhaeddir y targed hwnnw,a chymryd popeth arall i ystyriaeth, bydd mwy o bobl yn cael eu harestio a’u dwyn o flaen y llysoedd.Ond eto mae’r adnoddau ariannol yn y maes hwn heb eu datrys.Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi addo £300,000 yn ychwanegol ar gyfer plismona lleol.

Y Bwrdd Parol

Mae’r Torïaid wedi datgan newidiadau pellach i’r ffordd mae’r Bwrdd yn gweithredu, er mwyn i’r proses fod yn fwy tryloyw, a ”chanolbwyntio mwy ar y dioddefwr”.Eu bwriad yw cynnydd o 25% yn y “ taliad ychwanegol i ddioddefwyr”.

Ai etholid “ Cyfraith a Threfn” yw hon ? Trodd y Torïaid yn ôl at thema “cyfraith a threfn” draddodiadol, sef agwedd lem tuag at dor-cyfraith a’i achosion.Yn ogystal a chosbi, mae addewid am well cynlluniau ail-sefydlu ar ôl carchar, a dewisiadau cadarnach i gosbi yn hytrach na charchar.

Nid yw’r pleidiau eraill yn arwain ar y mater hwn i’r un graddau, ond maent i gyd yn addo gwell adnoddau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ac mae hyn yn sicr o gynnwys plismona.

Gofalu cadw golwg manwl ar y datblygiadau fyddwn ni. Beth bynnag fydd y cyfreithiau a ddaw gan y llywodraeth nesaf, gwnawn yn sicr ein bod yn amddiffyn hawliau a gwarchodaeth y rhai y byddwn ni yn eu cynrychioli.Byddwn yn sicrhau nad yw unrhyw ddatblygiadau cyfreithiol ddaw i rym yn amharu ar eich hawliau sylfaenol chi, nac ar eich rhyddid.

Sut gallwn helpu?

Gallwn roi cyngor ar unrhyw ymholiad neu erlyniad troseddol. Os ydych angen cyngor, cysylltwch a Michael Strain ar 01758 455 500, a gadewch i ni helpu.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.