STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Celwydd?

Celwydd?

Dyddiad: 2017-10-22

Mae “Liar”, drama newydd mewn chwe rhan ar ITV, yn cael gafael ar y wlad, a phobl eisoes yn penderfynu a yw Laura, bortreadir gan yr actores Joanne Froggatt (mwy adnabyddus am ei rhan fel Anna Bates yn Downton Abbey),yn dweud y gwir wrth gyhuddo’r lllawfeddyg Andrew o’i threisio.

I’r mwyafrif ohonom, dyma ddrama gyffrous i’w gwylio, a newid meddwl aml ynglyn a phwy i’w gredu; newidir ein barn yn aml gan ddyfeisgarwch y plot a’r sgript soffistigedig.

Does dim syndod fod rhai eisoes wedi ffurfio barn, a dangosodd ymchwil diweddar i hanner y rheithgor gael y diffynnydd yn euog heb hyd yn oed drafod gyda gweddill y rheithgor. gwyddom fod pobl ar adegau yn barod i newid meddwl, yn union fel y gallech chi newid meddwl wrth i’r stori ddatblygu.

Mae’n hanfodol felly rhoi achos cryf gerbron o’r dechrau, i osod sylfaen gadarn i amddiffyniad llwyddiannus.

Ein rhan ni.

Gall gwynebu cyhuddiad o drais neu unrhyw drosedd rywiol arall fod yn brofiad echrydus i’n clientau a’u teuluoedd.Felly,beth yw ein gwaith ni a sut gallwn amddiffyn mewn achosion o’r fath?

Agwedd ymatebol .

Dechreuwn bob amser gyda’g agwedd ymatebol.Mae’r dioddefwyr yn datgan eu bod yn feddw, a’n clientau ni yn datgan yn hytrach eu bod yn sobr.Un person yn honni iddo fynd i mewn i’r ystafell wely heb ganiatad;ein cleient yn dweud iddo gael gwahoddiad, ac yn y blaen.

Gallwn gychwyn ffurfio ein hamddiffyniad gyda’r gwaith pwysig yma, ond nid oes gennym y fantais o allu dilyn y digwyddiad yn fyw ar sgrin deledu o’n blaenau a’r gwir yn cael ei ddatgelu ar y diwedd.

Yn hytrach y cyfan sydd gennym yw dwy stori wahanol, a gellir teimlo mai gair un yn erbyn y llall yn syml ydyw, a dyna mewn gwirionedd sydd yma heb i ni fynd i chwilio am fwy o dystiolaeth.

Yr agwedd proactif i baratoi achos sy’n gwneud y gwahaniaeth.Byddwn bob amser yn sicrhau:

• cael gafael ar bob tyst perthnasol. • dilyn unrhyw dystiolaeth camera cylch cyfyng (CCTV) • tystiolaeth fforensig wedi ei ddadansoddi yn fanwl. • cwblhau ymchwiliadau cefndir. • manylion ymchwiliad i ddatganiadau celwyddog.

a hyd yn oed, fel sy’n cael ei grybwyll yn barod yn “Liar”,ymchwilir i unrhyw broblemau seiciatryddol.

Deallwn hefyd y pwysau personol arnoch chi a’ch teulu mewn achosion cyfreithiol, a byddwn yn cynnig cydymdeimlad a chefnogaeth mewn cyfnod pan mae’r dyfodol yn ymddangos yn dywyll iawn.

Ein gwasanaethau.

Mae gan Strain a’i gwmni flynyddoedd o brofiad o amddiffyn mewn achosion o’r fath.Cyn cyflwyno eich achos i unrhyw gwmni arall dewch i gyfarfod a ni i brofi ein harbenigedd a sicrhau eich bod yn cael yr amddiffyniad gorau posibl.

Un cyfle yn unig sydd gennych i gael hyn yn iawn , felly ni ellir ystyried unrhyw lwybr arall .

Cynigiwn wasanaeth preifat i’n clientau am delerau fforddiadwy, ac mae cymorth cyfreithiol ar gael mewn rhai achosion.

Felly os cewch eich arestio neu eich cyhuddo o unrhyw drosedd,galwch Strain a’ gwmni ar 01758 455500 i drefnu apwyntiad,neu anfonwch e-bost i office@strainandco.co.uk

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.