STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Arson a difrod troseddol

Arson a difrod troseddol

Dyddiad: 2019-07-03

Heddiw cyhoeddwyd canllawiau gan y Cyngor Dedfrydu ynglyn a chyflawni arson a phob math o ddifrod troseddol, yn ogystal a difrodi eiddo. Roedd canllawiau yn bod eisoes, ond y farn oedd eu bod yn llawer rhy gyfyng, ac yn ymwneud ag achosion Llys Ynadon yn unig.Nid oedd unrhyw ganllawiau ar gyfer Llys y Goron sydd yn ymdrin a’r troseddau mwy difrifol.

Pwrpas canllawiau o’r fath yw sicrhau bod llysoedd yn rhoi dedfryd addas a chyson ymhob un o’r achosion amrywiol iawn hyn.

Rhaid i farnwr ddilyn canllawiau dedfrydu onibai bod ei ddyfarniad er mwyn cyfiawnder.

Defnyddir y canllawiau newydd yn lle’r rhai oedd yn bodoli yn y Llys Ynadon, a chant eu ehangu i Lys y Goron, yn achos pob troseddwr dros 18 oed. Yn ol y Cyngor Dedfrydu, bydd y canllawiau newydd yn sicrhau bydd llysoedd yn ystyried:

  1. Effaith llawn y tan neu’r difrod troseddol, fel fandaliaeth ar eiddo treftadaeth genedlaethol, yn cynnwys adeiladau rhestredig, delweddau hanesyddol, neu rannau unigryw o dreftadaeth genedlaethol a hanes.
  2. Effaith economaidd a chymdeithasol creu difrod i fwynderau a gwasanaethau cyhoeddus, megis tan mewn ysgol neu ganolfan gymdeithasol, neu ddifrod troseddol mewn gorsaf reilffordd all gael effaith andwyol ar gymunedau lleol, neu greu caledi i dai neu fusnesau cyfagos.
  3. Effaith ar gymunedau os nad yw gwasanaethau neu adnoddau argyfwng ar gael oherwydd eu bod yn gorfod ymateb i achos o drosedd.

Man cychwyn yw’r canllawiau, ac amrediad y categoriau cynnau tan yn fwriadol, cynnau tan a difrod troseddol ( gan fwriadu peryglu bywydau, neu bod yn ddihid a fydd bywydau mewn perygl ai peidio), difrod troseddol ysgogwyd gan hiliaeth neu grefydd, dros neu dan £5000, a bygythiadau i ddifrodi a difetha eiddo.

Yn ol y canllawiau rhaid i’r sawl sydd yn dyfarnu benderfynu maint “euogrwydd” y troseddwr, gan ystyried pethau fel cynllunio a “niwed”, yn cynnwys y niwed corfforol neu seicolegol achoswyd, gwerth y difrod wnaed, ac unrhyw golledion pellach achosir gan y difrod.Os oes sail hiliol neu grefyddol i’r troseddau, gosodir hwy ar lefel mwy dwys, a hyn yn golygu cosb fwy llym, ac yn codi’r drosedd yn uwch na’r trothwy carcharu.

Fel enghraifft, byddai difrod troseddol dan £5000 yn cynnwys elfennau o gynllunio ac achosi lefel uchel o ddifrod a gofid yn arwain at orchymyn cymdeithasol lefel uchel, yn amrywio o orchymyn lefel ganolig i 3 mis o garchar.Pe bai hon yn drosedd hiliol, a’r hiliaeth yn rhan allweddol o’r drosedd, byddai isafswm y gosb yn debygol o godi i garcharu.

Wrth ymateb i’r canllawiau newydd,dyma ddywedodd John Bache U.H.,Cadeirydd Cenedlaethol Cymdeithas yr Ynadon: “’Rydym yn falch iawn bod canllawiau newydd ar gyfer Arson a Difrod Troseddol wedi eu cyhoeddi, ac ar gael i ynadon o Hydref 1af ymlaen. Byddant o gymorth mawr i ynadon wrth ymdrin a’r achosion pwysig yma, ac yn rhestru’r ffactorau perthnasol ar gyfer penderfynu faint o niwed achoswyd, yn ogystal a chanolbwyntio ar y difrod ei hun.Ond os oes gan droseddwr broblemau iechyd meddwl neu anableddau dysgu, mae’n rhaid i’r llysoedd gael asesiadau er mwyn deall yn iawn os yw hyn yn amharu ar eu heuogrwydd, a bydd y canllaw hwn yn sicrhau bydd hyn yn digwydd.”

Sut gallwn helpu?

Os am gyngor arbenigol cysylltwch a Michael Strain ar 01758 455 500, a gadewch i ni helpu. Gallwn roi cyngor ar bob agwedd o’ch achos.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.