14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Translation here soon…
Nid dirwy yw’r gosb arferol roddir yn Llys y Goron, ond pan ddigwydd hynny, mae’n tueddu i fod yn swm uchel iawn.
Oes rhaid talu’r ddirwy i gyd ar unwaith?
Weithiau bydd y llys yn gorchymyn taliad llawn ( o fewn amser penodedig),ond mewn llawer achos bydd gorchymyn I dalu hyn a hyn yr wythnos neu’r mis.
Yn y sefyllfaoedd canlynol ni chewch amser i dalu ( ac felly cewch eich carcharu yn syth os methwch dalu):
a) Os mai carchar yw’r gosb arferol am eich trosedd, a’r barnwr yn credu bod gennych ddigon o fodd talu dirwy yn syth. b) Nid yw’r barnwr yn credu yr arhoswch yn ddigon hir yn eich cyfeiriad presennol ym Mhrydain i orfodi dulliau eraill o gosbi os methwch dalu’r ddirwy. c) Pan gewch y ddirwy, mae’r barnwr yn eich dedfrydu i garchar yn syth, i garchar am oes, neu eich cadw mewn canolfan ddisgyblu i droseddwyr ifanc, am y drosedd hon , neu drosedd arall; neu ei fod yn eich dedfrydu yn y modd yma am drosedd yn ychwanegol at fforffedu ei ymrwymiad; neu eich bod eisoes yn y carchar am oes, neu’n treulio cyfnod mewn carchar neu ganolfan ddisgyblu.
Cytuno ar gyfnod o amser yn niffyg talu. Yn unol ag Adran 139 o Ddeddf Pwerau Troseddol ( i ddedfrydu) 2000, rhaid I’r llys benodi cyfnod o garchar yn niffyg talu dirwy.Mae’r carchariad hwn yn ychwanegol at unrhyw gyfnod o garchar y gellid ei gael os na thelir dirwy: “Diben gorchymyn dedfryd o garchar yn niffyg talu yw sicrhau, os oes modd,, bod diffynydd sydd a digon o asedau i allu codi’r arian benodwyd, yn talu, ac na ddylai elwa o gwbl trwy beidio a thalu.Mae’r hawl yna’n deillio nid yn unig o achosion blaenorol, ond o’r gofynion stadudol eu hunain.” (R v Smith (2009) EWCA Crim 344).
Dibynna’r cyfnod hwyaf o garchar ar faint y ddirwy:
Swm dan £200 - 7 niwrnod
Swm dros £200 ond o dan £500 - 14 diwrnod
Swm dros £500 ond dan £1000 - 28 niwrnod
Swm dros £1000 ond dan £2500 - 45 niwrnod
Swm dros £2500 ond dan £5000 - 3 mis
Swm dros £5000 ond dan £10000 - 6 mis
Swm dros £10000 ond dan £20000 - 12 mis
Swm dros £20000 ond dan £50000 - 18 mis
Swm dros £50000 ond dan £100000 - 2 flynedd
Swm dros £100000 ond dan £250000 - 3 blynedd
Swm dros £250000 ond dan £1 filiwn - 5 mlynedd
A yw’r llys bob amser yn rhoi’r cyfnod hwyaf o garchar os gwrthodir talu dirwy? Bydd yn dibynnu ar faint y ddirwy a lleoliad y swm o fewn y rhestr uchod. Mae’n debygol felly gyda dirwy o £55000 i’r cyfnod o garchar am ddiffyg talu fod yn nes i 18 mis na 2 flynedd. syddOnd nid ymarfer mathemategol sydd yn penderfynu.
Back to view all blog posts.
> Personal Injury
> Matrimonial & Family Law
> Criminal
> General Disputes & Litigation
> Legal Costs Funding & Appeals
> Resources & Articles
> Accreditations & Awards
> Testimonials
>Private Client Rates
Address: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd
Phone: 01758 455500
E-mail: office@strainandco.co.uk
© 2024 Strain and Company. Authorised and Regulated by the SRA firm no 644052. All Rights Reserved. Privacy Notice.
Website by Delwedd.