STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Ewch ar ol yr arian

Ewch ar ol yr arian

Date: 2017-12-07

Translation here soon…

Brawddeg braidd yn ystrdebol o’r ffilm “All the President’s Men” yw “Ewch ar ol yr arian”, ffilm am y sgandal oedd yn amgylchynu’r Arlywydd Nixon yn y 1970au. Ond heddiw, hyd yn oed, y man cychwyn wrth ymchwilio i achosion o dwyll yw’r trywydd ariannol, trywydd sydd yn mynd yn gynyddol anos i’w ddilyn. Ychydig amser yn ol, roedd dulliau twyllo yn eithaf cyfyngedig, ac o’r herwydd yn bur syml i’w datrys. Ond mae’r sefyllfa wedi newid, gan fod marchnadoedd arian ar draws y byd yn cyfnewid biliynau o bunnoedd yn ystod pob awr o fasnachu. Mae’r darlun yn fwy cymhleth fyth gyda dyfodiad (dulliau cryptig) o gyfnewid a buddsoddi arian; termau Saesneg megis (swaps, derivatives, forwards) yn ogystal a gwarantau, bondiau a marchnadoedd eilaidd.

Pam mae hyn yn bwysig?

Mae’n bwysig i ni fel cyfreithwyr gan nad yw dealltwriaeth o’r gyfraith yn unig yn ddigon i amddiffyn yn llwyddiannus yn yr achosion cymhleth hyn. Rhaid i’ch cyfreithwyr yn gyntaf ddeall y cefndir a’r hinsawdd lle cyflawnwyd y drosedd..Rhaid i’ch cyfreithiwr allu siarad yn hyderus gan ddefnyddio’r un termau iaith a chi.

Ond mae’n anhygoel, yn ddiweddar, mewn achos o amlygrwydd arbennig bod tyst ar ran yr erlyniad oedd i fod yn arbenigwr, wedi mynd i’r fath ddyfroedd dyfnion nes iddo orfod cael ei gynghori am ystyr termau ariannol sylfaenol. Dyma sylw’r Llys Apel am hyn:

Mae’n fater difrifol pan mae’r Goron mewn erlyniad pwysig dros ben yn galw ar dyst sydd ar goll yn llwyr. Waeth beth fydd canlyniad yr achos, mae’r llanast yma, oherwydd dyna’r gair a ddefnyddiwn i’w ddisgrifio yn ein dyfarniad, yn fater o bwys difrifol iawn yn ein tyb ni.Rydym eisiau gwybod sut y cafodd ei gyfarwyddo ac yntau heb yr arbenigedd.Rydym yn bryderus iawn am hyn, yr ymroddiad y dylid ei sicrhau, a’r modd y daeth hyn i’r amlwg. Mae’n sefyllfa sydd yn ein poeni. Cafodd y tyst yma ei (groesholi yn ddeifiol) gan fargyfreithiwr yr amddiffyniad.

Mae gwybodaeth arbenigol yn bwysig. Er bod Llysoedd Apel yna i gywiro camgymeriadau, ni olyga hynny bod pob camgymeriad yn ystod y treial yn golygu bydd y diffynydd yn ei gael yn ddieuog. Felly rhaid I bethau fod yn gywir y tro cyntaf. Rhaid cael tim amddiffyn sydd yn deall materion ariannol rhyngwladol yn drwyadl, rhai fydd yn medru datrys cymhlethdodau eich achos, ac yn medru cydweithio gyda bargyfreithwyr o’r radd flaenaf gyda’r gallu I wrthwynebu (croesholi deifiol).

Mae gennym enw da am amddiffyn mewn achosion o droseddau ariannol cymhleth, felly cyn ymddiried eich achos i unrhyw un arall, cysylltwch a ni i drafod eich opsiynau.

Back to view all blog posts.

 

Contact Us

Address: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Phone: 01758 455500

E-mail: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain and Company. Authorised and Regulated by the SRA firm no 644052. All Rights Reserved. Privacy Notice.

Website by Delwedd.