STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Yr hawl i gael eich anghofio

Date: 2018-01-31

Translation here soon…

Bu maddeuant yn rhan bwysig o’n system gyfreithiol erioed; rydych yn cyflawni trosedd, ac yn derbyn eich cosb, ond wedi talu’ch dyled, dylech fod yn rhydd wedyn i ail-ddechrau, heb ysbrydion o’r gorffennol yn eich poenyddio yn barhaol.Cydnabyddwn bod rhaid cael cyfyngiadau i’r gred yma, felly os cafwyd chi’n euog o lofruddio neu dreisio, anhebygol y gallwch byth ddileu’r gorffennol. Ond am drosedd gymharol fach, neu mor bell yn ol fel nad yw bellach yn berthnasol, gallech ddisgwyl cael symud ymlaen a’ch bywyd.Cyn oes y rhyngrwyd roedd hyn yn bosibl. Buan yr anghofid newyddion lleol ac roedd pobl yn medru symud I ffwrdd I fyw ac ail-ddechrau.

Ond heddiw, gyda datblygiad newyddion ar lein ac unrhyw un bron yn cael cyhoeddi bron unrhyw beth, mae’n ddarlun tra gwahanol .Mae dulliau chwilota pwerus fel Google yn sicrhau os oes gwybodaeth allan yna, mae ffordd o ddod o hyd iddo. Felly, i wrthwynebu hyn mae trafod yn awr am “yr hawl I gael eich anghofio”, a dyna lle mae cyfreithiau gwarchod manylion yn cael eu gweithredu.

Nid syniad newydd yw’r hawl yma wedi ei gyflwyno dan ddeddfau gwarchod data Roedd Llywodraeth Prydain yn cydnabod yr egwyddor hon flynyddoedd yn ol gyda’r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974.Yn ol y Ddeddf hon mae troseddau blaenorol rhywun yn cael eu dileu ar ol cyfnod priodol (mae’r cyfnod hwn yn amrywio yn dibynnu ar y ddedfryd a roddwyd.) Y meddylfryd tu ol i hyn yw, ar wahan i’r troseddau mwyaf difrifol,na ddylai fod blot ar eu cofnod am oes, ond bod ganddynt hawl i fyw heb y cysgod hwnnw, a’r effaith posibl ar eu gwaith neu adrannau eraill o’u bywydau.

Roedd yr egwyddor yr hawl i gael eich anghofio yn cael ei chydnabod gan gyfraith wladwriaethol lawer blwyddyn yn ol felly, cyn i gyfreithiau gwarchod data ymddangos.Dangos mae’r ffaith ei fod wedi codi ei ben ym maes gwarchod data, yn syml, y datblygiad sylweddol mae’r rhyngrwyd yn ei gynnig i rannu gwybodaeth.

Beth mae’r gyfraith yn ei ddweud?

O ganlyniad i gysoni cyfreithiau gwarchod data ar draws yr Undeb Ewropeaidd, mae gan Lys Cyfiawnder Ewrop awdurdod i ddatrys problemau sy’n codi o achosion gwarchod data. Gall llysoedd mewn gwledydd sydd yn aelodau o’r U.E gyfeirio achosion i Lys Cyfiawnder Ewrop ynglyn a rheoliadau ar sut i ddehongli’r gyfraith.

Mae un achos o’r fath -Google Spain SL-V-Agencia Espanol de Proteccion de Datos (AEPD) (Achos C- 131/12, 13 Mai 2014) (2014) Q13 1022 - wedi dod yn bur adnabyddus, ac yn destun dadlau cyhoeddus.

Ar lafar gwlad fe’i gelwir yr Achos Google Sbaen. Dyma’r achos ddaeth a’r syniad o’r hawl i gael eich anghofio i amlygrwydd mewn gwirionedd Yn syml iawn, penderfynnodd yr achos na ddylai gwybodaeth arbennig am rhywun fod ar gael i’r cyhoedd ar y rhyngrwyd ar ol cyfnod o amser ( er ei fod hwyrach yn gywir lawer blwyddyn yn ol, ac yn dal I fod o bosibl); buasai hyn yn tresmasu ar hawliau gwarchod data y person dan sylw. Ond nid oedd yr hawl yn ddiamod. Roedd ystyriaethau eraill allai droi’r fantol yn ei erbyn.

Dyma eglurhad y Llys:

Rhaid egluro ar y cychwyn bod prosesu manylion personol ( fel y rhai oedd yn destun dadl yn y prif achos) gan rhywun yn defnyddio peiriant chwilio’r rhyngrwyd yn debygol o gael effaith sylweddol ar hawliau preifatrwydd a gwarchod manylion personol pan mae’r chwilio yma’n digwydd ar sail enw’r unigolyn.Mae hyn yn galluogi unrhyw un sydd yn defnyddio’r rhyngrwyd I; ddod o hyd i’r wybodaeth am y person hwn sydd ar gael ar y we, yn syml trwy fynd drwy’r rhestr canlyniadau; gwybodaeth posibl am nifer fawr o agweddau o’i fywyd personol, na fyddai wedi eu cydgysylltu, ( neu byddai wedi bod yn anodd iawn gwneud hynny), onibai am y chwiliwr rhyngrwyd, ac felly gallu ffurfio darlun manwl ohono.

Mae effaith yr ymyrryd a hawliau’r unigolyn dan sylw yn fwy oherwydd rhan bwysig y rhyngrwyd a’r peiriant chwilio yn y gymdeithas fodern, sydd yn gwneud y wybodaeth mewn rhestr o’r fath yn hollbresennol O ystyried pa mor ddifrifol y gall yr ymyrraeth yma fod, mae’n amlwg na ellir ei gyfiawnhau, yn syml oherwydd diddordeb defnyddiwr y we yn y prosesu .

Eto, yn dibynnu ar effaith tynnu rhai o’r cysylltiadau o’r rhestr canlyniadau, gallai hynny effeithio ar ddiddordeb cyfreithlon defnyddiwr y we.Yr hyn sydd ei angen yw cydbwysedd teg rhwng y diddordeb hwn a hawliau sylfaenol yr unigolyn y rhoddir manylion amdano ar y we Tra mae’n wir fel arfer bod hawliau’r unigolyn hwn yn bwysicach na diddorde defnyddwyr y rhyngrwyd, gall y cydbwysedd hwnnw, mewn rhai achosion, ddibynnu ar natur y wybodaeth a roddir, a’i sensitifrwydd i fywyd personol yr unigolyn, ac ar ddiddordeb y cyhoedd i gael y wybodaeth yma; mae’r diddordeb yn amrywio, yn enwedig o ystyried y rhan yr unigolyn mewn bywyd cyhoeddus.

Mae gwahaniaeth barn amlwg ymysg y cyhoedd ynglyn a’r egwyddor hon. Mae rhai yn poeni y gallai’r hawl i gael eich anghofio gael ei gamddefnyddio,ac arwain at sensoriaeth o’r wybodaeth sydd ar gael ar y rhyngrwyd. Cynhelir achosion troseddol bob amser yn gyhoeddus. gall manylion am bobl gafodd eu dedfrydu am droseddau ymddangos ar gofnod cyhoeddus, yn amlach na pheidio o ganlyniad i adroddiadau papur newydd am achosion o’r llys.Mae’r rhai sydd yn gwrthwynebu’r <hawl i gael eich anghofio> yn dadlau na ddylid rhwystro mynediad i wybodaeth o’r fath trwy gyfyngu ar beth all ymddangos yn y canlyniadau ar beiriannau chwilio’r rhyngrwyd.

Dyma faes arall o’r gyfraith ble mae gwrthdaro rhwng dau hawl dynol. Mae’r hawl i gael eich anghofio yn rhan o’r hawl i breifatrwydd, ac mae gwrthdaro rhyngddo a’r hawl i ryddid mynegi barn ( sydd yn cynnwys yr hawl i dderbyn yn ogystal a rhannu gwybodaeth).Pan gyfyd dadl fel hyn, rhaid i’r Llys yn y pen draw benderfynu sut i sicrhau cydbwysedd mewn achos unigol

Beth am Lysoedd Prydain?

Mae’r Uchel Lys yn mynd i benderfynu yn fuan ar hyn yn y D.U. Mae’r hawlwyr mewn dau achos o flaen y Llys ( yn Chwefror a Mawrth 2018) yn ddau berson ( nid yw’r un o’r ddau yn <berson enwog> nac yn wleidydd) wedi eu cael yn euog o droseddu o’r blaen,ond erbyn hyn wedi eu rhyddhau o’r collfarnau dan Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974.

Dedfrydwyd un yn niwedd y 90au am gynllwynio i gyfrifyddu anwir. Dros 10 mlynedd yn ol dedfrydwyd y llall am gynllwynio i atal negeseuon.Mae’r ddau’n honni bod Google yn dal i roi cysylltiadau am eu dedfrydau, mewn ymateb i ymchwiliadau i’w henwau. Cysylltiadau i adroddiadau papur newydd yn cofnodi yr achosion llys gwreiddiol yw rhai maent yn cwyno yn eu cylch.Maent yn dadlau bod hawl ganddynt bellach gael dileu’r manylion hyn o beiriant chwilio Google Wyddom ni ddim i sicrwydd beth fydd gan yr Uchel Lys i’w ddweud, ond barn y mwyafrif o sylwebyddion yw mai dilyn penderfyniadau a wnaed eisoes gan yr Undeb Ewropeaidd fydd yn digwydd.Ond beth bynnag fydd canlyniad yr achos mae’n debygol iawn, yn y pen draw, i fynd o flaen y Goruchaf Lys.

Sut gallwn ni fod o gymorth?

I drafod unrhyw gwestiynau yn codi o’r erthygl hon,cysylltwch os gwelwch yn dda a Michael Strain ar 01758 455 500.

Back to view all blog posts.

 

Contact Us

Address: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Phone: 01758 455500

E-mail: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain and Company. Authorised and Regulated by the SRA firm no 644052. All Rights Reserved. Privacy Notice.

Website by Delwedd.