STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Wedi cael dedfryd gan Lys Ynadon, a oes modd apelio?

Date: 2017-11-30

Translation here soon…

Mae llawer yn anfodlon ar y dyfarniad ar ol cael dedfryd gan ynadon ac yn dymuno apelio.Hwyrach eu bod yn anfodlon oherwydd diffyg wrth baratoi eu hachos,neu am fod y llys wedi dod I benderfyniad anghywir.

I lawer gall dedfryd fod yn rhwystr mawr i gael gwaith neu i deithio dramor, hyd yn oed pan nad yw’r drosedd ei hun yn un ddifrifol iawn.Nid yw dulliau’r llys o weithredu yn berffaith o bell ffordd. Os oes gennych gwyn, mae’n deg i chi ystyried pa ddewisiadau sydd gennych.

Felly beth allaf ei wneud?

Rhaid sylweddoli yn gyntaf bod angen gweithredu ar unwaith,oherwydd ar ol diwrnod y ddedfryd dim ond 21 diwrnod sydd gennych i gyflwyno apel; peidiwch oedi cyn cysylltu a ni.Os oes rhagor na 21 diwrnod wedi mynd heibio,cysylltwch cyn gynted a phosibl gan y gallwn roi cyngor ar apeliadau hwyr. Pan gysylltwch gallwn hefyd drafod a fyddai dulliau eraill o apelio yn fwy addas, hynny yw ymchwiliad barnwrol neu fel achos datganedig,dau ddewis fydd yn gorfod mynd o flaen yr Uchel Lys

Oes modd apelio hyd yn oed os plediais yn euog? Hwyrach y byddai modd apelio yn erbyn y ddedfryd a chwithau eisoes wedi pledio’n euog, ond dim ond os oes ansicrwydd.Os felly gallwn ymchwilio i ddwy ffordd o ddatrys y broblem.

Beth sydd yn digwydd yn y gwrandawiad.apel?

Mae Llys y Goron, gyda Barnwr ac Ynadon.lleyg (nid rheithgor) yn gwrando ar yr achos eto.Ond mae gennym gyfle gwerthfawr i adolygu beth allai fod wedi mynd o’i le yn y treial cyntaf a chywiro unrhyw fethiannau.Gallwn hefyd edrych ar unrhyw dystiolaeth arall y dylid ei gasglu ar eich rhan,neu pa ffyrdd defnyddiol i’w dilyn I wrthwynebu’r erlyniad.

Os collaf fy apel beth sydd yn digwydd?

Cewch eich ail~ddedfrydu gan Lys y Goron a byddwch yn gyfrifol am dalu costau;r erlyniad.Byddwn yn trafod unrhyw gostau posibl yn fanwl gyda chi cyn gwneud unrhyw benderfyniad I apelio. Mae’n bwysig nodi nad yw Llys y Goron wedi ei gyfyngu i roi yr un ddedfryd a’r Llys Ynadon,felly gallech gael cosb fwy.Rhaid trafod ac ystyried y perygl yma,a dyna un rheswm pam byddwn yn ystyried ffyrdd eraill o apelio,sef ymchwiliad barnwrol neu achos datganedig.

Back to view all blog posts.

 

Contact Us

Address: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Phone: 01758 455500

E-mail: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain and Company. Authorised and Regulated by the SRA firm no 644052. All Rights Reserved. Privacy Notice.

Website by Delwedd.