STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Pan mae pobl yn crybwyll y gair Bitcoin mae'n amser gofyn cwestiynau

Date: 2018-01-19

Translation here soon…

Mae bitcoin a mathau eraill o arian cudd yn aml iawn yn y newyddion, yn bennaf am eu bod yn cynyddu’n sylweddol yn eu gwerth . Yr wythnos hon cododd gwerth un bitcoin i ychydig dros £10,000. Mae’n arian od, heb gefnogaeth unrhyw lywodraeth na stociau aur. Rhywbeth rhithwir ydyw mewn gwirionedd, a dim byd arall, a’i werth yn llwyr ddibynnol ar gyflenwad a galw;dyna;n wir yw un o’r ychydig nodweddion sydd yn gyffredin rhyngddo ag arian confensiynol.

Beth sydd yn ddeniadol yn ei gylch felly? Pam byddai rhywun eisiau cyfnewid £10,000 am un bitcoin, neu swm llai o arian am gyfran?Un o’r prif atyniadau yw ei fod yn bodoli ar draws ffiniau, y tu hwnt i reolaeth bancio traddodiadol a than fantell ddiogel anhysbysrwydd.Mae’r tair ffaith hudol yna yn gwneud y math yma o arian yn ddeniadol i bobl sydd angen gwyngalchu elw troseddau.

Nid oes gan unrhyw un ddiddordeb pwy sydd yn gwerthu, gellir newid yr elw yn unrhyw le yn y byd bron ( mae yna hyd yn oed beiriannau twll yn y wal yn rhai gwledydd gan gynnwys Lloegr) ac mae cwmni seiffro Blockchain wedi sicrhau na ellir gweithredu’r gyfraith yn y byd newydd hwn o gyllid rhyngwladol.Dyma sydd yn egluro cynnydd o 13 gwaith y gwerth mewn un flwyddyn yn unig, erbyn diwedd 2016.

Ond mwya’ yn y byd yw’r symiau sydd angen eu gwyngalchu, y mwya’ cymhleth a pheryglus yw hi i ddechrau’r gwerthiant.Dyna pryd mae rhan y dyn canol yn dechrau, rhywun sydd yn cytuno, un ai yn wirfoddol neu yn ddiarwybod, i brynu bitcoin, neu yn fwy arferol, i drosglwyddo symiau o arian ar ran gwyngalchwr arian, gan dderbyn tal am ei ran yn y gwaith .

Weithiau rhyw swm bach o ychydig o gannoedd o bunnau sydd dan sylw, ond yn allosodol (expolated) mae’n swm sylweddol. Gelwir y bobl yma yn fulod arian

Mae’r llywodraeth yn awyddus iawn i reoli yr arian newydd yma, ac mewn datganiad diweddar i’r senedd dywedodd gweinidog y Trysorlys:

Mae Llywodraeth Prydain ar hyn o bryd yn trafod newidiadau i’r 4ydd Gorchymyn Gwrthwynebu Gwyngalchu Arian i sicrhau bod y math yma o ddulliau cyfnewid arian cyfredol, a’r bobl sydd yn gweithredu i warchod yr arian yma yn dod dan reolaeth mesurau Gwrth Gwyngalchu Arian ac Ariannu Gwrthderfysgaeth, er mwyn sicrhau bod awdurdodau cenedlaethol cymwys yn y meysydd hyn yn arolygu gweithgareddau.r cwmniau yma.Mae.r Llywodraeth yn cefnogi amcan y newidiadau hyn. Disgwyiwn i’r trafodaethau ddod i ben ar lefel yr Undeb Ewropeaidd ddiwedd 2017 neu yn gynnar yn 2018.

Bydd pobl yn gallu helpu i wyngalchu arian, heb i’r awdurdodau fedru gwneud llawer i.w hatal, nes bydd y dulliau diogelu yma wedi eu sicrhau.

Hwyrach bod hyn i gyd yn swnio fel deunydd ffuglen, ond yn ystod 9 mis cyntaf 2017, cofnododd Cifas, y gwasanaeth atal twyll, fwy na 8652 achos o fulod arian. Rhan fach iawn o wyngalchu arian yw’r troseddu yma. Os cewch eich dal gall y gosb fod yn sylweddol, a’r llys yn dedfrydu i hyd at 14 blynedd o garchar.

Os yw’n ymddangos bod rhywun agos i chi wedi dod i arian, hwyrach dylech ofyn cwestiynau cyn iddi fod yn rhy hwyr.Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y llywodraeth: www.moneymules.co.uk. Os caiff rhywun ei dynnu i fewn heb yn wybod i wyngalchu arian, mae’n bwysig camu’n ol ac archwilio beth yn union ddigwyddodd, gyda mantais edrych ar y sefyllfa o bellter. Bydd dadansoddiad fforensig gofalus o’r amgylchiadau yn dangos unrhyw fanylion amddiffynnol sydd ar gael i unrhyw un sydd yn cael ei amau o wyngalchu arian.Nid yw gwneud camgymeriad gwirion yn drosedd ar hyn o bryd.

Os ydych angen cyngor am wyngalchu arian neu unrhyw fater troseddol arall, cysylltwch os gwelwch yn dda a Michael Strain ar 01758 455 500 neu office@strainandco.co.uk.

Back to view all blog posts.

 

Contact Us

Address: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Phone: 01758 455500

E-mail: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain and Company. Authorised and Regulated by the SRA firm no 644052. All Rights Reserved. Privacy Notice.

Website by Delwedd.