STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Lleihau trosedd a chreu cymunedau mwy diogel. (Welsh Only)

Date: 2021-04-26

Cyhoeddodd y llywodraeth eu bwriad i lunio deddfwriaeth newydd er mwyn “lleihau trosedd a chreu cymunedau mwy diogel.”Bwriad Mesur yr Heddlu,Trosedd,Dedfrydu a’rLlysoedd yw rhoi’r “pwerau a’r offer angenrheidiol i’r heddlu er mwyn gwarchod eu hunain a’r cyhoedd.”

Cynnwys y mesurau:

  1. Safleoedd o ymddiriedaeth.Bydd y ddeddfwriaeth bresennol yn cael ei hymestyn i gynnwys hyrwyddwyr chwaraeon,arweinwyr crefyddol,a rhai mewn swyddi fel meddygon ac athrawon. Yn oedolion y dylid gallu ymddiried ynddynt,gwaherddir hwy rhag cael perthynas rywiol gyda phobl ifanc dan 18 oed.
  2. .Troseddau gyda chyllyll.Bwriedir i ddeddfau newydd ei gwneud yn haws i stopio a chwilio rhai dan amheuaeth o fod yn cario cyllell neu lafn. 3.Gwersylla heb ganiatad.Bydd yr heddlu’n gallu delio ag unrhyw wersylla heb ganiatad,ac ymdrin yn ddiogel a phrotestiadau sydd yn rhwystro pobl rhag dilyn eu bywyd bob dydd arferol, neu’n bygwth trefn gyhoeddus. 4.Cefnogaeth i blismyn.Bydd “Cyfamod Heddlu” yn sicrhau cefnogaeth i blismyn wrth eu gwaith ac i blismyn wedi ymddeol.Bydd y gosb hwyaf am ymosod ar blismon neu weithiwr gofal brys yn codi o 12 mis i 2 flynedd. 5.Newidiadau i ddedfrydau. Bydd gorchymyn carchar am oes i’r rhai sydd yn llofruddio plant;a bydd hawl gan farnwyr roi’r gosb hon i rai rhwng 18 ac 20 oed mewn achosion neilltuol.Ar hyn o bryd,nid oes modd rhoi’r ddedfryd hon i rai o fewn yr oedran yna.Enghraifft o “achos neilltuol” yw achos o derfysgaeth yn achosi i nifer fawr golli eu bywydau. Bydd isafswm newydd wrth ddedfrydu plant sydd yn llofruddio,ar sail oed a difrifoldeb y drosedd.Bydd hefyd lai o hawl gan oedolyn,a gyflawnodd lofruddiaeth pan yn blentyn,i adolygiad o’i gyfnod byrraf yn y carchar.

Bydd llai o resymau eithriadol am beidio rhoi’r cyfnod byrraf o garchar,er mwyn ei gwneud yn llai tebygol i lys beidio cadw at y ddedfryd leiaf (achosion fel trosedd o fwrgleriaeth am y trydydd tro,neu bod a chyllell yn eich meddiant am yr eildro).

Newidiadau pellach: Daw carchar am oes i rym ar gyfer gyrrwyr sydd yn achosi marwolaeth,ac ni fydd rhyddhau awtomatig hanner ffordd drwy’r cyfnod i droseddwyr rhyw a thrais difrifol. Bydd dedfrydau cymunedol yn fwy llym,gyda’r bwriad o dargedu’r hyn sydd wrth wraidd y troseddu.Gall cyrffiw godi i 2 flynedd,a bydd mwy o fonitro lleoliadau,a cyrffiw dyddiol i bobl ifanc. Awgrymir hefyd cynyddu’r dirwyon am fandaleiddio cofgolofnau (o 3 mis i 10 mlynedd),a’i gwneud yn ddyletswydd gyfreithiol ar asiantaethau cyfiawnder troseddol ac awdurdodau lleol i rannu data a gwybodaeth er mwyn ymdrin a thrais difrifol.

Yn y cyhoeddiad nodwyd byddai mwy o arian ar gael rhag bod cymaint o ohirio cynnal llys,ac er mwyn ymdrin ynghynt ag achosion; a mwy o arian i gyflogi mwy o heddweision,ac ariannu mwy o le yn y carchardai.

Ar nodyn cadarnhaol byddai’r cyfnod mae pobl yn gorfod datgan collfarn am droseddau rhywiol neu derfysgol di-drais yn cael eu cwtogi. Mae’n amlwg mai bwriad y llywodraeth yw trefn fwy llym wrth ddedfrydu rhai troseddau penodol,a disgwyliant gynnydd yn y niferoedd yn y carchardai.Amser a ddengys fydd yr argymhellion yn cael eu gwireddu,ac i ba raddau.

Cyhoeddodd Cymdeithas y Bar Troseddol yr ymateb canlynol ar ol clywed cynnwys y ddeddfwriaeth newydd: “Hwyrach bod y Mesur newydd yn trafod rhoi pwerau ac offer mae’r heddlu eu hangen i warchod y cyhoedd,ond,yn gyntaf,mae angen ymdrin a’r cyhuddiadau am yr holl droseddau difrifol sydd yn dod i sylw’r heddlu bob wythnos,ac nad ydynt yn cael eu herlyn yn y llysoedd.Er mwyn adfer hyder yn y system cyfraith troseddol,rhaid cynyddu’r lefelau cyhuddo o’r 7% presennol,yr isaf y bu erioed,a llai na hanner yr hyn ydoedd 5 mlynedd yn ol.Mae’r cynnydd yn yr achosion troseddol, hysbyswyd i’r heddlu, sydd yn mynd ar goll yn gyfangwbl,yn annerbyniol.Achos hyn,i raddau helaeth,yw’r oedi o un pen i’r llall yn y system cyfiawnder,o blismona i argaeledd llysoedd,am nad oes digon o arian ar gael.

Ar Fedi 30ain 2020 dywedwyd bod 42.2% o’r holl droseddau trais honedig ddaw i sylw’r heddlu yn methu oherwydd “anhawsterau o ran tystiolaeth am nad yw’r dioddefwr yn cefnogi’r hyn sydd yn digwydd.”Mae 45.5% o achosion yn erbyn unigolion,hysbyswyd i’r heddlu,yn methu am yr un rheswm,yn ol data diweddaraf y Swyddfa Gartref. Os nad yw achosion troseddol yn mynd i’r llys am nad oes gan y system cyfiawnder troseddol yr adnoddau angenrheidiol i ymdrin a hwy,bydd hynny’n tanseilio ymddiriedaeth y cyhoedd,ac yn beryg o wneud i bobl gymryd y mater i’w dwylo eu hunain.Yn y diwedd bydd gennym system gyfreithiol ddwyblyg.”

Byddwn yn monitro’r datblygiadau tra bo’r senedd yn trafod y ddeddfwriaeth.

Sut gallwn helpu? Sicrhawn ein bod yn dilyn unrhyw newidiadau yn y ddeddfwriaeth ac mewn cyfraith achosion,fel bod y wybodaeth ddiweddaraf gennym i fedru rhoi’r cyngor gorau posibl i’n clientau.Os hoffech drafod unrhyw agwedd o’ch achos chi,cysylltwch a Rhys Tudur ar 01758 455 500 or office@strainandco.co.uk

Back to view all blog posts.

 

Contact Us

Address: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Phone: 01758 455500

E-mail: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain and Company. Authorised and Regulated by the SRA firm no 644052. All Rights Reserved. Privacy Notice.

Website by Delwedd.