STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Iechyd a Diogelwch wedi mynd o’i gof!

Iechyd a Diogelwch wedi mynd o’i gof!

Date: 2018-07-24

Translation coming soon…

Ond a yw hyn yn wir o ddifrif?

Yr Awdurdod Iechyd a Diogelwch sydd yn rheoli , yn genedlaethol, iechyd a diogelwch yn y gweithle. Yn ddiddorol, ar eu gwefan mae tudalen yn chwalu’r chwedlau am iechyd a diogelwch, fel yr un yn dweud bod baneri wedi eu gwahardd oddiar geir dinesig am resymau iechyd a diogelwch; neu gwahardd alcohol o ble bynnag cynhelir partion Gwaith adeg y Nadolig.

Felly beth maent yn ei wneud? “Gwaith” y Pwyllgor hwn yw osgoi marwolaethau, anafiadau a salwch achoswyd yn y gweithle.Maent yn canolbwyntio ar y peryglon mwyaf, ac yn targedu diwydiannau gyda’r record waethaf am reoli perygl. Maent yn cynnig arweiniad a chyngor am ddim, yn archwilio safleoedd gwaith ac yn ymchwilio pan aiff pethau o’i lle.

Pa bwerau sydd ganddynt? Mae ganddynt hawl i archwilio safleoedd gwaith ac adeiladau, siarad a phobl berthnasol, sylwi beth sydd yn mynd ymlaen yn y gweithle, edrych os yw dulliau rheoli perygl yn effeithiol a tynnu sylw at unrhyw wendidau. Trwy wneud hyn gallant ystyried cymryd camrau gorfodi ac ymchwilio i unrhyw droseddau posibl.

Beth yw camau gorfodi? Gallant roi cyngor, cyflwyno rhybudd, atal cymeradwyo neu newid trwyddedau, amodau neu delerau eithrio.Mater mwy difrifol yw bod ganddynt hawl i roi rhybuddion neu i erlid. Os torrwch unrhyw reolau gallwch orfod talu am yr amser gymerodd yr Awdurdod Gweithredu Iechyd a Diogelwch i’ch cynorthwyo i gywiro’r modd y torrwyd y gofynion.

Ymchwiliadau. Bydd yr Awdurdod yn ymchwilioiI ddigwyddiadau difrifol, anafiadau neu achosion o salwch yn gysylltiedig a gwaith, i gydfynd a’u criteria o ddewis digwyddiadau, gan nad ydynt yn ymchwilio i bob achos gyfeirir atynt. Gellir dwyn achosion yn erbyn cyrff corfforaethol, ac mewn rhai achosion, yn erbyn unigolion hefyd.

Beth yw’r gosb? Nid oes canllawiau penodol ar gyfer troseddau iechyd a diogelwch, ar wahan i ddyn-laddiad corfforaethol, ond maent yn debygol o orfod dilyn canllawiau cyffredinol ar gyfer troseddau sydd dan drafodaeth ar hyn o bryd. Achosion diweddar. Cafodd Air Liquide (UK) Ltd. Ddirwy o £160,000 ar ol pledio’n euog I dorri rheolau Adran 2 (1) o’r Ddeddf iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a.y.y.b.1974. Roedd aelodau eu tim ymateb brys wedi eu gwisgo’n addas ar gyfer gwaredu poteli nwy nad oedd eu hangen mwyach, ond gollyngwyd un botel gan dywallt hylif peryglus ar lawr.Dihangodd nwyon ohono i gyfeiriad 2 weithiwr oedd heb wisg i’w gwarchod, gan gael effaith mor ddifrifol ar un, fel iddo syrthio i’r llawr.

Plediodd Bertram Manufacturing Ltd. yn euog i dorri Adran 2 (1) o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a chael dirwy o £82,000. Baciodd wagen fforch godi i bentwr o gyplau to,ddisgynnodd ar weithiwr gan achosi torri nifer o esgyrn.

Dirwywyd W.E.Rawson Ltd. i £600,000 am dorri Adran 2 (1) Deddf 1974. Bu farw gweithiwr o anafiadau yn dilyn cael ei wasgu pan geisiodd ryddhau pecyn , oedd wedi mynd yn sownd, o beiriant pacio.Darganfu’r Awdurdod (HSE) nad oedd y cwmni wedi cymryd camau i rwystro mynediad ardal berygl rhwng peiriannau cludo oedd yn symud.

Carcharwyd Simon Thomerson o Clearview Design and Construction Ltd. am 8 mis, yn dilyn marwolaeth dau o’i weithwyr pan yn ymwneud a than ffrwydrol mewn safle gwaith. Plediodd yn euog i dorri Adran 2 (1) Deddf 1974.

Sut gallwn helpu? Er mai’r Awdurdod Iechyd a Diogelwch (HSE) sydd yn ymchwilio i achos yn hytrach na’r heddlu, gall fod er hynny yn ymchwiliad i droseddau all arwain at garchar neu ddirwyon sylweddol iawn i gwmniau. Byddwch angen o’r cychwyn y cyngor arbenigol y gallwn ni ei gynnig. I drafod unrhyw agwedd o’ch achos cysylltwch, os gwelwch yn dda, a Michael Strain ar 01758 455 500 neu office@strainandco.co.uk

Back to view all blog posts.

 

Contact Us

Address: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Phone: 01758 455500

E-mail: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain and Company. Authorised and Regulated by the SRA firm no 644052. All Rights Reserved. Privacy Notice.

Website by Delwedd.