STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

HEDDLU YN EHANGU'R DEFNYDD O GYFARPAR CLUDADWY I ADNABOD TROSEDDWYR

HEDDLU YN EHANGU'R DEFNYDD O GYFARPAR CLUDADWY I ADNABOD TROSEDDWYR

Date: 2018-02-14

Translation here soon…

Yr wythnos hon cyhoeddodd y llywodraeth bod Heddlu Gorllewin Swydd Efrog wedi mabwysiadu gwasanaeth gwirio adnabyddiaeth newydd. Defnyddir y gwasanaeth yma eisoes gan rai heddluoedd dewisol, a bydd 20 arall y gweithredu cyn diwedd y flwyddyn.Wedyn ni fydd angen mynd a rhywun a ddrwgdybir i orsaf heddlu i sicrhau yn union pwy ydyw. Bydd hyn yn fanteisiol i blismyn a rhai a ddrwgdybir, fel ei gilydd, gan ganiatau i’r plismyn fynd ymlaen i wneud dyletswyddau eraill yn gynt, a lleihau y nifer sydd yn cael eu cadw yn y ddalfa yn ddiangen.

Dyma ymateb swyddogion yr heddlu:Mae esiamplau cynnar o’r system newydd ar waith yn cynnwys uned gynnau yn dilyn gyrrwr a’i stopio, ac yn gallu profi yn y fan a’r lle ei fod dan waharddiad gyrru, er iddo roi manylion ffug iddynt. Gwysiwyd ef am dair trosedd a meddianwyd ei gerbyd.Roedd yr uned yn ol wrth eu gwaith ar y ffyrdd ymhen deng munud; onibai eu bod yn cario teclyn sganio olion bysedd, gallai’r broses gymryd hyd at bedair awr wrth orfod mynd a’r dyn i’r ddalfa.

Mae’r gwasanaeth yn gweithio frwy gysylltu sganer olion bysedd i app ar ffon symudol. O fewn eiliadau, gellir gwirio pwy yw’r person a ddrwgdybir trwy ddwy brif gronfa ddata’r heddlu, ac yna eu galluogi i’w drin mewn dull mwy addas.

Mae’r dechnoleg wedi bod ar gael ers ychydig o flynyddoedd, ond gan fod y pris wedi gostwng mae’n awr yn bosibl fforddio ei rhoi ar waith yn genedlaethol.Roedd pris sganer yn arfer bod tua £3000, ond bellach gellir prynu un dan £300.

Ond nid yw Liberty,(cyfundrefn flaenllaw yn ymwneud a hawliau dynol) wedi bod mor frwdfrydig.. Dyma sydd ganddunt hwy i’w ddweud:

Dyma enghraifft o ddull yr heddlu o ddefnyddio technoleg sydd yn ymyrryd a phreifatrwydd, heb drafodaeth gyhoeddus nac arolygaeth ystyrlon gan y llywodraeth. Fel y dechnoleg adnabod wynebau a ddefnyddir fwyfwy gan yr heddlu, cawn wybod am hyn ar ol iddo ddigwydd (heb fawr o gyhoeddusrwydd), ac mae ar gael i nifer cynyddol o heddluoedd ledled y wlad.Yn yr achos yma, trwy neges slei ar gov.uk yn gynnar fore Sadwrn y clywsom am hyn.

Mae ffyrdd pwysig o warchod pobl a ddrwgdybir ar gael yn Neddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 . Os ydych yn pryderu am y defnydd o’r pwerau yma, cysylltwch a ni i drafod ymhellach.Pan mae’r erlyniad yn defnyddio tystiolaeth adnabod trwy olion bysedd, byddwn ni yn cymryd gofal arbennig I sicrhau eu bod yn dilyn y gyfraith.

Sut gallwn helpu? Cysylltwch a ni ar unwaith os ydych yn berson proffesiynol yn wynebu achos troseddol. Mae’n cyfreithwyr yn hyddysg yn yr agwedddau hyn o’r gyfraith, a byddant yn sicrhau y cewch eich amddiffyn yn y modd gorau. Cysylltwch a Carys Parry ar 01758 455 500

Back to view all blog posts.

 

Contact Us

Address: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Phone: 01758 455500

E-mail: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain and Company. Authorised and Regulated by the SRA firm no 644052. All Rights Reserved. Privacy Notice.

Website by Delwedd.