STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Dronau a'r gyfraith

Date: 2017-11-30

Translation here soon…

Mae’r erthygl yn trafod dronau a’r fframwaith gyfreithiol sydd yn rheoli’r defnydd ohonynt.

Beth yw dron?

Mae dron yn golygu unrhyw wrthrych y gellir ei hedfan yn ddi~beilot. Gallant amrywio o wrthrychau technolegol wedi eu harfogi a ddefnyddir mewn ymgyrchoedd milwrol I declynau llai y gall aelod o’r cyhoedd eu prynu.Canolbwyntir ar y math olaf yma yn yr erthygl hon.Gellir rheoli’r teclynnau hyn o bell neu gellir eu cysylltu a chamera I roi llunau byw i’r sawl sydd yn eu rheoli..Maent yn addas at amcanion addysgol, proffesiynol a hamdden. Mae amrywiol fodelau ar gael yn amrywio mewn maint, cyflymder,cyrhaeddiad a phris. Pryd mae dronau yn creu problemau?

Maent yn creu problemau pan ymyrrant a gwrthrychau eraill sydd yn defnyddio’r un gofod yn yr awyr.Gallant fod yn broblem i awyrennau milwrol a sifil..Er mai cymharol fychan ydynt, gall gwrthdrawiad achosi canlyniadau difrifol iawn.Mae digwyddiadau o’r fath yn fwy tebygol os yw dronau yn cael eu hedfan yn rhy uchel neu yn rhy agos i safleoedd ble mae awyren yn codi a glanio yn aml

Beth yw’r rheolau?

Os ydych wedi prynu dron i’ch defnydd personol, mae gennych gyfrifoldebau ynglyn a’r defnydd ohono.Gallwch gael eich erlid am dorri’r rheolau hyn. Cynghorir chi I gyfeirio at Ddeddf Llywio Awyrennau (Air Navigation) yr Awdurdod Hedfan Sifil 2016, yn benodol Erthyglau 94,95 a 241.Gallwch lawr~lwytho y <Cod Dron> oddiar wefan. dronesafe.uk.Rhaid deall eich dyletswyddau hanfodol fel perchennog dron, a llawer o’r rhain yn synnwyr cyffredin:

1.Gwybod sut I hedfan y dron yn ddiogel, a gwneud hynny o fewn y gyfraith.

  1. Deall fod y sawl sydd yn ei hedfan yn gyfrifol o fewn y gyfraith am bob hediad.

  2. Gofalu eich bod yn gallu gweld y dron -trwy’r amser ; aros o dan 400 troedfedd.

  3. Peidio hedfan y dron uwchben ardal boblog.

5.Peidio byth a hedfan o fewn 50 llath I berson, cerbyd neu adeilad nad yw dan eich rheolaeth chi.

6.Sicrhau nad yw unrhyw luniau a gewch wrth ddefnyddio’r dron yn torri rheolau preifatrwydd.

  1. Osgoi gwrthdrawiad; ni ddylech ar unrhyw gyfrif hedfan dron yn ymyl maes awyr neu yn agos i awyren.Mae’n drosedd peryglu diogelwch awyren yn hedfan.

Os torrwch y rheolau, gallech fygwth bywydau a hefyd wynebu cael eich erlyn,ac mewn rhai achosion carchar neu ddirwy sylweddol.

A oes rheolau ychwanegol wrth hedfan dronau I ddibenion masnachol?

Os oes angen defnyddio dron I ddibenion masnachol,er enghraifft fel gwerthwr eiddo I dynnu lluniau o’r awyr o eiddo ar werth,rhaid cael caniatad yr Awdurdod Hedfan Sifil. Disgwylir I chi hefyd ddilyn cwrs awdurdodedig fydd yn profi’ch gwybodaeth a’ch meistrolaeth o dronau.

Beth am ddefnydd milwrol dronau?

Rheoli’r defnyddio dron i’r Weinyddiaeth Amddiffyn gan Awdurdod Hedfan Milwrol Mae’r amodau yma yn cynnwys ymchwiliadau a wneir o uchder, ffotograffiaeth a gweithgareddau amlgyfryngol,a dylid edrych ar Erthyglau Rheoleiddio 1600,2320 a 2321 am y gofynion penodol.

I Grynhoi: Felly gall dron fod yn fodd I gael hwyl ac hefyd yn ddefnyddiol, ond mae cryn dipyn o gyfrifoldebau ynghlwm a hwy.Os dilynwch y canllawiau a nodir uchod,byddwch yn llawer llai tebygol o dorri’r amodau sydd yn rheoleiddio’r dechnoleg newydd gyffrous hon.

Back to view all blog posts.

 

Contact Us

Address: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Phone: 01758 455500

E-mail: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain and Company. Authorised and Regulated by the SRA firm no 644052. All Rights Reserved. Privacy Notice.

Website by Delwedd.