STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

A yw eich dedfryd yn llai os ydych o gymeriad da? (Welsh Only)

Date: 2021-04-26

Beth yw cymeriad da? O safbwynt llysoedd trosedd,person o gymeriad da yw rhywun heb gyhuddiadau neu rybuddion yn eu herbyn o’r blaen. Mae’n berthnasol iawn mewn treial gan bydd y llys yn ystyried cymeriad da wrth asesu pa mor debygol yw eich bod wedi troseddu.a hefyd i ba raddau y gellir eich credu. Mae’n bosibl y trafodir trosedd lai difrifol yn yr un modd.

Beth yw amcan dedfrydu? Rhestrir fel a ganlyn yn y Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003:

  1. Cosbi troseddwyr.
  2. Lleihau trosedd (a’i atal yn ogystal).
  3. Diwygio ac ail-sefydlu troseddwyr.
  4. Gwarchod y cyhoedd.
  5. Cael troseddwyr i wneud iawn i ddioddefwyr effeithwyd gan eu trosedd.

A yw’n bosibl i gymeriad da ddylanwadu ar eich dedfryd?

Wrth drafod y ddedfryd bydd y llys yn eich clywed chi neu eich cyfreithiwr yn cynnig “lliniaru”,sef gwybodaeth amdanoch chi a’r drosedd, a allasai olygu dedfryd lai. Cam cyntaf y llys yw penderfynu ar ddedfryd ddarpariaethol ar sail euogrwydd y troseddwr,a’r niwed achoswyd.Yr ail gam yw ystyried y ffactorau gwaethygol a lliniarol,ffactorau all wneud y drosedd yn fwy neu yn llai difrifol,neu adlewyrchu lliniaru personol.

Yn y rhestr o bethau wna drosedd yn llai difrifol,neu sydd yn adlewyrchu lliniaru personol,cyfeirir at y ffaith na fu collfarnau o’r blaen,na rhai perthnasol,yn ogystal a chymeriad da,a/neu ymddygiad canmoladwy.

Ymchwil i effaith cymeriad da ar ddedfryd.Yn 2007,gwnaed astudiaeth gan Ymddiriedolaeh Diwygio Carchardai i ddedfrydu a lliniaru dedfrydau,a thrafod gyda’r dedfrydwyr,gan sylwi ar yr hyn oedd yn dylanwadu ar y ddedfryd.Canfuwyd bod lliniaru personol,gan gynnwys gorffennol y diffynydd,yn berthnasol yn hanner yr achosion,a’i fod yn debygol o fod yn ffactor bwysig pe byddai llys yn penderfynu peidio anfon y diffynydd i’r carchar yn syth.Effeithwyd ar 21 allan o 162 achos o ganlyniad i gymeriad da. Yn ol yr ymchwil deil cymeriad da i gael ei ystyried yn fodd o liniaru dedfryd.Cyfeiriai barnwyr at drosedd fel”llithriad”,neu ddigwyddiad prin,a sylwent hefyd ar gymeriad da fel elfen bositif,nid yn unig pan nad oedd unrhyw gollfarnau,ond am fod yr unigolyn wedi cyflawni rhywbeth gwerthfawr yn ystod ei fywyd.

Gyda throseddau mwy difrifol mae’n llai tebygol i gymeriad da gael llawer o effaith ar y ddedfryd,oherwydd difrifoldeb y drosedd. Felly,a yw cymeriad da yn lliniaru dedfryd? Mae hyn yn wir yn y mwyafrif o achosion,a byddwn bob amser yn cyflwyno hyn ar eich rhan.Cyfeirir mewn llawer o achosion at gymeriad da positif a chanmoladwy yn ymwneud a phethau fel gwaith gwirfoddol yn y gymuned. Ond os yw’r drosedd yn un ddifrifol iawn,ychydig iawn o ddylanwad gaiff cymeriad da ar y ddedfryd derfynnol. Os oes agweddau o’ch bywyd yn adlewyrchu cymeriad da positif fel gwasanaeth milwrol neu gyfnod hir o gyflawni gwaith elusennol neu wirfoddol,rhowch wybod am hyn i ni ymhell ymlaen llaw,er mwyn i ni fedru cyflwyno’r achos gorau i unrhyw lys dedfrydu.

Sut gallwn helpu? Sicrhawn bod gennym y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau yn y ddeddfwriaeth ac mewn deddf achosion,er mwyn gallu cynnig y cyngor gorau i chi.Cysylltwch a Michael Strain ar 01758 455 500 neu office@strainandco.co.uk os hoffech drafod unrhyw beth ynglyn a’ch achos.

Back to view all blog posts.

 

Contact Us

Address: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Phone: 01758 455500

E-mail: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain and Company. Authorised and Regulated by the SRA firm no 644052. All Rights Reserved. Privacy Notice.

Website by Delwedd.