STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

A fydd fy enw yn ymddangos yn y papurau newydd?

A fydd fy enw yn ymddangos yn y papurau newydd?

Date: 2018-05-08

Translation here soon…

Os ydych dros 17 oed yr ateb symlaf I’w roi yw y bydd yn debygol o ymddangos.Heddiw mae adroddiadau’r wasg trwy gyfrwng gwefannau cymdeithasol yn gallu digwydd yn gyflym iawn, ac yn aml dyna un peth nad yw rhywun sydd yn wynebu achos troseddol yn ei ystyried. Llys Ieuenctid Bydd person 17 oed neu lai fel arfer yn ymddangos yn gyntaf o flaen Llys Ieuenctid. Mae rheolau caeth yn rhwystro cyhoeddi enw, cyfeiriad, ysgol neu unrhyw beth arall i ddadlennu pwy yw y sawl dan 18 oed sydd yn ddioddefwr, yn dyst, neu yn ddiffynydd mewn llys ieuenctid.Gellir codi’r gwaharddiad mewn rhai achosion; gallwn eich cynghori a gwrthwynebu cais o’r fath ar eich rhan os yw hynny’n addas..os daw troseddwr ifanc o flaen llys oedolion, bydd yr erlynydd yn gwneud cais am orchymyn i wahardd ei enwi. Mewn achosion sifil, er enghraifft gwaharddiad am ymddygiad gwrth-gymdeithasol, nid oes cyfyngiad gohebu.

Aros yn anhysbys. Mae cyfyngiad gohebu awtomatig yn rhwystro enwi athro y mae disgybl o’r un ysgol yn honni iddo gyflawni trosedd yn ei erbyn.Daw’r cyfyngiad i ben pan gyhuddir yr athro, neu ei alw o flaen llys, a gellir wedyn amrywio neu godi’r cyfyngiad. Nid yw enwau dioddefwyr troseddau rhywiol a nifer cyfyngedig o droseddau eraill byth yn cael eu datgelu.

Gall rhai gwrandawiadau o flaen llys gynnwys enw’r diffynydd yn unig, a’r troseddau y mae yn eu wynebu’Mae hyn yn cynnwys dyrannu ac anfon gwrandawiad yn Llys yr Ynadon, gwrandawiad cyn treial yn Llys y Goron.Unwaith mae’r treial wedi dechrau, gallwch ddisgwyl gweld adroddiadau am yr achos cyfan, onibai bod barnwr wedi gorchymyn gwaharddiad.

Cyfyngiadau gohebu o ddewis. Er bod modd gofyn am wahardd cyhoeddi enw diffynydd, rhaid ystyried unrhyw ddewis yn ofalus; ac nid yw gwaharddiad o’r fath yn gyffredin.Gall cais fod yn addas er enghraifft os yw’r diffynydd o fewn rhaglen gwarchod tystion,(ddefnyddiwyd yn ddiweddar y nachos John Venables, llofrudd James Bulger)

Ar gyfer achosion nad ydynt yn mynd o flaen Llys Ieuenctid, mae dewis rhoi cyfyngiad gohebu am ddioddefwr, tyst neu ddiffynydd dan 18oed. Rhaid I’r llys fod yn fodlon bod lles y plentyn yn bwysicach na diddordeb ysol y cyhoedd mewn cyfiawnder agored. Mae dewis tebyg yn achos tystion mewn oed, gyn pe bai’r dystiolaeth yn dioddef o ddatgelu pwy yw’r tyst

Fydd y wasg yn bresennol yn y llys? Mae gan aelodau’r wasg hawl i eistedd mewn gwrandawiad yn unrhyw lys, yn cynnwys Llys Ieuenctid, onibai eu bod wedi eu gwahardd am resymau arbennig, ond anaml a phrin iawn yw hynny. Yr egwyddor gyffredinol yw y dylai cyfiawnder fod yn agored ac yn cael ei drafod yn gyhoeddus. Hyd yn oed os nad yw’r wasg yn bresennol, gall adroddiad o’ch achos ymddangos.

Mae gohebwyr lleol yn gwerthu storiau i bapurau eraill, felly peidiwch a chymryd yn ganiataol, os ymddangoswch o flaen llys rhywle i ffwrdd o’ch ardal, na fydd yr hanes yn eich papur lleol.

Sut gallwn fod o gymorth? Mae’r gyfraith ynglyn a chyfyngiadau gohebu yn gymhleth, ac mae’n drosedd i unigolyn neu ohebwyr fynd yn groes I’r rheolau.Braslun yn unig sydd yn yr erthygl hon o’r materion sydd yn codi.

Un o’r pethau y dylech eu hystyried yn gynnar yn yr achos troseddol yw adroddiadau’r wasg, yn enwedig os yw eich achos yn debygol o ennyn cyhoeddusrwydd.Rhai ystyried yr effaith ar eraill, yn enwedig ar blant, a sut byddech yn delio a hynny.

Os oes gennych bryderon, neu os dymunwch drafod unrhyw beth ynglyn a’ch achos, cysylltwch os gwelwch yn dda a Michael Strain ar 01758 455 500 neu office@strainandco.co.uk

Back to view all blog posts.

 

Contact Us

Address: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Phone: 01758 455500

E-mail: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain and Company. Authorised and Regulated by the SRA firm no 644052. All Rights Reserved. Privacy Notice.

Website by Delwedd.