STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Tynhau ar Reolau Iechyd a Diogelwch

Tynhau ar Reolau Iechyd a Diogelwch

Dyddiad: 2019-10-28

Dengys achosion diweddar bod yr ymateb i dorri rheolau iechyd a diogelwch yn mynd yn fwy llym.

Carcharwyd y rheolwr cwmni Robert Harvey am ddeng mlynedd yn dilyn damwain pan wasgwyd cyd-weithiwr i farwolaeth gan jac codi baw yn cael ei yrru gan Harvey.Profodd yr erlyniad nad oedd Harvey wedi gwneud asesiad digonol o’r perygl i weithwyr ar y cynllun adeiladu; nad oedd ef ei hun wedi cael hyfforddiant ar y ffordd gywir o ddefnyddio offer turio, nac wedi rhoi cyfarwyddiadau ynglŷn a pherygl i gyd-weithiwr.Plediodd yn euog i dorri Adran 7(a) a 33 (1)(a) Deddf Iechyd a Diogelwch wrth Weithio 1974.

Cafodd cwmni cyflenwi byd-eang DHL ddirwy o £2.4 miliwn am fod gweithiwr wedi ei ladd pan ddisgynodd teiars a’i wasgu i farwolaeth.Unwaith eto pwysleisiodd yr erlyniad y diffyg asesiad risg cywir. Flwyddyn ynghynt dirwywyd DHL £2 filiwn am dorri rheol iechyd a diogelwch.

Cafodd cwmni llongau fferi Stena Line ddirwy o £400,000 yn dilyn digwyddiad pan anafwyd gweithiwr yn ddifrifol. Dyma sylwadau’r Awdurdod Gweithredu Iechyd a Diogelwch:” Hawdd iawn fyddai osgoi’r damweiniau hyn. Mae’n hollol amlwg bod perygl i gerddwyr os oes cerbydau’n symud, a dylid bod wedi rhagweld beth allasai ddigwydd, a gwneud rhywbeth i reoli’r sefyllfa.Petae Cwmni Stena Line wedi defnyddio mesurau rheoli addas gellid bod wedi osgoi’r anafiadau corfforol ac emosiynol newidiodd fywyd y dioddefwr, ac sydd yn dal i effeithio arno ef a’i deulu.”

Dengys yr achosion hyn bod cyfrifoldeb ar unigolion ac ar gwmnïau corfforaethol, sydd yn golygu bod rhaid i bawb sydd yn rhan o reolaeth cwmni fod yn ymwybodol o’u dyletswyddau.Mae’n bosibl iawn i unigolion gael eu carcharu.Bwriedir i gosb ariannol gael effaith sylweddol ar gwmnïau:

“Rhaid i’r ddirwy fod yn ddigon mawr i gael effaith sylweddol wnaiff i’r rheolwyr a’r cyfranddalwyr sylweddoli bod yn rhaid dilyn deddfwriaeth iechyd a diogelwch.” (Canllaw Dedfrydu)

Wrth benderfynu ar y ddedfryd derfynol dylai’r llys ddal sylw ar y ffactorau canlynol:

1) Mae faint o elw wna’r cwmni yn berthnasol.Os mai bach yw’r elw o’i gymharu a’r trosiant, hwyrach bydd angen llai o ddirwy; a’r un modd, mwy o ddirwy os yw maint yr elw yn fawr. 2) Os cafwyd unrhyw elw economaidd mesuradwy o ganlyniad i’r drosedd, dylai’r swm hwnnw gael ei ychwanegu at y ddirwy. Mae hyn yn wir hefyd am unrhyw gostau gafodd eu osgoi, neu arbedion wnaed wrth weithredu fel y gwnaed. 3) Gall y ddedfryd olygu bod busnes y troseddwr yn dod i ben, ac mae ystyried hyn hefyd yn berthnasol. Mewn rhai achosion drwg, dyma’r canlyniad derbyniol. Mae gennym gyfreithwyr profiadol i’ch cynorthwyo gyda unrhyw agwedd o’r ddeddf iechyd a diogelwch. Mae’n bwysig trafod gyda ni cyn gynted ag mae ymchwiliad yn cychwyn.

Cysylltwch a Michael Strain ar 01758 455 500 am gyngor ar unrhyw ymchwiliad neu erlyniad troseddol. Gadewch i ni helpu a rhoi cyngor ar unrhyw beth yn ymwneud a’ch achos.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.