STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Twyll Tinder

TINDER

Dyddiad: 2022-02-23

Yn y newyddion yn ddiweddar bu nifer o achosion yn ymwneud a thwyll a sgam yn deillio o ddefnyddio Tinder.Mae’r app hwn ar gael mewn dros ddau gant o wledydd,gyda 1.6 biliwn o “swipes”yn ddyddiol.Gyda 50 miliwn o ddefnyddwyr mae’r cyfle i dwyllo yn eang.

Mae “Malware” yn fygythiad ar-lein cyffredin;caiff unigolyn ei arwain i dudalennau twyllo ar y we,sydd yn ei alluogi i gael gwybodaeth bersonol all arwain at ddwyn hunaniaeth.Sgam arall yw anfon i wneud cais am wirio cyfrif,lle ceir cyswllt i drydydd person,a hyn eto er mwyn dod o hyd i fanylion personol.

Problem arall yw “catfishing”,a rhoddwyd sylw i hwn yn ddiweddar ar y cyfryngau.Proses yw hwn i ddenu rhywun i berthynas trwy ddefnyddio persona ar-lein ffug.Tra mai chwilio am rywun i gael sgwrs yn unig mae “catfish”,mae’n bosibl i’r gweithgaredd fod er mwyn elw ariannol,neu i beryglu unigolyn arall mewn rhyw ffordd neu gilydd.

Yn 2010 cysylltodd dyn o’r enw Bobby gyda Harkirat Assi,gan ddweud mai ef oedd brawd bachgen fu’n gariad i gyfnither Assi.Datblygodd cyfeillgarwch;daethant yn agos,ac yna gwahanu dros nifer o flynyddoedd cyn ail-gynnau’r cyfeillgarwch.Yna dechreuodd blynyddoedd o dwyllo,gyda rhywun yn dweud wrth Assi fod Bobby wedi marw,ac yna ei fod yn gysylltiedig a rhaglen gwarchod tyst.ond ei fod yn wael,ac yn meddwl am gyflawni hunan-laddiad.Daeth y ddau yn gariadon yn 2015,a Bobby hyd yn oed yn anfon blodau ac anrhegion i Assi,ac yn creu proffiliau ffug o’i deulu ar grwp Gweplyfr.Darganfuwyd y twyll yn y diwedd yn 2018.pan gyfaddefodd cyfnither iau Assi ei bod wedi cymryd arni fod yn Bobby drwy’r amser.Yn 2021 enillodd Assi hawliad sifil yn erbyn ei chyfnither am y twyll,yn ogystal ag ymddiheuriad a setliad ariannol.

Cyfarfu Shamon Heyada Hayut,aka Simon Leviev,o Israel,gyda merched ar Tinder,a’u camarwain I gredu ei fod yn fab I fasnachwr diamwntiau oedd yn biliwnydd,gan eu twyllo o £7.4 miliwn.Daeth ei drosedd i sylw’r cyhoedd mewn rhaglen ddogfen ar Netflix,”The Tinder Swindler”.Gwariai Hayut symiau mawr o arian ar westai ac anrhegion i’r dioddefwyr,gan ddefnyddio arian dioddefwyr eraill.Creodd linellau credyd a benthyciadau yn enw ei ddioddefwyr,gan eu gadael hwy gyda’r ddyled.Ei ddull oedd cyfarfod merch ar Tinder.a mynd a hi allan y tro cyntaf i rywle moethus a drud;un enghraifft oedd taith ar awyren breifat.Byddai’n dal ymlaen gyda’r berthynas,ond yn trefnu “cyfarfod”merched eraill yr un pryd.Yna byddai’n honni ei fod mewn perygl,ac yn dangos lluniau o’i warchodwyr wedi eu hanafu,er mwyn cadarnhau ei “stori”.Yna byddai’n gofyn i’w gariad agor cerdyn credyd iddo ei ddefnyddio,gan nad oedd yn ddiogel iddo ddefnyddio ei gerdyn ef ei hun.Byddai Hayut yn osgoi talu’n ol,gan ddefnyddio sawl esgus,bygythiadau a ffyrdd eraill o osgoi.O’r diwedd,arestiwyd Hayut yn Israel,a’I gyhuddo o dwyll.Dedfrydwyd ef i 15 mis o garchar.

Ar Tinder,yn 2015,y cyfarfu Richard Dexter gyda’i ddioddefwraig hefyd.Cyfeirir ato fel Twyllwr Tinder Swydd Hampshire.Roedd Dexter wedi “rhannu gwybodaeth bersonol”er mwyn ennill ymddiriedaeth ,ac yna wedi ei chael i gredu ei fod angen arian ar gyfer catalog “patent”.Rhoddodd hi £40,000 iddo.Yna dywedodd wrthi ei fod ar fin derbyn swm enfawr o arian o’i fuddsoddiadau mewn technoleg biofferyllol,a’i fod angen £68,000 fel blaendal i’r buddsoddiad.Erbyn y diwedd,roedd y ddioddefwraig wedi rhoi cyfanswm o £141,500 iddo.Stori Dexter oedd ei fod yn werth bron i £7 miliwn,ac yn ymwneud a Stiwdios Hollywood,ei fod yn berchen ar awyrennau jet,a’I fod unwaith wedi cymryd yn ei ben brynu balwn awyr.Plediodd Dexter yn euog i saith achos o dwyll,a chafwyd ef yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder,ac o fod ag eitemau yn ei feddiant,y gellid eu defnyddio i dwyllo.Dedfrydwyd ef i bedair blynedd a hanner o garchar;mae ad-daliad yr arian I’w drafod ar ddyddiad arall yn y dyfodol.

Oherwydd bod Tinder yn cael ei ddefnyddio ar draws cymaint o wledydd,gall mater awdurdodaeth godi ei ben.os cyflawnir trosedd.Fel gwelir o’r enghreifftiau uchod,gellir cyflawni amrywiaeth o droseddau.Felly mae’n hanfodol cael cyngor cyfreithiol arbenigol os cyhuddir chi o’r fath droseddau.

Sut gallwn helpu?

Sicrhawn fod yr wybodaeth ddiweddaraf gennym am unrhyw newidiadau deddfwriaethol ac yn y ddeddf achosion er mwyn gallu cynnig y cyngor gorau posibl i chi. Os am drafod unrhyw beth ynglyn a’ch achos,cysylltwch gyda Michael Strain ar 01758 455 500 neu office@strainandco.co.uk

[Image: Image Courtesy: Denis Bocquet (www.flickr.com/photos/66944824@N05/14837259957), Licensed under the Creative Commons Attribution 2.0 Generic ]

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.