STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Trafferthion talu dirwyon

Trafferthion talu dirwyon

Dyddiad: 2018-05-08

Nid dirwy yw’r gosb arferol roddir yn Llys y Goron, ond pan ddigwydd hynny, mae’n tueddu i fod yn swm uchel iawn.

Oes rhaid talu’r ddirwy i gyd ar unwaith?

Weithiau bydd y llys yn gorchymyn taliad llawn ( o fewn amser penodedig),ond mewn llawer achos bydd gorchymyn I dalu hyn a hyn yr wythnos neu’r mis.

Yn y sefyllfaoedd canlynol ni chewch amser i dalu ( ac felly cewch eich carcharu yn syth os methwch dalu):

a) Os mai carchar yw’r gosb arferol am eich trosedd, a’r barnwr yn credu bod gennych ddigon o fodd talu dirwy yn syth. b) Nid yw’r barnwr yn credu yr arhoswch yn ddigon hir yn eich cyfeiriad presennol ym Mhrydain i orfodi dulliau eraill o gosbi os methwch dalu’r ddirwy. c) Pan gewch y ddirwy, mae’r barnwr yn eich dedfrydu i garchar yn syth, i garchar am oes, neu eich cadw mewn canolfan ddisgyblu i droseddwyr ifanc, am y drosedd hon , neu drosedd arall; neu ei fod yn eich dedfrydu yn y modd yma am drosedd yn ychwanegol at fforffedu ei ymrwymiad; neu eich bod eisoes yn y carchar am oes, neu’n treulio cyfnod mewn carchar neu ganolfan ddisgyblu.

Cytuno ar gyfnod o amser yn niffyg talu. Yn unol ag Adran 139 o Ddeddf Pwerau Troseddol ( i ddedfrydu) 2000, rhaid I’r llys benodi cyfnod o garchar yn niffyg talu dirwy.Mae’r carchariad hwn yn ychwanegol at unrhyw gyfnod o garchar y gellid ei gael os na thelir dirwy: “Diben gorchymyn dedfryd o garchar yn niffyg talu yw sicrhau, os oes modd,, bod diffynydd sydd a digon o asedau i allu codi’r arian benodwyd, yn talu, ac na ddylai elwa o gwbl trwy beidio a thalu.Mae’r hawl yna’n deillio nid yn unig o achosion blaenorol, ond o’r gofynion stadudol eu hunain.” (R v Smith (2009) EWCA Crim 344).

Dibynna’r cyfnod hwyaf o garchar ar faint y ddirwy:

  • Swm dan £200 - 7 niwrnod

  • Swm dros £200 ond o dan £500 - 14 diwrnod

  • Swm dros £500 ond dan £1000 - 28 niwrnod

  • Swm dros £1000 ond dan £2500 - 45 niwrnod

  • Swm dros £2500 ond dan £5000 - 3 mis

  • Swm dros £5000 ond dan £10000 - 6 mis

  • Swm dros £10000 ond dan £20000 - 12 mis

  • Swm dros £20000 ond dan £50000 - 18 mis

  • Swm dros £50000 ond dan £100000 - 2 flynedd

  • Swm dros £100000 ond dan £250000 - 3 blynedd

  • Swm dros £250000 ond dan £1 filiwn - 5 mlynedd

  • Swm dros £1 filiwn - 10 mlynedd

A yw’r llys bob amser yn rhoi’r cyfnod hwyaf o garchar os gwrthodir talu dirwy? Bydd yn dibynnu ar faint y ddirwy a lleoliad y swm o fewn y rhestr uchod. Mae’n debygol felly gyda dirwy o £55000 i’r cyfnod o garchar am ddiffyg talu fod yn nes i 18 mis na 2 flynedd. syddOnd nid ymarfer mathemategol sydd yn penderfynu.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.