STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Rhyddhau dan ymchwiliad.

Bwc

Dyddiad: 2021-01-06

Rhoddodd Deddf Plismona a Throsedd 2017 hawl i’r heddlu ryddhau unigolion dan amheuaeth tra mae’r ymchwiliad yn mynd ymlaen, yn hytrach na’u rhoi ar fechniaeh yr heddlu.Cyn pasio’r Ddeddf,byddai’r un dan amheuaeth yn cael ei ryddhau ar fechniaeth gyda neu heb amodau, gyda dyddiad ac amser i ateb yn ol i swyddfa’r heddlu, os oedd angen mwy o ymchwilio.Ar ol y newid,y drefn arferol oedd rhyddau dan ymchwiliad (RUI),er bod mechniaeth cyn cyhudddiad yn dal ar gael.

Bwriad y ddeddfwriaeth oedd datrys y broblem bod pobl dan amheuaeth ar fechniaeth yr heddlu am gyfnodau hir. Achosai’r oedi ansicrwydd a phryder i’r rhai dan amheuaeth, yn ogystal ag i’r dioddefwyr. Ar y pryd, poenai cyfreithwyr byddai’r system newydd yn gadael pawb yn disgwyl heb ddyddiad dychwelyd i swyddfa’r heddlu. Mae adroddiad yn dilyn arolwg wnaed ar y cyd gan Arolygwyr Gwasanaeth Erlyn y Goron, Arolygwyr yr Heddlu a’r Gwasanaethau Tan ac Achub wedi edrych ar y canlyniadau posibl Dyma’r casgliadau:

  1. Ni roddwyd digon o ystyriaeth i effaith y newidiadau ar ddioddefwyr.
  2. Mae’r system newydd- RUI- yn gadael gormod o ddioddefwyr heb y sicrwydd a’r warchodaeth gall amodau mechniaeth eu rhoi.
  3. Yn rhy aml, nid yw’r heddlu’n trafod gyda’r dioddefwr wrth benderfynu ddylid rhoi’r un dan amheuaeth ar fechniaeth gyda’g amodau.
  4. Nid yw’r heddlu bob amser yn rhoi gwybod i Wasanaeth Erlyn y Goron bod person dan amheuaeth wedi ei ryddhau dan ymchwiliad.
  5. Rhoddir llai o flaenoriaeth yn aml i achosion RUI nag i achosion rhai ar fechniaeth, ac felly cymer y rhai hyn fwy o amser nag a ddylent.

Canlyniadau eraill oedd pobl dan amheuaeth yn cael eu trosglwyddo o fechniaeth i RUI ar ol 28 niwrnod heb reswm da;peidio dod a chyhuddiadau ymlaen mor fuan ag y gellid pan mae’r person dan amheuaeth yn y ddalfa, a’r ymchwiliad wedi ei gwblhau.Mewn gormod o achosion roedd pobl dan amheuaeth yn cael eu rhyddhau dan ymchwiliad oherwydd oedi gyda’r ymchwiliadau fforensig.

Ymddengys bod cyfreithwyr yn iawn i feddwl byddai’r system newydd yn creu ei phtoblemau ei hun.

Beth ddigwydd yn awr?

Canfu’r arolwg nad oedd yr heddlu wedi eu paratoi’n ddigonol i weithredu’r newidiadau. Nid oedd rhai systemau IT wedi eu uwch-raddio i ganiatau cadw cofnod cywir o’r nifer o bobl dan amheuaeth oedd wedi eu rhyddhau tra’r oedd ymchwiliadau’n parhau,ac nid oedd unrhyw ganllaw ar gael.

Cyhoeddwyd canllaw cenedlaethol yn Ionawr 2019 yn amlinellu sut dylai’r heddu benderfynu oedd unigolyn i’w roi ar fechniaeth, neu ei ryddhau tra’r oedd ymchwiliadau’n parhau.Canfuwyd gan yr arolygwyr nad oedd rhai heddluoedd yn dilyn y canllaw,ac nad oedd llawer o blismyn yn ymwybodol bod canllaw ar gael hyd yn oed.

Yn ddiweddar cynhaliodd y Swyddfa Gartref drafodaeth gyhoeddus ar newidiadau i’r ddeddfwriaeth, er mwyn helpu i ddatrys y problemau restrwyd yn adroddiad yr arolygwyr.Cyflwynwyd canfyddiadau’r adroddiad fel modd o egluro a chynorthwyo’r heddlu yn eu gwaith.Gwnaed nifer o argymhellion yn yr adroddiad:

  1. Y Swyddfa Gartref i gydweithio gyda’r heddlu i sicrhau bod ganddynt ddigon o amser ac adnoddau i baratoi ar gyfer unrhyw newidiadau i’r ddeddfwriaeth yn y dyfodol, o ganlyniad i’r argymhellion.
  2. Creu system casglu data er mwyn creu darlun cenedlaethol cywir o’r rhai ryddhawyd dan ymchwiliad, a’r rhai ar fechniaeth, cyn cael eu cyhuddo,a gwneud trefniadau monitro.
  3. Dylai’r Swyddfa Gartref sicrhau bod unrhyw newidiadau deddfwriaethol yn gwneud pethau’n well i ddioddefwyr troseddau.
  4. Creu canllawiau clir i’r heddlu,fel bod pob achos sydd yn ymwneud a niwed difrifol, neu risg o niwed difrifol, yn cael mechniaeth gyda’g amodau, yn hytrach na chael ei ryddhau tra bo’r ymchwiliad yn parhau.
  5. Dylid cadw cofnod a yw person dan amheuaeth ar fechniaeth, neu wedi ei ryddhau dan ymchwiliad, a dylid hysbysu Gwasanaeth Erlyn y Goron o hyn.

Sut gallwn helpu?

Os hoffech drafod unrhyw agwedd o’ch achos, cysylltwch, os gwelwch yn dda, gyda Michael Strain on michael@strainandco.co.uk neu ffonio 01758 455 500

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.