STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Rheithwyr byddar.

Dyddiad: 2021-04-26

Ar hyn o bryd anaml mae pobl fyddar iawn yn cael bod ar reithgor.Mae cyfreithiau llym yn rhwystro mynediad i’r ystafell drafod i unrhyw un ar wahan i’r deuddeg rheithiwr,sydd yn golygu na all cyfieithydd iaith arwyddion fynd i’r ystafell. Amcan y ddeddfwriaeth yn gwahardd 13 unigolyn yw atal unrhyw ddylanwad o’r tu allan ar drafodaethau’r rheithgor. Cyhoeddodd y llywodraeth ei dymuniad i sicrhau bod y system gyfiawnder yn agored i bawb,a’i bwriad i gael gwared a’r rhwystr hwn i reithwyr byddar.Rhan o Fesur yr Heddlu,Troseddau,Dyfarnu a

Llysoedd yw hyn. Faint o broblem fydd gwneud hyn? Mae’r llywodraeth yn amcangyfrif bydd hyn yn effeithio ar 80,000 o bobl fyddar.Ar hyn o bryd mae hawl i gyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain roi cymorth i reithiwr yn ystafell y llys,ond dim hawl i fynd i’r ystafell lle mae’r rheithgor yn trafod ac yn gwneud eu penderfyniad.Golyga hyn bod rhaid i bob rheithiwr byddar fedru darllen gwefsau,neu ni all gymryd rhan yn effeithiol. Er nad oes rheol benodol yn gwahardd pobl fyddar rhag bod ar reithgor,canfuwyd bod llawer yn anaddas i’w dewis onibai eu bod yn gallu darllen gwefusau. Bu adroddiadau papur newydd am reithwyr byddar iawn yn gweithredu’n llwyddiannus fel aelodau o reithgor,ond nid pan oedd angen cyfieithydd yn y trafodaethau. A heriwyd yr hawl o’r blaen? Mae pobl fyddar wedi cael bod ar reithgor mewn gwledydd eraill,ond aflwyddiannus fu pob ymgais i herio’r gyfraith yn y wlad hon.Ym 1999 ceisiodd prif weithredwr Cymdeithas Brydeinig y Deillion ar y pryd berswadio’r llys i ganiatau iddo gael cyfieithydd/dehonglydd gydag ef.Dyfarnodd y llys bod caniatau cyfieithydd,fel trydydd person ar ddeg yn nhrafodaethau’r rheithgor yn gyfystyr ag “afreoleidd-dra na ellid ei gywiro”. Aflwyddiannus fu heriau eraill,ac am resymau tebyg.

Ymchwil. Yn 2013 gwnaed ymchwiliad gan Jemina Napier i gyfreithwyr proffesiynol a chyfieithwyr neu ddehonglwyr.Canfu nad oedd atebyddion yn gwrthwynebu bod rhai rheithwyr yn fyddar cyn belled a bod polisiau eglur ac arweiniad i gyfieithwyr a staff y llys. Cynhaliodd dreial ffug gyda rheithwyr byddar yn Awstralia yn 2014 i asesu pa mor effeithiol y gallent gymryd rhan gyda chyfieithwyr yn bresennol.Roedd gan Awsralia system debyg i’r un yng Nghymru a Lloegr. Canfu ymchwiliad wnaed yno bod cyfreithwyr yn ofni byddai presenoldeb cyfieithydd yn amharu ar achosion llys,ond roedd ymchwil ac astudiaeth pellach yn awgrymu nad oedd hyn yn wir.Edrychodd Comisiwn Adolygu’r Gyfraith yn Ne Cymru Newydd yno ar gywirdeb cyfieithiadau cyfreithiol trwy drosi dyfarniadau barnwyr i iaith arwyddion.Gwyliodd chwech o bobl fyddar y cyfieithiad,tra gwrandawai chwech heb unrhyw nam ar eu clyw ar y recordiadau.Darganfuwyd i’r ddau grwp gamddeall rhai cysyniadau a thermau cyfreithiol,ond roedd y cyfieithiadau’n ddigon da i ganiatau i’r rhai byddar ddeall beth ddywedodd y barnwr. Beth wneir i sicrhau bod y system yn ddiogel? Bydd rhaid i’r cyfieithwyr arwyddo cytundeb cyfrinachedd yn datgan byddant yn ddiduedd,ac na fyddant yn datgelu unrhyw drafodaethau fu yn ystafell y rheithgor.Bydd yn drosedd i gyfieithydd yn fwriadol i ymyrryd neu ddylanwadu ar drafodaethau’r rheithgor,gyda uchafswm cosb o 2 flynedd o garchar.Byddai’r un cyfyngiadau ar gyfieithwyr ag sydd ar reithwyr,sef rhoi unrhyw ddyfeisiadau electronig i’w cadw,cael eu gwahardd rhag ymchwilio i unrhyw achos,na rhannu ymchwiliad gyda’r rheithwyr.

Sut gallwn helpu? Sicrhawn bod y wybodaeth ddiweddaraf gennym am unrhyw newid yn y ddeddfwriaeth a chyfraith achosion er mwyn rhoi’r cyngor gorau posibl i chi. Os hoffech drafod unrhyw beth ynglyn a’ch achos,cysylltwch,os gwelwch yn dda,a Carys Parry ar 01758 455 500 neu office@strainandco.co.uk

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.