STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Pa hawliau sydd gan yr heddlu i roi prawf llygaid i mi?

Pa hawliau sydd gan yr heddlu i roi prawf llygaid i mi?

Dyddiad: 2018-09-04

Bu llawer o drafod yn y wasg am heddluoedd yn rhoi profion ar hap i yrrwyr ar ochr y ffordd,a diddymu eu trwyddedau.

Felly beth oedd eu hawliau? Oes ganddynt hawl i fy stopio? Dan Adran 163 Deddf Traffig y Ffyrdd 1988, mae gan blismon mewn iwnifform hawl i ofyn i yrrwr cerbyd ar y ffordd stopio.Mae gwrthod ufuddhau yn drosedd.

Oes raid iddo fod yn ei wisg swyddogol fel plismon?

Rhaid iddo fod yn ei iwnifform i gael yr hawl. ond mae Cyfraith Gwlad yn caniatau i blismon yn ei ddillad ei hun stopio gyrrwr, ond ni fyddai cosb am beidio ufuddhau i hynny.

Beth yw’r gyfraith ynglyn a golwg a gyrru cerbyd? Rhaid I chi fedru darllen plat cofrestru o bellter o 20 medr ( tua hyd 5 car). Mae gyrru gyda golwg diffygiol sydd heb ei gywiro yn drosedd.

A fedr yr heddlu ofyn i mi gymryd prawf llygaid ar ochr y ffordd?

Gellid gofyn i chi wirfoiddoli i gymryd y prawf. Os gwrthodwch, mae’n codi amheuaeth eich bod yn gyrru heb allu ymateb i ofynion y prawf golwg.os yw’r heddwas yn amau, efallai bydd rhaid cymryd y prawf. Mae Adran 96 Deddf Traffig Ffyrdd 1988 yn rhoi’r hawl hwn iddo. Gellir gwneud y prawf rhwng 8a.m. a 9p.m.. yng ngolau dydd yn unig.

Os gwrthodwch?

‘Rydych yn troseddu os oes rheswm da gan yr heddwas i amau eich bod wedi gyrru cerbyd er na fedrech basio’r prawf, ac yna wedyn yn gwrthod ei gymryd. Mae dirwy yn bosibl am wrthod stopio i’r heddlu, dan Adran 163. Am yrru gyda diffyg ar eich golwg, neu wrthod cymryd prawf llygaid, cewch ddirwy, gwaharddiad o ddewis rhag gyrru, ac ardystiad gorfodol o dri phwynt cosb ar eich trwydded.

Fydd fy nhrwydded yn cael ei diddymu?

Os methwch brawf llygaid ar ochr y ffordd, neu os gwrthodwch gydymffurfio, gall yr heddlu hysbysu’r Asiantaeth Drwyddedu Gyrrwyr a Cherbydau (DVLA) yn syth.Mae ffordd sydyn o weithredu er mwyn penderfynu diddymu eich trwydded, a hynny o fewn oriau. Unwaith mae hyn yn digwydd ni chewch eich trwydded yn ol nes i chi ddangos bod eich golwg yn ymateb i’r gofynion. Er i’r drwydded gael ei diddymu, gellid eich erlid am y troseddau amlinellwyd uchod.

Pam mae cymaint o son am hyn ar y newyddion?

Mae’r dull cyflym o weithredu yn bodoli ers 2013. Rhoi’r sylw mawr i’r hawl hwn yn awr gan fod tri Awdurdod Heddlu wedi datgan eu bwriad i gynnal y profion hyn ar ochr y ffordd, ac y gallai gael ei ehangu drwy’r wlad. Ar sail ymchwil gan Gymdeithas yr Optometryddion amcangyfrifir bod tua miliwn o bobl yn y D.U. yn gyrru cerbyd yn anghyfreithlon. Mae Yswiriant RSA yn amcangyfrif bod problemau gyda’r golwg yn achosi bron i 3000 o ddamweiniau bob blwyddyn ar ffyrdd Prydain. Bydd yr heddluoedd sydd yn rhan o’r arbrawf cychwynnol yn casglu gwybodaeth am faint y broblem. Gallai hyn arwain at brawf llygaid gorfodol pellach rywbryd ar ol y prawf gyrru ymarferol.

Sut gallwn Helpu?

‘Rydym yn arbenigwyr ar gyfraith traffig ar y ffurdd, a gallwn roi cyngor os ydych yn wynebu ymchwiliad neu erlyniad. I drafos unrhyw agwedd o’ch achos, cysylltwch, os gwelwch yn dda, a Nicola Jones ar 01758 455 500 neu office@strainandco.co.uk

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.