STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Osgoi'r Gosb Eithaf

Osgoi'r Gosb Eithaf

Dyddiad: 2018-02-15

Dywedir yn aml nad oes y fath beth a chi peryglus, ond yn hytrach mai’r perchennog sydd yn beryglus. Mae cyfraith droseddol yn cyfeirio at gi peryglus yn aml, ond y gwir yw mai diffyg rheolaeth ar yr anifail yw achos y drosedd.

Yn ol Adran 10 Deddf Cwn Peryglus 1991:

mae ci allan o reolaeth ac yn beryglus unrhyw adeg mae’n rhesymol ofni ei fod am niweidio rhywun ( neu niweidio ci tywys) , pa un ai yw yn gwneud hynny ai peidio. Mae dirwyon trwm am droseddau < cwn peryglus, a 14 blynedd o garchar yn bosibl os achosir marwolaeth; ond yn aml nid yw pobl yn deal y gall trosedd olygu difa’r ci. Gall y llys orchymyn difa’r ci mewn rhai achosion. Dro arall rhoi’r y gorchymyn difa, ond gyda amodau caeth i’w dilyn I sicrhau nad yw’r anifail yn debygol o fod yn berygl i ddiogelwch y cyhoedd.Wrth benderfynu a fyddai perygl rhaid i’r llys: a) Ystyried: 1) natur y ci a’i ymddygiad yn y gorffennol. 2) a yw’r perchennog, neu’r sawl sydd yn gofalu amdano ar y pryd, yn addas ac abl I reoli’r ci. b) Ystyried unrhyw amodau perthnasol.

Osgoi gorfod difa’r ci.

Wrth ystyried difa, rhaid tynnu sylw i’r ffaith fod grym gan y llys i orchymyn difa yn dilyn methiant i ufuddhau i’r amodau osodwyd i’r perchennog. Hynny yw ni fydd raid difa’r ci os cedwir yr amodau. Yr achos allweddol yw R v Flack yn 2008 EWCA Crime 204 pan sefydlwyd y meini prawf canlynol: Dyma’r egwyddorion ynglyn a chi os yw ei berchennog wedi ei ddyfarnu’n euog ( dan Adran 3(1) Deddf 1991) o fethu cadw ci dan reolaeth mewn man cyhoeddus:

(1) Mae gan y llys y grym dan Adran 4(1) Deddf 1991 I orchymyn difa’r ci.

(2) Nid oes rhai gorchymyn difa os yw’r llys yn fodlon na fyddai’r ci yn beryglus i ddiogelwch y cyhoedd ( dan Adran 4(1) )

(3) Cyn gorchymyn difa ar unwaith, dylai’r llys ystyried a ddylid gweithredu yn unol a’r Ddeddf hon a difa’r ci, os na fydd y perchennog yn ei gadw dan reolaeth.

(4) Gall gorchymyn difa wedi ei ohirio restru’r amodau sydd yn rhaid eu dilyn i reoli’r ci, naill ai ei ffrwyno a mwsel, ei gadw ar dennyn, neu peidio mynd a fo i leoedd penodol. (Gweler Adrannau 4 a 5 o’r Ddeddf)

(5) Ni ddylai llys orchymyn difa os yw’n fodlon bod gosod amodau o’r fath yn ddigon i sicrhau na fyddai perygl i ddiogelwch y cyhoedd.

(6) Wrth benderfynu pa orchymyn sydd yn briodol, rhaid i’r llys ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol, yn cynnwys ymddygiad ffyrnig y ci yn y gorffennol, a’r modd roedd y perchennog wedi bod yn ei reoli.

Beth allwn ni ei wneud?

Mae’n anhebygol bydd dadl gyfreithiol yn ddigon i ddarbwyllo llys i orchymyn difa gohiriedig ( hynny yw yn dilyn methiant i ufuddhau i’r amodau osodwyd). Ymhob achos bron bydd angen cymorth arbenigwr ar ymddygiad cwn, yn ogystal a chyfreithiwr abl i ddadlau ar eich rhan.. Gallwn drefnu adroddiadau arbenigol addas.Os ydych yn wynebu achos cyfreithiol, cysylltwch a ni mor fuan ag sydd bosibl. Mae’n cyfreithwyr yn hyddysg yn y maes hwn o’r gyfraith, ac yn abl i’ch amddiffyn yn y modd gorau. Cysylltwch a Michael Strain ar 01758 455 500.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.