STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Oes raid i mi roi rhif adnabod personol, rhif PIN fy ffon i’r heddlu?

Oes raid i mi roi rhif adnabod personol, rhif PIN fy ffon i’r heddlu?

Dyddiad: 2018-09-20

Yr ateb syml yw nagoes; ond dan rai amgylchiadau mae canlyniadau posibl os gwrthodwch.

Pryd mae ganddynt hawl i ofyn?

Gellid dadlau y cant ofyn unrhyw dro, a chithau wrthod bob tro.Ond yr hyn sydd yn holl bwysig i sylweddoli ydyw y gallant gymryd camau pellach os gwrthodwch.

Pryd mae ganddynt hawl i fynd a’r achos ymlaen?

Mae’r grym hwnnw ganddynt yn ol Adran 49 Deddf Rheoli Pwerau Ymchwilio 2000. Os dygwyd eich ffon oddi arnoch, neu pan mae gan yr heddlu hawl i’w harchwilio, gallant roi rhybudd i chi eu bod angen eich rhif PIN neu “allwedd seiffro” i ganiatau mynediad i’r manylion ar eich ffon.

Mae hyn yn wir am gyfarpar fel cyfrifiaduron hefyd. Dan Adran 49, rhaid cael caniatad ysgrifenedig gan Farnwr neu Farnwr Ardal i allu rhoi rhybudd; mae hyn wedyn yn rhoi “caniatad priodol”.

Rhaid bod gan y sawl gafodd y caniatad reswm da i fod angen gwybodaeth, am ei fod yn credo: 1.Bod y rhif PIN gennych

  1. Bod angen y rhybudd am y rhesymau restrir isod; neu i ganiatau i unrhyw awdurdod cyhoeddus ddefnyddio unrhyw bwer statudol, neu gyflawnli unrhyw ddyletswydd yn effeithiol ac yn y modd priodol.
  2. Bod y rhybudd yn gymesur.
  3. Nad yw’n ymarferol cael yr wybodaeth a ddiogelwyd heb roi rhybudd. Fel yn yr 2ail bwynt uchod mae rhybudd yn angenrheidiol. a) O safbwynt diogelwch cenedlaethol. b) Er mwyn atal neu ddarganfod trosedd. c) Er lles economaidd y D.U.

Beth fyddai “rhybudd”?

Rhaid i’r rhybudd fod yn ysgrifenedig ( neu wedi ei gofnodi mewn dull arall), yn datgan yr wybodaeth gyfrinachol berthnasol, yn egluro’r rhesymau pam bod ei angen ( gweler uchod), yn nodi swydd neu safle’r sawl sydd yn ei roi, ac yn nodi’r un wybodaeth am y sawl sydd yn caniatau i’r rhybudd gael ei roi, yn nodi’r amser priodol i roi’r rhybudd, ac yn olaf, yn dweud pa fanylion sydd angen cael eu datgelu, a sut mae gwneud hynny.

Yr hyn sydd yn ein pryderu yw bod pobl yn derbyn dogfennau sydd yn rhoi’r argraff bod datgelu cyfrinair neu rif PIN yn orfodol.Mewn gwirionedd ceisiadau yn unig ydynt, heb eu caniatau gan awdurdod uwch. Dylech gael cyngor cyfreithiwr bob amser cyn cydsynio i unrhyw gais. Beth os nad wyf yn gwybod y PIN, neu nad wyf yn fodlon ei roi?

Gallwch gael eich erlyn am wrthod ufuddhau i rybudd dilys. Os yw’r wybodaeth gennych ac yn gwrthod ei ddatgelu, gallwch gael uchafswm o 2 flynedd yn y carchar, neu 5 mlynedd am drosedd yn ymwneud a diogelwch cenedlaethol, neu ymddygiad anweddus yn ymwneud a phlant.

Os ydych yn hollol onest yn dweud nad yw’r wybodaeth gennych, gallwch gynnig hyn fel amddiffyniad i’r drosedd.

Mae deddfwriaeth yn derbyn nad yw allwedd i gyfarpar (neu PIN) gennych os: “oes digon o dystiolaeth i gwestiynu’r mater, ac na fedrir profi’r gwrthwyneb heb unrhyw amheuaeth”. Pa ddedfrydau roddwyd eisoes?

Methodd Andrew Garner ymateb i’r rhybudd, gan ddweud ei fod wedi anghofio ei rif PIN, ond cafwyd ef yn euog a’i garcharu am 18 mis. Plediodd Tajan Spaulding yn euog ar ol gwrthod rhoi rhifau PIN ei ffonau symudol, a chafodd 8 mis o garchar. Carcharwyd Stephen Nicholson am 14 mis am wrthod rhoi ei gyfrinair Gweplyfr i’r heddlu yn ystod yr ymchwiliad i lofruddiaeth Lucy McHugh. Sut gallwn helpu?

Mae pobl wedi eu carcharu am wrthod rhoi rhif PIN eu ffon; gall y canlyniadau fod yn llym iawn, ond braslun yn unig yw’r erthygl hon. Gallwn ddweud wrthych os yw’r rhybudd yn gyfreithlon ac wedi ei baratoi dan amgylchiadau priodol, ac os oes gennych amddiffyniad i’w gynnig. Mae cael cyngor yn gynnar yn holl bwysig. Os dymunwch drafod unrhyw agwedd o’ch achos, cysylltwch, os gwelwch yn dda, a Carys Parry ar 01758 455 500 neu office@strainandco.co.uk

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.