STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Meysydd awyr, Awyrennau ac Alcohol

Meysydd awyr, Awyrennau ac Alcohol

Dyddiad: 2019-09-06

Cafwyd adroddiadau yn y wasg am arestio 500 o bobl am fod yn feddw ar awyrennau ym meysydd awyr Prydain yn ystod y tair blynedd olaf. I lawer mae’r gwyliau’n dechrau yn syth ar ol archwilio’r bagiau, a pha ddrwg sydd yn hynny?

Mae’n amlwg bod meddwdod yn broblem erbyn hyn. Gofynwyd i’r llywodraeth gymryd camau i ymdrin a rheolau trwyddedu yn y maes awyr, yn arbennig gan nad yw bariau yfed yno yn gorfod ufuddhau i rai cyfyngiadau ar hyn o bryd. Mae cwmniau awyrennau hefyd yn ceisio lleihau y risg; er enghraifft, gwahardd cario alcohol mewn bagiau llaw wrth fynd ar ambell awyren, er mwyn helpu’r gweithwyr ar yr awyren honno i reoli lefel y diod gaiff ei yfed.

Beth yw’r cyfreithiau ynglyn ag alcohol mewn maes awyr?

Nid yw’r cyfreithiau trwyddedu rheolaidd yn weithredol mewn bariau yfed sydd wedi eu lleoli rhwng y safle archwilio diogelwch a’r safle mynd ar yr awyren. Ym mis Tachwedd 2018 bu’r llywodraeth yn trafod cynnig i orfodi’r un rheolau o fewn y maes awyr ag sydd y tu allan. Ond ni ddaeth unrhyw ddeddfwriaeth i rym hyd yn hyn.

Beth sydd yn digwydd? Yn unol a chod ymddygiad gwirfoddol y diwydiant awyrennau ym Mhrydain, ni chaniateir unrhyw ymddygiad afreolus o fath yn y byd. Mae arwyddwyr y Cod yn cydweithio i wahardd a lleihau digwyddiadau, yn cynnwys gwerthu ac yfed alcohol. Yn fyr, y bwriad yw dilyn cyfreithiau trwyddedu rheolaidd trwy beidio gwerthu diod i rai sydd eisoes yn feddw, er enghraifft. Ond gwirfoddol yw’r Cod. Bwriad ymgyrch “Un yn ormod” yw lleihau meddwdod mewn meysydd awyr, ac mae 20 maes awyr yn defnyddio’r ymgyrch i rybuddio teithwyr o ganlyniadau posibl ymddygiad meddw neu afreolus. Cyfeiria’r ymgyrch at deithwyr waherddir rhag mynd ar awyren am nad ydynt mewn cyflwr i hedfan; dedfryd o garchar, dirwyon am achosi aflonyddwch tra yn yr awyr, a gorfod dargyfeirio’r awyren; a gwaharddiad llwyr o awyrennau.

Beth yw’r troseddau posibl? Er mai ffigurau ynglyn a phobl arestiwyd am fod yn feddw sydd ar gael, mae’n bosibl troseddu mewn gwahanol ffyrdd. Mae’r troseddau’n cynnwys bod yn feddw ar awyren, bod a theclyn peryglus yn eich meddiant, ysmygu ar awyren, peryglu diogelwch awyren, ac aflonyddu ar bobl eraill.

A yw carchar yn bosibl?

Yr ateb syml yw ei fod yn bosibl. Yn ol datganiad y llysoedd bydd cyfnod o garchar yn syth, bron yn ddieithriad, am fod yn feddw ar awyren, hyd yn oed i rywun o gymeriad dilychwin cyn hynny. Mae bod yn feddw yn unig yn ddigon – nid oes rhaid tarfu ar eraill hefyd. Llys y Goron sydd yn delio a’r drosedd, ac mae hyd at 2 flynedd o garchar. Mae’r un gosb am aflonyddu, neu am beryglu diogelwch yr awyren. Hwyrach na fydd carchar am rai troseddau eraill; gellir rhoi dirwyon. Os ydych yn feddw gallwch gael eich gwahardd rhag mynd ar yr awyren, ac o’r herwydd, golli eich gwyliau. Felly hyd yn oed os na chewch eich arestio, gall bod pris uchel i’w dalu.

Ai ar awyren Brydeinig yn unig y digwydd hyn?

Mae awdurdod gan y Deyrnas Gyfunol i ymdrin a throseddau ar unrhyw awyren, ar y llawr neu yn yr awyr uwchben y Deyrnas Gyfunol.

Mae safonau rhyngwladol yn bodoli hefyd sydd yn golygu bod cyflawni trosedd mewn awyren yn unrhyw le yn atebol i awdurdodaeth leol. Mae hyn yn gymhleth, a’r gobaith yw na fydd yn rhaid i chi byth boeni am yr hunllef gyfreithiol os cewch eich arestio mewn gwlad dramor.

Sut gallwn helpu? Cysylltwch a Bethan Williams ar 01758 455 500 am gyngor arbenigol os cewch eich holi neu eich erlyn am unrhyw drosedd. Gallwn roi cyngor ar bob agwedd o’r achos.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.