STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Merched ar gyfnod byr o garchar

Merched ar gyfnod byr o garchar.

Dyddiad: 2021-04-26

Ar sail tystiolaeth gasglwyd gan adran o’r Gwasanaeth Carchardai a Phrofiannaeth,cyhoeddwyd adroddiad dan y teitl “Gwerthuso ymyrraeth am ychydig o amser i leihau ail-droseddu ymysg merched yn treulio cyfnod byr yn y carchar.”

Dros gyfnod o 12 mis gwnaed astudiaeth o 255 o ferched yn ystod 6 – 8 wythnos olaf eu carchariad (oedd yn llai na 12 mis).

Beth oedd yn digwydd?

Roedd y merched oedd yn fodlon cymryd rhan yn amcanu i gyrraedd gol ddyddiol,tasg “Yr Hunan Gorau Posibl”,a chynnig cefnogaeth i rai eraill tebyg oedd yn rhan o’r ymarfer.Yr ail dasg oedd dychmygu sut byddai eu bywydau ymhen 5 mlynedd,pe bae popeth yn mynd yn ol eu dymuniad.Bwriad ymyrryd oedd cynyddu hunan-effeithiolrwydd,annog a chryfhau hunaniaeth di-drosedd,a’u gwneud yn fwy ymwybodol o gyfeiriad eu bywydau i’r dyfodol.

Ffactorau risg.

Dengys ymchwil blaenorol bod amryw o ffactorau risg ynghlwm a’r posiblrwydd o ferched ar gyfnod byr o garchar yn ail-droseddu,sef yfed yn drwm,diffyg agosatrwydd teulu a diffyg gallu i reoli tymer. Roedd yr astudiaeth hefyd eisiau asesu effaith yr ymyrraeth ar hunan-barch,ai ynteu ail-sefydlu neu ail-droseddu oedd yn gwneud hynny.

Canlyniad:

Cychwynnodd 228 o ferched y treial,ac o fewn blwyddyn i’w rhyddhau roedd 162 wedi eu cael yn euog o ail-droseddu.Mae hyn yn cydfynd a’r cyfartaledd cendlaethol ar gyfer merched garcharwyd am gyfnodau byr.Yn ol pob golwg nid oedd stopio cymryd rhan yn y treial yn gysylltiedig a graddfa uwch o droseddu.

Casgliad terfynnol:

Daeth awduron yr adroddiad i’r casgliad bod ymyrraeth am gyfnod byr yn cael rhywfaint bach o ddylanwad ar leihau graddfa trosedd dros gyfnod o flwyddyn,ac y gallai wella cynlluniau ail-sefydlu.Ond nid oedd cysylltiad rhwng effaith yr ymyrraeth a chynnydd yng nghyfeirio eu bywydau,eu hunan-barch ac effeithiolrwydd i’r dyfodol.Amlygai’r adroddiad bwysigrwydd cefnogaeth addas i ail-ymuno yn y gymdeithas yn dilyn cyfnod o garchar.Roedd cysylltiad rhwng ail-droseddu a cham-ddefnydd alcohol a chyffuriau yn y gorffennol,bod heb gartref sefydlog,diffyg cyswllt teuluol.a diffyg cymorth i drin camddefnydd sylweddau.

Dyma air olaf yr awduron:”Awgryma’r canlyniadau bod yr anfanteision strwythurol sydd yn wynebu merched pan yn gadael carchar yn gryfach nag unrhyw newid seicolegol lwyddwyd i’w feithrin yn ystod cyfnod byr yn y carchar.Pwysleisia’r astudiaeth hefyd bod dirfawr angen gwasanaeth effeithiol i ofalu am le i fyw,cefnogaeth teulu a thrin camddefnydd sylweddau,a hyn i ddechrau o fewn y carchar gan ddilyn ymlaen ar ol eu rhyddhau—hyn i gyd er mwyn cefnogi merched i fyw bywyd heb droseddu”. Mae’r gwaith ymchwil o ddiddordeb mawr i ni fel cwmni,ac yn gyfrwng i gefnogi llysoedd i roi cosbau cymunedol yn hytrach na chyfnodau byr o garchar.

Sut gallwn helpu?

Mae sicrhau bod y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau mewn deddfwriaeth a chyfraith achosion ar flaenau’n bysedd yn holl bwysig i ni, er mwyn gallu rhoi’r cyngor gorau i chi.Os hoffech drafod unrhyw agwedd o’ch achos,cysylltwch os gwelwch yn dda a Carys Parry ar 01758 455 500 neu office@strainandco.co.uk

[Image credit: “Abuse” by Mike Knapek is licensed under CC BY 2.0)

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.