STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Fflachio seibr

Cyberflashing - Facebook Logo

Dyddiad: 2022-03-17

Cyhoeddodd y llywodraeth bod trosedd newydd i’w chyflwyno,sef fflachio seibr.Bydd yn rhan o’r Mesur Diogelwch Ar-lein fel rhan o ymdrechion y llywodraeth i sicrhau bod cyfreithiau yn ymateb i’r troseddau sydd yn datblygu.

Beth yw fflachio seibr?

Golyga fod unigolyn yn anfon llun rhywiol na ofynnwyd amdano,trwy gyfrwng cymdeithasol,apiau trefnu cyfarfod, neu trwy Bluetooth neu Airdrop.Gall y llun ymddangos yn awtomatig ar ddyfais rhywun arall,felly gwelant hwythau’r llun,hyd yn oed os gwrthodant y trosglwyddiad.Y drosedd yw anfon llun neu ffilm o organau rhywiol er mwyn boddhad rhywiol iddo’i hun,neu i fychanu’r dioddefwr,neu achosi dychryn neu ofid iddo.

Pa mor gyffredin yw hyn?

Gwnaed ymchwil gan yr Athro Jessica Ringrose,a darganfod bod 75.8% o enethod rhwng 12 a 18 oed wedi derbyn lluniau na ofynnwyd amdanynt gan ddynion.Dywedodd llawer o’r genethod y byddent yn atal neu ddweud wrth yr heddlu am ddynion anfonai luniau fel hyn,ond ei bod yn anos o lawer delio gyda bechgyn yr un oed a hwy eu hunain.Tynnodd yr Athro sylw at fan gwan gyda phornograffi dial ymysg myfyrwyr oed ysgol.Mae llinell gymorth benodol i rai dros 18 oed,ond i rai dan 18 oed yr unig ateb yw troi at asiantaethau yn ymwneud fwyaf a chamdrin plant yn rhywiol,a dileu lluniau anfonwyd yn gyhoeddus.

Paham fflachio seibr?

Mae’r drosedd newydd yn dilyn camau tebyg i wneud voyeuriaeth yn drosedd,sef sbecian i fyny sgertiau merched ac ar famau yn bwydo o’r fron.

Yn ei swydd fel Arglwydd Ganghellor ac Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder,mae’n amlwg bod gwarchod merched a genethod yn flaenoriaeth gan Dominic Rabb.Dywedodd Penny Lewis,Comisiynydd Cyfraith Droseddol bod cyfle i gamdrin a niweidio wedi cynyddu gyda datblygiad y byd ar-lein,a bod cynnydd yn yr adroddiadau o fflachio seibr yn achosi pryder.Bydd y drosedd yn dileu rhai o’r gwendidau yn y gyfraith,ac yn gwneud fflachio ar-lein yr un mor ddifrifol a chyflawni’r drosedd yn fyw yn y cnawd.

Mesur Diogelwch Ar-lein

Amcan y Mesur yw rheoleiddio cewri’r cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg,gyda adroddiad seneddol yn datgan dylai’r hyn oedd yn drosedd oddiar lein fod yn drosedd ar-lein yn ogystal.

Cyhoeddwyd drafft cyntaf y Mesur ym mis Medi 2021,gan osod “dyletswydd gofal”ar wefannau cymdeithasol i ddileu deunydd niweidiol ac anghyfreithlon,ac i amddiffyn plant.Ond gadawyd y cyfrifoldeb o oruchwylio ar y cwmniau eu hunain fwy neu lai,ac Ofcom,y rheoleiddiwr cyfryngau yn cadw llygad.Mynnai adroddiad seneddol roi mwy o bwerau i Ofcom,a gosod safonau clir.Dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant ,Nadine Dorris,bod y Mesur wedi ei gryfhau a’i wella ers y drafft cyntaf.Ac ychwanegodd mai’r bwriad yw gwneud cwmniau ar-lein yn gyfrifol am warchod plant a mynd i’r afael a deunydd anghyfreithlon.

Troseddau eraill

Yn ogystal a fflachio seibr,dyma awgrymiadau eraill yn y Mesur gan Gomisiwn y Gyfraith (yn yr adolygiad i “Moderneiddio Troseddau Cyfathrebu”):

2.1.Trosedd cyfathrebu “gwirioneddol fygythiol”,er mwyn ei gwneud yn haws dal bygythiadau i dreisio,lladd,defnyddio trais corfforol neu achosi niwed ariannol difrifol. 2.Trosedd “ar sail achosi niwed” er mwyn dal negeseuon anfonwyd i achosi niwed,a hynny heb esgus rhesymol.Bydd y drosedd yn dileu’r categoriau “gwaharddedig”fel “difrifol fygythiol”,”aflednais” ac anweddus.Yn ei le,canolbwyntir ar y niwed seicolegol fwriadwyd ei achosi,i fod yn ofid difrifol, o leiaf,yn hytrach na phrofi’r niwed achoswyd. 3.Trosedd lle mae unigolyn yn anfon neges,ac yn gwybod ei fod yn ffug,gyda’r bwriad o achosi cryn niwed emosiynol,seicolegol neu gorfforol.Byddai hyn yn codi trothwy’r drosedd bresennol fel y mae yn y Ddeddf Cyfathrebu.Mae’r drosedd yn ymwneud ag anfon negeseuon yn un swydd i greu niwed,yn hytrach nag i roi cam-wybodaeth.

Troseddau yn cael blaenoriaeth

Mae’r Mesur yn ei gwneud yn ddyletswydd ar gwmniau rhyngrwyd i gyfyngu ar ledaeniad deunydd anghyfreithlon.Ffurfiwyd rhestr o droseddau ychwanegol i’w cynnwys yn y Mesur,gan ddefnyddio’r criteria canlynol:

a)perygl o’r niwed achosir i ddefnyddwyr y DU gan y deunydd. b)difrifoldeb y niwed hwnnw.

Dyma gategoriau’r troseddau:

1.annog neu gefnogi hunan-laddiad 2.troseddau’n ymwneud a lluniau rhywiol. 3.anogaeth i drais,a bygythiadau. 4,trosedd casineb. 5,trosedd trefn gyhoeddus. 6.troseddau yn ymwneud a chyffuriau. 7.troseddau yn ymwneud ag arfau a gynnau. 8.troseddau twyll ac arian. 9.”gwyngalchu”arian. 10.rheoli,achosi neu annog puteindra er mwyn elw. 11.troseddau mewnfudo cyfundrefnol.

Cosbau.

Byddai uchafswm o 2 flynedd o garchar am y drosedd newydd o fflachio seibr,yn ogystal ag am droseddau seiliedig ar greu niwed.51 wythnos fyddai’r gosb am y drosedd o anfon negeseuon ffug,a hyd at 5 mlynedd am y drosedd o anfon neges bygythiol.

Sut gallwn helpu?

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf gennym am unrhyw newidiadau a datblygiadau yn y ddeddfwriaeth.felly gallwn gynnig y cyngor gorau posibl i chi.Os dymunwch drafod unrhyw agwedd o’ch achos,cysylltwch gyda Rhys Tudur ar 01758 455 500 neu office@strainandco.co.uk

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.