STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Erlyniadau Hillsborough

Dyddiad: 2021-06-15

Cyhuddwyd Alan Foster,Donald Denton a Peter Metcalf o wyrdroi cwrs cyfiawnder am newid adroddiadau 68 heddwas yn dilyn trychineb Hillsborough ym1989. Roedd Denton a Foster yn gyn-uwchswyddogion heddlu. Metcalf oedd cyn-gyfreithiwr heddlu De Swydd Efrog. Ataliwyd eu treial yn dilyn dyfarniad y barnwr na ellid bod wedi cyflawni’r troseddau oherwydd gwnaed y newidiadau er mwyn paratoi’r datganiadau ar gyfer yr ymchwiliad cyhoeddus.

Y newidiadau.

Cytunodd y cyfreithiwr a’r heddlu bod rhaid i’r dystiolaeth gyflwynid i’r ymchwiliad fod yn ffeithiol, heb unrhyw esboniadau na mynegi teimladau. Penderfynwyd bod angen golygu,am fod llawer o ddatganiadau’r plismyn yn cynnwys esboniad yn ogystal a theimlad. Cytunwyd i Metcalf roi cyngor ar sut i olygu, a throsglwyddo’r cyngor hwnnw i Denton (Prif Uwch-Arolygydd), ac yna i Foster (Prif Arolygydd) wneud y golygu.

Dadleuai’r erlyniad mai bwriad y golygu oedd rhwystro cwrs cyfiawnder, gan fod rhai darnau wedi eu dileu, a’r rhai hynny yn cyfeirio at fethiannau ar ran yr heddlu. Cyflwynodd Metcalf ddatganiad drafft hefyd ar gyfer pedwar heddwas, ynglyn a phwy oedd yn gyfrifol am oruchwylio’r llefydd i’r gwylwyr sefyll. Roedd yr erlyniad yn dadlau bod paratoi’r datganiad hefyd yn gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Yn y gwrandawiad cwest yn 2014-2016 dadleuwyd gan deuluoedd y dioddefwyr bod y newidiadau i’r dalganiadau wedi dileu cyfeiriadau i arfer yr heddlu i gau un twnel pan oedd y llefydd sefyll yn llawn. Ar y diwrnod dan sylw,dywedwyd na roddodd y prif swyddog orchymyn i gau’r twnel wedi i nifer fawr o gefnogwyr gael caniatad i ddod i mewn drwy giat allanfa lydan.

Daeth yr ymholiad cyntaf i’r casgliad bod diffyg cau giat y twnel “wedi bod yn gamgymeriad o’r mwyaf”. Ymddangosai bod yr heddlu’n ymwybodol o’r camgymeriad hwn cyn yr ymchwiliad, a dyna pam efallai bod cyfeiriad at y polisi blaenorol wedi ei ddileu. Gellir dadlau byddai sefyllfa’r heddlu wedi edrych yn waeth os oedd ganddynt bolisi yn dangos eu bod yn ymwybodol byddai cau’r twnel yn cael dylanwad.

Yr ymchwiliad.

Ymchwiliad i’r hyn ddigwyddodd ar y diwrnod,ac a gynhaliwyd ychydig fisoedd ar ol y drychineb,oedd y cyntaf, dan arweiniad yr Arglwydd Ustus Taylor. Y bwriad oedd cynnig argymhellion diogelwch newydd ar gyfer caeau peldroed cyn dechrau’r tymor newydd.

Paham yr holl oedi?

Roedd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ymwybodol o’r broblem,gan bod hyn wedi ei godi yn ystod trin yr achos yn 2018. Aeth yr erlyniad ymlaen i ymdrin a’r cyhuddiadau, (er bod y datganiadau wedi eu paratoi ar gyfer ymchwiliad Taylor) ar y sail byddai’r rhai oedd yn gysylltiedig a’r achos yn gwybod bod achosion ffurfiol eraill i ddilyn—achosion fel cwest, ymchwiliadau troseddol a cheisiadau am iawndal.

Dyfarniad.

Mae trosedd gwyrdroi cwrs cyfiawnder yn cyfeirio at “gwrs cyfiawnder” fel achosion troseddol. Roedd rhaid i’r erlyniad ddangos bod yna achos cyfreithiol, ond ni fedrent wneud hynny. Felly nid oedd yn ymchwiliad cyhoeddus llawn, ac ni chynhwysir y math o adolygiad gynhaliwyd o fewn yr hyn mae “cwrs cyfiawnder” yn ei olygu. Er enghraifft, nid oedd gan yr Arglwydd Ustus Taylor y pwerau i alw tystion i roi tystiolaeth yn y llys.

Er bod posiblrwydd i gwrs cyfiawnder gyfeirio at achosion pan nad yw’r achosion hynny wedi dechrau eto,dyfarnwyd na allai’r erlyniad egluro sut roedd y diffynyddion yn tueddu tuag at wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Paratowyd datganiadau drafft er mwyn dangos yn glir na ddylai’r swyddogion dderbyn y datganiad onibai ei fod yn cydfynd a’r hyn oeddent hwy yn ei gofio.Yn yr amgylchiadau hynny,nid oedd modd dweud bod yna dueddiad i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Ar ddiwedd achos yr erlyniad roedd argymhelliad nad oedd achos i’r diffynyddion i’w ateb. Derbyniwyd yr argymhelliad a rhyddhawyd y rheithgor. Wrth wneud hynny dywedodd y barnwr: ”Y broblem yw mai ychydig o dystiolaeth,os oes tystiolaeth o gwbl, sydd am yr achosion hyn, ac/neu nid oes unrhyw sail i allu dweud bod unrhyw beth ddywedwyd gan y diffynyddion hyn yn tueddu i wyrdroi cwrs cyfiawnder o’u cymharu ag achosion eraill.Rwyf wedi dod i’r casgliad nad oes achos i’r rheithgor ei drafod.”

Hanes.

Ym 1991 yn y cwest cyntaf,marwolaeth trwy ddamwain oedd dyfarniad y rheithgor. Ymgyrchodd teuluoedd y dioddefwyr yn erbyn y canlyniad hwn, ac o ganlyniad cynhaliwyd cwest arall yn 2016, pan ganfuwyd bod y 96 dioddefwr i gyd wedi eu lladd yn anghyfreithlon o ganlyniad i esgeleuster difrifol y prif swyddog. Ond nid yw dyfarniad cwest yn ddyfarniad troseddol,ac yn yr achos cyfreithiol yn ei erbyn yn2019, cafwyd y swyddog Duckenfield yn ddieuog o esgeleuster difrifol. Un person yn unig gafwyd yn euog o drosedd yn ymwneud a thrychineb Hillsborough. Cafodd Graham Mackrell, ysgrifennydd Sheffield Wednesday ar y pryd,ddirwy o £6,500 am drosedd diogelwch.

Barn yr erlyniad.

Yn dilyn penderfyniad y barnwr yn y treial,dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron byddai’r dyfarniad yn synnu llawer o bobl. Y sylw wnaed gan eu cyfarwyddwr cyfreithiol oedd y byddai’r dyfarniad yn awgrymu bod awdurdod sydd yn cael ei redeg gyda’g arian cyhoeddus “yn gallu dal gwybodaeth yn ol yn gyfreithlon mewn ymchwiliad cyhoeddus, heb unrhyw fath o gosb.”

Beth sydd yn digwydd yn awr?

Bu galw am “gyfraith Hillsborough” i orfodi sefydliadau cyhoeddus,a’r rhai sydd yn cael eu cyflogi ganddynt, i ddweud y gwir i gyd mewn unrhyw ymchwiliad neu achos llys. Os byddai’r ddeddf honno’n bodoli ar y pryd, hwyrach na fuasai’r erlyniad wedi methu. Os caiff y ddeddf ei phasio yn y dyfodol, ni ellid ei ol-ddyddio,felly ni fyddai’n bosibl erlyn y tri dyn hyn eto.

Sut gallwn helpu?

Er mwyn gallu rhoi’r cyngor gorau posibl i chi, sicrhawn bod y wybodaeth ddiweddaraf gennym am ddeddfwriaeth a chyfraith achosion.Os hoffech drafod eich achos chi,os gwelwch yn dda cysylltwch gyda Rhys Tudur ar 01758 455 500 neu office@strainandco.co.uk

[Image credit: “Soccer Stadium” by marthachapa95 is licensed under CC BY 2.0 ]

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.