STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Dirmyg Llys

Dirmyg Llys

Dyddiad: 2018-10-02

Daeth achos Tommy Robinson, neu Stephen Yaxley-Lennon, i roi iddo ei enw iawn,a hyn i sylw’r cyhoedd; ond beth mae hyn yn ei olygu?

Beth yw dirmyg llys?

Gellir cyflawni dirmyg llys mewn sawl ffordd, a dyna beth sydd yn ddiddorol. Gall fod yn sifil neu droseddol, sydd yn golygu gall y llys gosbi rhywun am ymddygiad nad yw ynddo’i hun yn drosedd.Mae dirmyg troseddol yn rhywbeth gwaeth na gwrthod cydymffurfio yn unig.

Dyma rai enghreifftiau: Yn achos Yaxley-Lennon, y dirmyg oedd cyflwyno adroddiad a sylwebaeth yn ystod treial, allasai fod yn niweidiol i ganlyniad yr achos.Cyflawnodd ddirmyg tebyg llynedd o’r blaen wrth geisio ffilmio diffynyddion o fewn y llys.

Mewn achos yn Sheffield, protestwyr oedd wedi addo peidio mynd i mewn i ardal ddiogel godwyd o gwmpas coed yr oedd dadlau ynglyn a’u torri, dorrodd yr addewid.. Gosodwyd gorchymyn rhewi yn erbyn Andrew Camilleri yn y llys sifil; torrodd y gorchymyn hwnnw sawl gwaith nes gorfodi’r hawlydd i apelio iddo gael ei ddwyn o flaen y llys am ddirmyg llys.Roedd achos tebyg yn erbyn Davies oedd yn fwriadol yn dal ati i dorri gorchmynion llys sifil. Pan wrthododd tyst roi tystiolaeth ar ol anwybyddu gwys tystio, daethpwyd ag ef o flaen llys fel diffynydd yn euog o ddirmyg llys.

Pan wylltiodd diffynydd yn y llys yn ystod gwrandawiad ei achos, a gwrthod ymddiheuro, ac yna gwylltio drachefn, deliwyd ag ef am ddau achos o ddirmyg llys, yn ychwanegol at ei ddedfrydu am y drosedd wreiddiol.

O fewn adeilad y llys, tynnodd gwraig luniau o ddiffynydd a’i ffrindiau yn ymddwyn “yn heriol a dirmygus”, yn sefyll o flaen hysbysfwrdd y llys. Cafwyd y diffynydd yn euog hefyd o ddirmyg am ei hannog i dynnu’r lluniau. Byddwch yn ofalus felly, gan ei bod yn hawdd iawn cael eich hun yn y doc.

Beth yw’r gosb?

Hyd at 2 flynedd o garchar yn Llys y Goron, neu fis yn y Llys Ynadon (er gall fod hyd at 2 fis am rai gorchmynion sifil). Cafodd Yaxley-Lennon 10 mis am ei drosedd ddiweddaraf, i ddilyn y 3 mis am y drosedd gyflawnwyd llynedd, gan ei fod wedi derbyn dedfryd ataliedig am honno; mae hyn yn ddibynnol ar apel sydd ymlaen ar hyn o bryd.

Cafodd dau o’r protestwyr coed ddedfryd ataliedig o garchar am 2 fis. Dirwy o £100,000 gafodd Camilleri, tra carcharwyd Davies yn syth am 12 mis. 12 mis o garchar gafodd y tyst wrthododd roi tystiolaeth, ond ar ol apelio, fe’i cwtogwyd i 3 mis. Cafodd y diffynydd wylltiodd yn ystod ei dreial garchar o 3 a 6 mis, y naill ar ol y llall, ac yn ychwanegol at yr 20 mis am y troseddau gwreiddiol.

Cafodd y ffotograffydd 21 diwrnod o garchar, a’r diffynydd a’i hanogodd 28 diwrnod.

Sut gallwn helpu?

Gwelir bod modd cyflawni dirmyg llys mewn ffyrdd nad yw pobl yn sylweddoli, a bod mewn helynt oblegid hynny. Rydym yn arbenigwyr yn y maes hwn, a gallwn eich cynghori. Cysylltwch, os gwelwch yn dda , a Michael Strain ar 01758 455 500 neu michael@strainandco.co.uk os dymunwch drafod unrhyw agwedd o’ch achos.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.