STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Deg mlynedd am lofruddiaeth ddwbl: edrych tu hwnt i’r penawdau

Deg mlynedd am lofruddiaeth ddwbl: edrych tu hwnt i’r penawdau.

Dyddiad: 2019-08-20

Mewn sefyllfa wirioneddol drasig, cafodd efeilliaid 23 mis oed eu boddi yn y bath gan eu mam, Samantha Ford.Pan ymddangosodd yn llys yr Old Bailey i gael ei dedfryd, traddododd y Barnwr, Mr Justice Edie ddedfryd o ddeng mlynedd o garchar. Achosodd hyn ddicter ar raddfa eang.Mae’n arferol i ddedfrydau hwy gael eu rhoi am ddelio a chyffuriau a throseddau eraill.

Er mwyn deall mwy am yr achos, rhaid edrych tu hwnt i’r penawdau ac archwilio’r ffeithiau yn fwy gofalus.Lladdodd y babanod er mwyn dial ar ei gwr oedd yn ceisio dod a’r briodas i ben.Roedd Ford yn dioddef o salwch seiciatryddol amlwg, ac ymchwiliodd yr amddiffyniad yn drylwyr i hyn. Yn y diwedd, o ganlyniad i dystiolaeth feddygol, derbyniwyd ple o ddynladdiad.,oherwydd nad oedd hi’n llawn gyfrifol ar y pryd. Mae llofruddio yn arwain at garchar am oes, ond mae dedfrydau yn llai am ddynladdiad.

Yr allwedd sylweddol yng nghyflwyniad yr amddiffyniad yn yr achos hwn yw nad oedd hi yn “llawn gyfrifol”.Mae’n amlwg mai cyflwr meddwl dryslyd Ford ar y pryd oedd yn gyfrifol am y drosedd, i raddau helaeth. Er i’r Barnwr roi dedfryd o 10 mlynedd o garchar, nid dyna’r darlun cyflawn yn y gollfarn yn yr achos hwn.Cyfeirir at y ddedfryd lawn fel “ Gorchymyn Cymysgryw”,sydd yn cynnwys triniaeth ar gyfer iechyd meddwl, ac yna cyfnod o garchar i ddilyn, er mwyn adlewyrchu rhyw elfen o gyfrifoldeb.Dedfrydwyd Ford i orchymyn ysbyty, gyda chyfarwyddid cyfyngedig sydd yn golygu y cedwir hi mewn uned feddygol ddiogel, nes bydd yn saff ei rhyddhau o’r rhan hon o’r ddedfryd.Gall hyn gymryd nifer fawr o flynyddoedd. Pan gaiff ei rhyddhau o’r uned feddygol,bydd yn rhaid iddi dreulio unrhyw amser sydd yn weddill o’r ddedfryd 10 mlynedd mewn carchar, os bydd amser ar ol. Caiff ei rhyddhau ar ol treulio hanner yr amser hwnnw fel pob carcharor arall, ac yna parhau ar drwydded fel sydd yn arferol.

Dengys achosion o’r fath pa mor fregus yw’r meddwl dynol. Mae’n amhosibl i’r rhan fwyaf o bobl ddeall sut gall mam, oedd yn arfer bod yn fam gariadus, ladd ei dau blentyn bach. Nid yw Samantha Ford yn berygl i’r cyhoedd yn gyffredinol. Roedd hi, ac mae hi’n dal i fod yn wraig wael iawn, a bydd y digwyddiadiau enbydus hyn yn hunllef iddi weddill ei hoes. Ei hangen mwyaf yw cymorth meddygol ar frys, a dyna roddir iddi. Fel arbenigwyr mewn cyfraith droseddol, hyfforddwyd ni i gydnabod amddiffyniad meddygol, gan sicrhau bod y darlun llawn yn cael ei gyflwyno i’r llys. Sut gallwn helpu? Os ydych angen cyngor arbenigol ynglyn ag unrhyw ymholiad neu erlyniad troseddol, cysylltwch a Bethan Williams ar 01758 455 500, a gallwn ni helpu a rhoi cyngor ar bob agwedd o’ch achos.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.