STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Deddfau Seneddol i gryfhau’r gyfraith ynglyn a voyeuriaeth (h.y.sbecian a thynnu lluniau dillad ac o dan ddillad)

Deddfau Seneddol i gryfhau’r gyfraith ynglyn a voyeuriaeth (h.y.sbecian a thynnu lluniau dillad ac o dan ddillad)

Dyddiad: 2019-01-30

Ar Ionawr 15ed 2019 cwblhawyd Mesur (Rhif2) Troseddau Voyeuriaeth yn y senedd, a bydd yn derbyn Cydsyniad Brenhinol yn fuan. Gan bydd y Ddeddf yn creu troseddau newydd, y drefn arferol yw na ddaw’r drosedd i rym am o leiaf ddau fis.

Beth oedd y rheswm am basio’r ddeddf hon?

Mae’r ddeddf newydd yn ymdrin a’r “arferiad o dynnu llun dillad neu o dan ddillad rhywun heb eu caniatad.”(“upskirting” yw’r term fathwyd yn Saesneg). Dywedwyd wrth y Senedd: “Nid yw’r gyfraith yn Lloegr a Chymru yn cynnwys trosedd neilltuol o dynnu lluniau o’r fath, ac ar hyn o bryd caiff ei erlyn fel un o ddwy drosedd,sarhau gwedduster y cyhoedd (OPD), neu voyeuriaeth. Rhaid i’r drosedd gyntaf (OPD) “fod mor aflan, anllad a ffiaidd fel ei bod yn sarhad ar y safonau isaf o weddustra”. Rhaid i ddau neu fwy o bobl (ar wahan i’r troseddwr) fod yn bresennol pan ddigwydd hyn, pa un ai ydynt yn ymwybodol o’r hyn sydd yn digwydd neu’n cael ei ddangos ai peidio, neu yn cael eu tramgwyddo gan y digwyddiad, a rhaid i hyn ddigwydd mewn man cyhoeddus. Neu, yn ol Adran 67 Deddf Troseddau Rhywiol 2003, mae trosedd o voyeuriaeth yn nodi bod person yn troseddu pan ddefnyddia offer gyda’r bwriad o alluogi rhywun arall i edrych; neu pan mae’n recordio act breifat, gan wybod nad yw’r person yn rhoi caniatad.Mae’r drosedd hefyd yn cynnwys gosod offer i’w galluogi hwy eu hunain neu rywun arall i gyflawni trosedd o voyeuriaeth.”

Mynegwyd pryderon nad yw’r deddfau hyn yn ddigon cynhwysfawr i ymdrin a thynnu llun dillad a than ddillad, oherwydd yr hyn sydd ei angen yn gyfreithiol yw cynnwys y weithred o fewn y ddwy drosedd posibl. Hefyd, gan nad yw’r un o’r ddau ddewis yn drosedd rywiol, ni fydd unrhyw droseddwr ,gan bydd yn osgoi rheoliadau hysbysu, yn cael ei roi ar gofrestr troseddwyr rhyw.

Beth fydd yn newid felly?

Bydd adran newydd 67A yn cael ei chynnwys yn Neddf Troseddau Rhywiol 2003: a) Is-adran 1 o fewn Adran 67A yn golygu bod person A yn troseddu os defnyddia offer tynnu lluniau dan ddillad person arall, sef B, er mwyn i naill ai hwy eu dau neu drydydd person C edrych ar organau rhywiol neu ben-ol B, neu’r dillad isaf sydd drostynt,dan amgylchiadau ble na fyddent fel arall yn weladwy. b) Is-adran 2 yn adlewyrchu’r un drosedd ac yn golygu bod person A yn troseddu os yw’n recordio llun o dan ddillad person arall,B. llun o’i organau rhywiol neu ei ben-ol, neu’r dillad dros y rhannau hynny o’r corff, dan amgylchiadau ble na fuasent i’w gweld fel arall.

Yn y ddwy drosedd byddai A wedi defnyddio’r offer neu recordio’r llun heb ganiatad B, ac heb resymol gredu y byddai B yn cytuno. Yn ychwanegol, dan is-adran 3, rhaid i A wrth ddefnyddio’r offer (is-adran1) neu recordio llun (is-adran2) fod yn bwriadu:

Byddai’r troseddau newydd yn rhai neillffordd. Chwe mis o garchar, dirwy, neu’r ddau, fyddai canlyniad collfarn ddiannod ( mewn Llys Ynadon). Dwy flynedd o garchar fyddai’r uchafswm dedfryd yn dilyn collfarn dditiad (yn Llys y Goron).

• Cael boddhad rhywiol ( pa un ai i A neu C) • Bychanu, dychryn neu beri gofid i B, Byddai’r troseddau newydd yn rhai neillffordd. Chwe mis o garchar, dirwy, neu’r ddau, fyddai canlyniad collfarn ddiannod ( mewn Llys Ynadon). Dwy flynedd o garchar fyddai’r uchafswm dedfryd yn dilyn collfarn dditiad (yn Llys y Goron).

Rheoliadau Hysbysu. Dan rai amgylchiadau yn ol y Ddeddf newydd gall enwau troseddwyr gael eu rhoi ar gofrestr troseddwyr rhyw:

• I droseddwyr dros 18 oed: cylfawnwyd y drosedd er mwyn cael boddhad rhywiol, a, naill ai roedd y dioddefwr dan 18 oed, neu’r troseddwr wedi ei ddedfrydu i garchar, ei gadw mewn ysbyty, neu wedi cael dedfryd o flwyddyn o leiaf o gosb gymunedol. • I droseddwyr dan 18 oed: cyflawnwyd y drosedd er mwyn boddhad rhywiol, a’r troseddwr wedi cael dedfryd o garchar am o leiaf 2 flynedd

Sut gallwn helpu?

Braslun o’r gyfraith sydd yma. I gael cyngor manwl ar unrhyw fater yn ymwneud a chyfraith trosedd, ffoniwch Michael Strain ar 01758 455 500 i drafod eich achos.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.