STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Cyfraith Argyfwng yn awr mewn grym.

Emergency

Dyddiad: 2020-03-30

Ddydd Mercher, Mawrth 25ain 2020 aeth Mesur Coronafeirws drwy’r senedd, a chafwyd y Cydsyniad Brenhinol, gan ddod a deddfwriaeth argyfwng i rym, na welwyd ei thebyg.

Diben y Ddeddf Coronafeirws yw caniatáu i’r Llywodraeth ymateb i sefyllfa o argyfwng, ac ymdrin ag effeithiau pandemig Covid-19.Mae posibilrwydd i bandemig difrifol effeithio ar 80% o’r boblogaeth, gan arwain at leihad yn y gweithlu, mwy o bwysau ar y gwasanaeth iechyd, a’r modd o ymdrin a marwolaethau.

Mae’r Ddeddf yn cynnwys mesurau dros dro er mwyn newid deddfwriaeth bresennol, neu i gyflwyno pwerau statudol newydd er mwyn lleihau’r effeithiau hyn.

Amcan y Ddeddf yw cefnogi’r Llywodraeth i wneud y canlynol:

  • Cynyddu’r nifer o weithwyr ar gyfer gofal iechyd a chymdeithasol.
  • Ysgafnhau’r baich ar y gweithwyr allweddol, rheng-flaen.
  • Rheoli ac arafu’r feirws.
  • Ymddwyn yn urddasol a pharchus wrth ymdrin a’r meirw.
  • Cefnogi pobl.

Beth yw’r newidiadau?

Bydd achosion llys a thribiwnlys yn dioddef o ran pa mor effeithiol a phrydlon y cynhelir hwy yn ystod y cyfnod Covid-19.Bydd cyfyngiadau teithio yn ei gwneud yn anodd i bawb fod yn bresennol yn y llys, ac oni wneir rhywbeth, mae’n debygol bydd llawer o achosion a threialon yn cael eu gohirio. Mewn achosion trosedd mae’n ddyletswydd ar y llysoedd i ymdrin yn effeithiol ac yn gyflym a phob achos, ac mae hyn yn cynnwys defnyddio technoleg, fel cyswllt fideo, ffon neu e-bost, os yw hyn yn addas a chyfreithlon.Mae defnydd technoleg cyswllt fideo yn cynyddu drwy’r llysoedd er mwyn galluogi mwy o gymryd rhan yn yr achosion o leoliadau pell. Mae gan lysoedd ar hyn o bryd amryw o bwerau statudol cynhenid i’w galluogi i ddefnyddio technoleg .

Mae’r Ddeddf yn newid y ddeddfwriaeth bresennol er mwyn caniatáu defnyddio technoleg naill ai mewn gwrandawiad trwy gyswllt fideo neu gyfarpar clyw, ac un neu fwy o’r rhai sydd yn cymryd rhan yn defnyddio’r math yma o gyswllt wrth ymddangos gerbron y llys; neu lle nad oes ystafell llys o gwbl, a’r achos yn cael ei gynnal yn gyfan gwbl trwy gyswllt fideo neu gyfarpar clyw, a phawb sydd yn cymryd rhan yn defnyddio adnoddau cynadledda ffon neu fideo.

Rheoliadau Gwarchod Iechyd

Mae’r Ddeddf yn rhoi hawl i weinidogion greu troseddau newydd drwy reoliadau sydd ynghlwm a’r ddeddfwriaeth iechyd cyhoeddus. Mewn Llys Ynadon yn unig caiff yr achosion am y troseddau hyn eu clywed, ac ni cheir cosb o garchar.

Pwerau Gorfodaeth

Mae’r Ddeddf yn gosod amrywiol orchmynion gorfodaeth er mwyn cynnal iechyd a diogelwch cyhoeddus. Bydd torri’r gorchmynion hyn, yn cynnwys rhwystro a.y.y.b.,yn drosedd.Os bydd pobl yn gwrthod ufuddhau i’r cyfarwyddiadau cyfreithiol, cosbi’r hwy am y drosedd.

Pobl wedi eu heintio

Mae Atodiad 20 y Ddeddf yn rhoi caniatâd i sgrinio a chadw pobl mewn cwarantin (neu rai mae amheuaeth eu bod wedi eu heintio).

Er mwyn gweithredu pwerau Atodiad 20 (ac mae’r un peth yn wir am bwerau eraill) gall heddwas:

  • ddefnyddio grym rhesymol.
  • fynd i mewn i unrhyw adeilad.
  • roi cyfarwyddiadau rhesymol i’r unigolyn (ond rhaid iddo egluro pam mae’n rhoi’r cyfarwyddiadau, a’i bod yn drosedd peidio ufuddhau).

Digwyddiadau, Pobl yn ymgynnull gyda’i gilydd, ac Adeiadau gynhwysir yn Atodiad 21.

Mae’r darpariaethau’n rhoi caniatâd i’r Ysgrifennydd Gwladol rwystro neu gyfyngu ar gynnal unrhyw ddigwyddiad neu gynulliad o bobl, ac i gau adeiladau, os yw hyn yn anghenrheidiol i iechyd cyhoeddus. Mae hyn yn symleiddio’r ddeddfwriaeth bresennol yn Lloegr a Chymru er mwyn gweithredu’r pwerau i atal digwyddiadau a chynulliadau o bobl gyda’i gilydd cyn gynted a phosibl, os yw tystiolaeth yn cyfiawnhau gwneud hynny. Wedi ystyried y cyngor perthnasol, mae hawl i weithredu os yw gwaharddiad neu gyfyngiad o’r fath;

a. yn arbed, gwarchod rhag, neu reoli achos o goronafeirws, neu ei drosglwyddo i eraill.

b. yn hwyluso’r gwaith o anfon gweithwyr neu adnoddau meddygol neu argyfwng, yn y ffordd fwyaf addas.

I Gloi.

Aeth y ddeddfwriaeth hon drwy’r Senedd yn anarferol o gyflym ac heb archwiliad manwl iawn.Rydym ar gael i gynghori unrhyw un sydd yn wynebu cael ei holi neu ei erlyn o ganlyniad i honiad o beidio cydymffurfio. Byddwn bob amser yn cadw llygad yn ofalus i sicrhau nad yw’r Wladwriaeth yn camddefnyddio deddfwriaeth argyfwng.

Sut gallwn Helpu?

Am gyngor arbenigol cysylltwch a Carys Parry on 01758 455 500 a gadewch i ni helpu. Gallwn roi cyngor ar bledio ac amddiffyn, a’r dedfrydau posibl mewn nifer fawr o amgylchiadau.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.