STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Cliff Richard, Preifatrwydd a’r Ddeddf Gwarchod Data.

Cliff Richard, Preifatrwydd a’r Ddeddf Gwarchod Data.

Dyddiad: 2018-07-24

Ym mis Gorffennaf 2014 ffilmwyd heddlu De Swydd Efrog yn chwilio drwy eiddo Syr Cliff Richard, gan y B.B.C. Ni chafodd ei arestio am unrhyw drosedd. Rhoddodd Heddlu Swydd Efrog wybodaeth i’r B.B.C. fel eu bod yn bresennol yn y lleoliad. Yr hyn ddatgelwyd oedd bod ymchwiliad yn mynd i ddigwydd, a dyddiad, amser a lleoliad y chwilio fwriedid ei wneud.Daeth Syr Cliff Richard ag achos yn erbyn yr heddlu a’r B.B.C. yn breifat dan y Ddeddf Gwarchod Data 1998.

Heddlu De Swydd Efrog

Cyfaddefodd yr Awdurdod Heddlu eu bod yn gyfrifol a chytuno i dalu £400,000 o iawndal iddo.

B.B.C.

Dywedodd y B.B.C. mai’r heddlu gynigiodd yr wybodaeth o’u gwirfodd, gan wadu unrhyw atebolrwydd. Yr achos o safbwynt Syr Cliff a’r heddlu oedd bod yr heddlu wedi eu hannog yn gyfrwys i roi’r wybodaeth, rhag ofn a rhag y bygythiad y buasai’r B.B.C.yn cyhoeddi newyddion am yr ymchwiliad cyn iddo ddigwydd.

Beth oedd dyfarniad y llys?

Gwrthodwyd achos y B.B.C. gan y llys gan ddweud fod gan Syr Cliff hawliau preifatrwydd yng nghyswllt ymchwiliad yr heddlu a bod y B.B.C. wedi torri’r hawliau hynny heb gyfiawnhad cyfreithiol.Gan fod Syr Cliff wedi ennill ei achos ynglyn a’i breifatrwydd, nid oedd angen trafod y ddadl am warchod data.

Beth sydd yn digwydd yn awr?

Derbyniodd Syr Cliff ddau fath o iawndal – arbennig a chyffredinol. Ni chytunodd y llys a phob rheswm gynigiwyd fel sail i iawndal arbennig; bydd dyfarniad ar hyn yn ddiweddarach, os na cheir cytundeb.Talwyd iawndal cyffredinol oherwydd yr effaith negyddol arno ef ac ar ei fywyd yn gyffredinol . Dywedwyd bod yr effaith yn sylweddol, a thalwyd £190,000, gyda £20,000 o iawndal gwaethygedig gan fod y B.B.C.wedi enwebu’r ffilm ar gyfer gwobr deledu “Sgwp y Flwyddyn.”

Pwy sydd yn talu beth?

Telir yr iawndal gwaethygedig gan y B.B.C. Gan fod llawer mwy o fai ar y B.B.C. nag ar Heddlu De Swydd Efrog byddant yn talu 65% o’r iawndal mae’r naill a’r llall yn gyfrifol amdano, gyda’r heddlu’n talu’r gweddill.

Beth yw goblygiadau ehangach y dyfarniad hwn?

Mae sylwebwyr yn rhanedig pa un yw’r achos hwn yn bwysig ynddo’i hun am ei fod yn gysylltiedig ag achos a pherson amlwg iawn, neu a fydd ei ddylwanad yn fwy pell gyrhaeddol ac yn arwain at fwy o warchod preifatrwydd i bobl eraill gaiff ymchwiliad . Yn ein barn ni mae’n rhy gynnar i ddweud beth fydd yr effaith ehangach, ond bydd gan lawer cleient ddiddordeb trafod y dewisiadau sydd ar gael er mwyn sicrhau nad yw camau cyntaf archwiliad gan yr heddlu yn cael eu datgelu i’r wasg. Os oes perygl i wybodaeth am ymchwiliad gael ei ddatgelu, hwyrach, yn ein barn ni, bod angen rhoi rhybudd cynnar i’r heddlu.

Sut gallwn helpu?

Os oes arnoch eisiau cyngor ar unrhyw fater yn ymwneud a chyfraith droseddol, cysylltwch os gwelwch yn dda a Bethan Williams ar 01758 455 500 neu office@strainandco.co.uk

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.