STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Canllawiau Dedfrydu Newydd

Canllawiau Dedfrydu Newydd

Dyddiad: 2018-07-06

Cyhoeddodd y Cyngor Dedfrydu ganllawiau pendant ar gyfer troseddau bygythiol fydd yn dod i rym ar, neu ar ol, Hydref 1af 2018; gall felly effeithio ar eich achos presennol chi.

Dywedodd y Barnwr Rosa Dean, aelod o’r Cyngor Dedfrydu:”Mae ein canllawiau’n cydnabod ac yn adlewyrchu natur hynod bersonol ac ymwthiol y troseddau hyn, all gael effaith aruthrol, effaith tymor hir yn aml, ar ddioddefwyr a’u teuluoedd. Byddant yn rhoi arweiniad cynhwysfawr i’r llysoedd fydd yn help i sicrhau dedfryd sydd yn cydfynd a difrifoldeb y math hyn o drosedd.”

Pa droseddau gynhwysir?

• Aflonyddu ( a chreu ofni trais)

• Aflonyddu hiliol neu ar sail crefydd ( a chreu ofni trais) • Stelcio ( yn creu ofn trais, ofn difrifol neu ofid) • Stelcio wedi ei ysgogi gan hiliaeth neu grefydd ( ynghyd ag ofn trais) • Mae’r troseddau uchod, heb yr elfen o ofn trais, hefyd yn gynwysedig. • Rheoli a gorfodi cymar mewn perthynas agos neu deuluol. • Datgelu delweddau rhywiol preifat. • Bygythiadau i ladd.

Pam cyhoeddwyd y canllawiau?

Hyd yn hyn, ychydig iawn o arweiniad gafwyd ynglyn a’r troseddau hyn. Roedd gan Lysoedd Ynadon rai canllawiau yn ymwneud ag aflonyddu a bygwth lladd; ond gyda chyhoeddi’r rhai newydd bydd arweiniad am y tro cyntaf ar gyfer stelcio, datgelu delweddau rhywiol preifat ac ymddygiad o reoli a gorfodi mewn perthynas deuluol.

Pornograffi er mwyn dial.

Daeth datgelu lluniau rhywiol preifat, sef pornograffi dial, yn drosedd yn 2015. Mae’r canllawiau’n adlewyrchu mor hynod annymunol ac ymwthiol yw’r drosedd, ac yn cydnabod y gall achosi gofid difrifol i ddioddefwr.

Dyna mae’n amlwg yw bwriad y troseddwr, ond dengys y canllawiau rai o’r ffactorau sydd yn gwneud y troseddau mor hynod o ddifrifol.Mae hyn yn cynnwys ceisio creu’r gofid mwyaf posibl a bychanu’r dioddefwr, cynllwynio manwl a sylweddol, fel sefydlu proffil ffug i anfon lluniau ar gyfryngau cymdeithasol, a gwahodd sylwadau a chysylltiadau allai arwain at gamdrin a chyswllt o natur rywiol gan ddieithriaid. Yn dilyn ymgynghoriad, mae’r Cyngor wedi cynnwys ffactor ychwanegol fyddai’n profi lefel uchel euogrwydd y troseddwr “ yn ei ymdrechion parhaol i sicrhau bod y lluniau’n dal ar gael i’w gwylio.” Ychwanegwyd hyn er mwyn dangos natur troseddu ar-lein, gan fod rhai yn ail-anfon lluniau ar-lein lawer gwaith ar ol i’r gwefannau eu dileu.

Rheoli a gorfodi o fewn perthynas.

Death mynnu rheoli ac ymddygiad haearnaidd o fewn perthynas glos neu deuluol yn drosedd yn 2015 hefyd, gyda’r bwriad o warchod dioddefwyr oedd yn dioddef camdriniaeth gyson.

Mae’r math yma o ymddygiad yn cynnwys rhwystro dioddefwr rhag cael ffrindiau, mwynhau gwahanol weithgareddau, eu rhwystro rhag cael arian, a rheoli bywyd bob dydd fel dewis o wisg neu fwyd a lle i fynd. Mae’r canllaw’n adlewyrchu natur y math hwn o drosedd a’r effaith posibl ar y dioddefwr, fel bod y dyfarniad yn effeithiol a chyson, ac yn tynnu sylw at beth ddylid ei ystyried wrth asesu difrifoldeb y drosedd.

Er enghraifft, dylid ystyried y bwriad i fychanu a diraddio yn beth difrifol iawn, ynghyd ag ymddygiad treisgar dros gyfnod hir gan achosi niwed seicolegol sylweddol.Yn dilyn y trafodaethau, ychwanegwyd factor arall newydd gan y Cyngor sef “dioddefwr yn cael ei adael mewn dyled, neu’n ddigartref oherwydd ecsbloetio ariannol”, pan bwysleiswyd mai dyma’r canlyniad pan mae troseddwr yn rheoli hawl dioddefwr i gael arian.

Stelcio ac aflonyddu.

Mae’r canllawiau ynglyn a hyn wedi eu ehangu’n sylweddol, gan dynnu sylw arbennig at y prif ffactorau I’w hystyried wrth asesu pa mor ddifrifol yw’r drosedd—pa mor soffistigedig oedd y cynllunio, pa mor barhaus, a’r gofid a’r niwed seicolegol achoswyd i’r dioddefwr. Mae ffactorau eraill yn gwneud lefel y drosedd yn uwch, er enghraifft pan mae troseddwr yn cymryd arno y gellir ymddiried ynddo e rmwyn ei gwneud yn haws iddo stelcio neu aflonyddu; hefyd anfon deunydd tramgwyddus a hynod dreisgar Ii’r dioddefwr, ac effaith y drosedd ar eraill, e.e.plant.

Ni fwriedir i’r canllawiau newid arferion dyfarnu o safbwynt pa fath neu lefel o gollfarn roddir, ond maent yn newidiadau deddfwriaethol diweddar pryd dyblwyd y dedfrydau hwyaf am stelcio ac aflonyddu o 5 i 10 mlynedd, ac o 7 i 14 blynedd am y mathau gwaethaf—hynny yw pan maent o ganlyniad i hiliaeth neu grefydd. Mae troseddwyr yn y categoriau gwirioneddol ddifrifol eu natur yn debygol o gael dedfryd hirach o ganlyniad iddeddfwriaeth newydd adlewyrchir yn y canllawiau.

A fydd dedfrydau yn fwy llym?

Nid yw’r Cyngor yn bwriadu newid llymder dedfryd am y troseddau. Ond un o’r prif resymau yw sicrhau cysondeb fel bydd ambell droseddwr gafodd gosb ysgafnach nag oedd yn ei haeddu, yn fwy tebygol o gael dedfryd fwy llym yn y dyfodol. Yn ein profiad ni, mae canllawiau dedfrydu yn erydu disgresiwn barnwrol, ac ar y cyfan, cynyddu bob yn beth mae dedfrydau pan ddilynir canllawiau.Mae’n cyfreithwyr yn cymryd gofal i sicrhau mai dim ond canllawiau ydynt, a bod darlun cyflawn yn cael ei gyflwyno i’r llys pan fyddant yn ceisio lliniaru’r ddedfryd i’n clientau.

Sut gallwn helpu?

Cysylltwch a Carys Parry ar carys@strainandco.co.uk 01758 455 500 i drafod unrhyw fater yn ymwneud a chyfraith trosedd.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.