STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Cais am wybodaeth am yrrwr cerbyd

Cais am wybodaeth am yrrwr cerbyd

Dyddiad: 2018-04-18

Gallwch fod yn cyflawni trosedd os methwch roi manylion am enw gyrrwr cerbyd, os cewch gais ysgrifenedig i wneud hynny gan ( neu ar ran) yr heddlu. Os cewch eich dyfarnu’n euog bydd dirwy drom a chwe phwynt ar eich trwydded yn dilyn.

Faint o amser sydd gan yr heddlu i wneud y cais? Yn arferol, rhaid gwneud hynny o fewn 14 diwrnod I’r drosedd ddigwydd. Oherwydd streic gan weithwyr y swyddfa bost yn rhwystro llythyrau rhag cyrraedd mewn pryd, ac I’r cais gyrraedd ar ol I’r cyfnod 14 diwrnod ddod i ben, mae cyfraith achosion yn datgan na fu trosedd. Os ydych yn amau a gyrhaeddodd y rhybudd o fewn yr amser gofynnol, cysylltwch a ni, os gwelwch yn dda, am gyngor pellach.Gall cais ar ol 14 diwrnod fod yn ddilys mewn rhai amgylchiadau, felly peidiwch ag anwybyddu cais am eich bod yn meddwl ei fod yn rhy hwyr yn cyrraedd – mynnwch gyngor cyfreithiol bob amser.

Faint o amser sydd gennyf i ateb? Mae gennych 28 diwrnod o ddyddiad anfon y cais,”neu cyn gynted ag sydd yn ymarferol ar ol I’r cyfnod yna ddod i ben.”

Hawl hunan-gyhuddiad. Wynebwyd y sefyllfa yma mewn nifer o achosion, ac nid oes ots a dweud y gwir.Nid yw gofyn i chi roi manylion am yrrwr yn effeithio ar eich hawliau dynol chi. Yn ol y llys:”Gellir cymryd yn ganiataol bod pobl sydd yn berchen ar, ac yn gyrru, cerbyd, wedi derbyn bod ganddynt rai cyfrifoldebau;” ac mae hynny’n cynnwys y rheidrwydd i roi gwybodaeth am bwy oedd yn gyrru, os gofynnir iddyn nhw wneud hynny.

Beth os na wyddoch pwy oedd yn gyrru? Os mai dyma’r gwirionedd, gallai fod gennych amddiffyniad am yr honiad o beidio datgelu manylion y gyrrwr.Yr amddiffyniad yw “ na allech fod yn sicr er gwneud ymholiadau manwl.” Rhaid felly holi’n ddyfal er mwyn darganfod pwy oedd yn gyrru, ac ateb y cais a rhoi pa bynnag help a allwch.Eto, gwell cael cyngor cyfreithiol yn fuan, gan fod achos diweddar yn ymwneud a’r cyn-wleidydd, yr Arglwydd Howard, wedi codi nifer o ddadleuon cyfreithiol diddorol.

Ni dderbyniais gais, ac rwyf wedi derbyn gwys i ymddangos gerbron llys; beth ddylwn wneud yn y sefyllfa yma?Hwyrach bod gennych amddiffyniad. Cysylltwch a ni am gyngor pellach.

Beth os rhoddaf wybodaeth anghywir? Hawdd cael eich temtio I enwi gwr neu wraig, neu hyd yn oed rhywun o dramor, gan obeithio osgoi’r pwyntiau cosb. Byddai hyn yn gwyrdroi cwrs cyfiawnder, a charchar yw canlyniad hynny bron yn ddifeth.Felly peidiwch a gwneud hynny!

Cwmniau. Gallwch amddiffyn eich hun trwy ddangos nad oedd cofnod wedi ei gadw o bwy oedd y gyrrwr, a bod hynny’n beth rhesymol i ddigwydd.Gall rhybudd gael ei anfon i ysgrifennydd neu glerc yn y brif swyddfa neu’r swyddfa gofrestredig. Yn amlwg ni ellir rhoi pwyntiau ar drwydded cwmni, felly dirwy fyddai’r gosb.Mewn rhai amgylchiadau gellir dwyn achos yn erbyn cyfarwyddwyr cwmniau fel na ellir defnyddio’r “cwmni fel ffordd o’u gwarchod rhag erlyniad.”Os yw eich cwmni yn berchen ar gronfa o geir, doeth fyddai cael trefn bendant i ddilyn trywydd pob gyrrwr.

Cymorth cyfreithiol. Hwyrach bod modd cael arian o gronfa gyhoeddus mewn achosion fel hyn, felly cysylltwch a ni am fwy o wybodaeth.

Sut gallwn helpu? Mae’r gyfraith sydd yn ymdrin a cheisiadau am fanylion gyrrwyr yn gymhleth.Braslun yn unig o’r problemau all godi sydd yn yr erthygl hon. Os oes gennych bryderon, neu os ydych eisiau trafod unrhyw beth ynglyn a’ch achos, cysylltwch, os gwelwch yn dda, a Michael Strain ar 01758 455 500 neu office@strainandco.co.uk

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.