STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Apel o du hwnt i’r bed

Apel o du hwnt i’r bed

Dyddiad: 2019-04-02

Cyflwynodd y Llys Apel ddyfarniad yn achos R v Max Clifford, y guru cysylltiadau cyhoeddus y dygwyd anfri arno, ac a gafwyd yn euog yn 2014 o nifer o droseddau rhywiol, a’i ddyfarnu i 8 mlynedd o garchar.

Bu farw Clifford yn 2017, felly pam aeth yr apel ymlaen?

Mae Adran 44A Deddf Apeliadau Troseddol 1968 yn nodi: “Gellir dechrau unrhyw apel berthnasol ddechreuwyd ganddo ef yn ystod ei fywyd, gan rhywun gymeradwyir gan y Llys Apel.” Y canlynol yn unig ellir eu cymeradwyo i wneud hyn: a) Gweddw yr ymadawedig, neu bartner sifil sydd yn dal yn fyw. b) Person sydd yn cynrychioli’r ymadawedig (fel yn Adran 55(1)(X1) o Ddeddf Gweinyddiad Ystadau 1925). c) Unrhyw un arall a ymddengys i’r Llys Apel, oherwydd cysylltiad teuluol neu debyg, yn debygol o fod a diddordeb ariannol neu ddiddordeb arall yn y penderfyniad wneir yn yr apel. Yn achos Clifford cafodd ei ferch ganiatad i fwrw ymlaen a’r apel ddechreuwyd cyn iddo farw.

Oedd unrhyw ddiben gwneud hyn?

Er bod rhywun wedi marw, mae’n bosibl i apel gyflawni dau beth: a) Adfer enw da’r person. b) Gwrthsefyll hawliadau sifil. Bu apeliadau eraill i adfer enw da pobl oedd wedi marw ers peth amser. Yr enwocaf oedd Derek Bentley, grogwyd am ladd plasmon. Yn dilyn nifer o heriau yn y llys, derbyniodd Bardwn Brenhinol yn y diwedd. Methodd ymdrech i adfer enw da’r llofrudd drwgenwog Dr Crippen pan wrthododd Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol gyfeirio’r achos i’r Llys Apel. Penderfynodd y Comisiwn nad oedd James Crippen yn “berson addas” ar gyfer yr achos, a’i bod yn anhebygol iawn byddai’r Llys Apel yn fodlon gwrando’r achos.” Onibai bod siawns gwirioneddol i unigolyn gael ei dderbyn gan y Llys Apel, byddai’n amhosibl cael gwrandawiad, ac felly nid oes diben i’r Comisiwn adolygu’r achos,” oedd datganiad ar ran y C.A.A.T. Ac ni fu apel Clifford yn llwyddiannus, gan i’r llys wrthod caniatad.

Sut gallwn helpu?

‘Rydym yn arbenigwyr ar gyfraith droseddol. Os ydych yn poeni am ganlyniad dedfryd, hyd yn oed yn achos rhywun sydd wedi marw, peidiwch a phetruso cyn cysylltu a ni er mwyn trafod eich opsiynau. Cysylltwch a Carys Parry ar 01758 455 500 i gael cyngor yn syth.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.