STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Achosion cytundeb hunanladdiad,a “lladd tosturiol” fel y’i gelwir.

Dyddiad: 2022-01-18

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cymryd camau i ganfod y farn ynglyn ag uwch-raddio’r canllawiau cyfreithiol ar gyfer dynladdiad,er mwyn cynorthwyo erlynwyr sydd yn trafod lles y cyhoedd wrth ymdrin ag unigolion dan amheuaeth mewn achosion o farwolaeth yn dilyn methiant cytundeb hunanladdiad neu “ladd tosturiol” fel y’i gelwir.

Ar Ionawr 14eg dechreuodd ymgynghoriad fydd yn mynd ymlaen am 12 wythnos,ac yn dod I ben Ddydd Gwener Ebrill 8fed.Mae’n cynnwys manylion am nifer o” ffactorau er lles y cyhoedd” y bydd angen eu trafod wrth benderfynu erlyn mewn achosion o’r fath.

Mae erlyn yn fwy tebygol:

  1. Os oedd y dioddefwr dan 18 oed.
  2. Os nad oedd y dioddefwr yn meddu ar y gallu (yn ol disgrifiad Deddf Gallu Meddyliol 2005) I wneud penderfyniad ffurfiol drosto’i hun i roi terfyn ar ei fywyd.
  3. Os nad oedd y dioddefwr wedi dod I benderfyniad clir,gwirfoddol,terfynol a ffurfiol I ddiweddu ei hun.
  4. Os nad oedd y dioddefwr wedi rhannu’r penderfyniad I wneud hyn yn eglur a digyfaddawd gyda’r person dan amheuaeth.
  5. Os nad oedd yr un dan amheuaeth wedi ymddwyn am yr unig reswm ei fod yn teimlo tosturi dros y dioddefwr;er enghraifft,ei fod wedi gwneud hyn oherwydd buasai marwolaeth y dioddefwr o ryw fantais iddo ef neu rhywun a chysylltiad agos gyda’g ef.
  6. Os rhoddodd yr un dan amheuaeth bwysau ar y dioddefwr,neu na chymerodd gamau rhesymol I sicrhau nad oedd unrhyw un arall wedi rhoi pwysau arno.
  7. Os oes gan yr un dan amheuaeth hanes o dreisio neu gam-drin y dioddefwr.
  8. Os nad oedd y dioddefwr yn adnabod yr un dan amheuaeth.
  9. Os derbyniodd yr un dan amheuaeth dal ariannol am ei weithred.
  10. Os defnyddiodd yr un dan amheuaeth drais neu rym gormodol yn fwriadol,gan achosi dioddef hir a di-angen.
  11. Os oedd yr un dan amheuaeth yn gweithredu yn ei swydd fel meddyg,nyrs neu weithiwr proffesiynol arall yn y gwasanaeth iechyd,gofalwr proffesiynol (yn derbyn cyflog a’I peidio),neu berson mewn awdurdod,fel swyddog carchar,a bod y dioddefwr dan ei ofal.

(Nid yn unig am y rhesymau uchod y cynhwysir y cymal hwn.Rhaid bod perthynas o ofalu rhwng yr un dan amheuaeth a’r dioddefwr,gan bydd angen ystyried oedd yr un dan amheuaeth wedi dylanwadu ar y dioddefwr.)

Mae’n llai tebygol bydd angen erlyn:

  1. Os yw’r dioddefwr wedi penderfynu rhoi terfyn ar ei fywyd yn wirfoddol,a’r penderfyniad hwnnw yn glir,yn bendant a chytbwys.
  2. Os mai tosturi oedd yr unig reswm dros helpu’r dioddefwr.
  3. Os oedd y dioddefwr yn ddifrifol wael yn gorfforol,ac yn anabl I gyflawni’r weithred ei hun.
  4. Os gellir profi bod yr un dan amheuaeth wedi dangos ei fod yn amharod I helpu,tra’r oedd y dioddefwr yn benderfynol o roi terfyn ar ei fywyd.
  5. Os ceisiodd y un dan amheuaeth roi terfyn ar ei fywyd yntau yr un pryd,yn unol a’r cytundeb hunanladdiad.
  6. Os hysbysodd yr un dan amheuaeth yr heddlu am y farwolaeth,a rhoi pob cymorth iddynt yn eu hymoliadau I’r amgylchiadau,a’i ran ef yn hyn oll.

Er nad yw hon yn rhestr gyflawn,ystyrir y ffactorau hyn a rhai eraill wrth drafod lles y cyhoedd mewn achosion lle mae erlynwyr yn fodlon bod digon o dystiolaeth i sicrhau gobaith realistig o euogfarn. Nid yw’r cynnig I uwch-raddio’r canllaw ar gyfer llofruddiaeth a dynladdiad yn golygu dad-griminaleiddio rhai troseddau,ac nid yw’r un dan amheuaeth yn rhydd o gael ei erlid os yw’n honni mai “lladd tosturiol”,neu hunanladdiad wedi methu ddigwyddodd. Nid yw’r canllaw’n cyffwrdd “cynorthwyo I farw”,neu sefyllfaoedd eraill tebyg;mae’r gyfraith yn trin y rhai hyn ar wahan.

Dyma eiriau Max Hill CF,Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus:”Mae cytundebau hunanladdiad a lladd tosturiol fel y’i gelwir yn drasiediau I deulu a ffrindiau’r rhai sydd yn gysylltiedig.Mae’n fater sensitif ac emosiynol sydd yn gallu rhannu barn a chreu teimladau cryf,ond hwyrach bydd angen i erlynwyr benderfynu a ddilynwyd y prawf cyfreithiol am gyhuddiad o drosedd.Rhaid pwyso a mesur amgylchiadau pob achos yn unigol wrth benderfynu a yw cyhuddiad er lles y cyhoedd.Mae’n bwysig ein bod yn egluro’r rhesymau tu ol I’n penderfyniadau ,a chwilio yr ydym am y farn ar nifer o ffactorau ystyrir cyn penderfynu a yw erlyn yn addas.Ond gadewch i mi wneud yn hollol glir bod y rhai hyn yn achosion difrifol tu hwnt.Byddwn bob amser yn erlyn achosion o lofruddiaeth neu ddynladdiad os oes digon o dystiolaeth,ac os yw er lles y cyhoedd.”

Sut gallwn helpu?

Gwnawn yn siwr bob amser bod y wybodaeth ddiweddaraf gennym am unrhyw newid yn y ddeddfwriaeth neu gyfraith achosion,er mwyn eich cynghori yn y ffordd orau posibl.Os hoffech drafod unrhyw agwedd o’ch achos,cysylltwch a Michael Strain ar 01758 455 500 neu office@strainandco.co.uk

[Image: © Crown Copyright ]

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.