STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

Achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus – cwestiynau yn codi ynglyn a dedfrydu

Dyddiad: 2019-02-05

Mewn achos diweddar, wynebwyd y Barnwr Jeremy Richardson Q.C. a’r dasg o ddedfrydu 3 troseddwr am eu rhan yn achosi marwolaeth 4 o bobl, ac anafu 3 arall yn ddifrifol. Cafodd y prif droseddwr Elliot Bower garchar am 11 a hanner o flynyddoedd.

Uchafswm dedfryd carchar am achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus yw 14 blynedd, ond beth sydd yn digwydd os achosir 4 marwolaeth mewn un digwyddiad; a yw’r cyfanswm yn codi i uchafswm o 56? Yr ateb yw nac ydyw; mae’n aros yn 14 blynedd.

Nid oes dim o’i le ar ddedfrydau o garchar cyd-olynol, a phetae’r diffynyddion wedi cyflawni 4 trosedd dros gyfnod o 4 niwrnod, gan achosi un farwolaeth ar bob achlysur, gallai’r Barnwr mewn egwyddor fod wedi rhoi dedfryd o 56 blynedd ( h.y. 4 gwaith 14 mlynedd). Felly pam nad gwneud hynny yn yr achos hwn?

Roedd yn rhaid i’r Barnwr ddilyn achos R v Jaynesh Chadusuma (2018) EWCA Crim 2867,a dyma arweiniodd iddo ddatgan:” Caf fy ngorfodi i roi 14 blynedd fel yr uchafswm cosb gan mai dyma’r unig ddewis sydd gennyf pan mae mwy nag un yn cael ei ladd mewn un achos o yrru’n beryglus” Ond ychwanegodd y Barnwr, a phrofai hyn nad oedd yn hapus gyda’r gyfraith fel y mae:”Cyn cyhoeddi dedfryd, hoffwn ddweud hyn. Bwriadaf gyfeirio’r datganiad hwn am gollfarnu at yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth. Gwn fod y llywodraeth wedi dechrau adolygiad o ddeddfwriaeth traffig ar y ffyrdd sydd yn bodoli ar hyn o bryd,yn cynnwys dedfrydu.Nid fy lle i yw argymell newidiadau i’r gyfraith. Y cwbl a wnaf yw gofyn i’r rhai sydd yn gyfrifol am wneud hyn, sef yr Ysgrifennydd Gwladol, i drafod y mater canlynol.Efallai byddai’n werth ystyried, pan achosir nifer o farwolaethau mewn un digwyddiad o yrru peryglus, yn enwedig pan fo’r gyrru peryglus hwnnw y tu hwnt o ddifrifol – fel yn yr achos dan sylw- a ddylai’r llys gael yr hawl i roi dedfryd uwch o garchar nag mae’r gyfraith yn ei chaniatau ar hyn o bryd. Hoffwn dynnu sylw’r Ysgrifennydd Gwladol i’r achos hwn a gofyn iddo ei ystyried.Nid fy lle i yw gwneud sylwadau, ond efallai fod yna rywun sydd yn teimlo buasai’r Senedd yn hoffi ail-edrych ar y pwerau sydd gan y llys wrth ddedfrydu mewn achos hynod o ddifrifol fel hwn.Rwyf yn ail-ddweud yr hyn ddywedais yn gynt bod y ddedfryd a roddaf heddiw yn unol a’r gyfraith sydd mewn grym ar hyn o bryd. Rhaid i mi ddilyn y gyfraith honno, a byddaf yn dedfrydu yn ol y gyfraith honno.”

A fydd y gyfraith yn newid?

Yn y dyddiau yn dilyn yr achos hwn awgrymodd y Twrnai Cyffredinol bod polisi dedfrydu yn debygol o newid. Y ffordd hawsaf i wneud hynny fydd cynyddu’r uchafswm cosb posibl i garchar am oes., yn hytrach na cheisio gwrthdroi y rheol yn achos R v Jaynesh Chadusuma. Mae’n debygol y gwelwn gynnydd hefyd mewn dedfrydau eraill yn ymwneud a lladd drwy yrru’n beryglus, ac efallai, hyd yn oed, bydd trosedd newydd yn ymwneud ag achosi niwed difrifol.

Sut gallwn helpu?

Braslun geir yma, ond am gyngor manwl ynglyn a chyfraith troseddau, cysylltwch a Michael Strain on 01758 455 500 i drafod eich achos.

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.