STRAIN

A'I GWMNI

AND COMPANY

14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

pwllheli

A yw cynorthwyo’r heddlu yn golygu cwtogi dedfryd?

A yw cynorthwyo’r heddlu yn golygu cwtogi dedfryd?

Dyddiad: 2018-09-25

Efallai y clywsoch am “destun” neu “amlen frown i’r Barnwr”, fel dulliau o ddisgrifio’r hen system. Os rhoddwyd help i’r heddlu gellid rhoi “testun” i’r Barnwr oedd yn eich dedfrydu yn egluro i chi roi cymorth yn yr ymholiadau, ac efallai wedyn byddai’r ddedfryd yn llai.Roedd peth cyfrinachedd ynglyn a’r hyn oedd yn digwydd ac ychydig iawn o bobl oedd yn deall y sefyllfa yn iawn.

System ffurfiol. Erbyn hyn mae dull ffurfiol statudol yn bodoli i reoli cwtogi dedfryd i ddiffynydd sydd yn cynorthwyo’r awdurdodau, er bod peth defnydd o’r arferiad “testun” yn dal i gael ei ddefnyddio weithiau.Bwriad y drefn newydd yw rheoli’r help roddir, a’r manteision posibl o wneud hynny. Defnyddir yr hen egwyddorion o hyd gan fod unrhyw un geir yn euog o drosedd bob amser yn elwa o roi cymorth i’r heddlu neu’r awdurdodau.

Gofynion y drefn newydd. Dyma nodweddion allweddol y drefn statudol:

  • Rhaid i’r troseddwr roi cyfaddefiad llawn o’i drosedd cyn gellir dechrau gweithredu’r fframwaith statudol. Rhaid iddo gytuno i fod yn rhan o broses ffurfiol gyda’r bwriad o osgoi rhai o’r problemau achosid wrth ddefnyddio’r dulliau cynharach.

  • Cyn belled a’i fod yn cyfaddef yn llawn ei ran ef yn y drosedd, ni chyfyngir y proses i droseddwr sydd yn cynorthwyo gyda throseddau roedd ef yn rhan ohonynt, yn ategwr i’r drosedd, neu a rhyw gysylltiad.

  • O ganlyniad i’r proses eithaf newydd hwn, gall erlynydd gyfeirio dyfarniad yn ol i’r llys, a gofyn am broses farnwrol i ddadansoddi dyfarniad Llys y Goron. Nid yw hyn yn atal dadansoddiad tebyg yn ystod penderfyniad Llys y Goron.

  • Gan farnwr yn Llys y Goron mae’r hawl i benderfynu ddylid gostwng dedfryd yn dilyn cytundeb wnaed ar ol y ddedfryd wreiddiol.Gall y llys ystyried yr union sefyllfa wedi’r ddedfryd, peth nad oedd yn bosibl dan yr hen drefn.

  • Os metha’r troseddwr gadw at ei gytundeb, nid yw hynny ynddo’i hun yn drosedd, ond efallai bydd yn gorfod dychwelyd i’r llys, ac na chaiff ei ddedfryd ei chwtogi fel oedd wedi ei gytuno, neu fyddai wedi ei gytuno , pe byddai ef wedi cadw at ei air.

  • Cymharu’r hen a’r newydd. Efallai bydd mwy o ostyngiad yn y ddedfryd gyda’r dull newydd o gymharu a’r dull blaenorol. Ond nid oes sicrwydd y cwtogir dedfryd o ganlyniad i roi gwybodaeth i’r heddlu; dibynna ar natur yr wybodaeth, sut gellir ei defnyddio, a beth all yr heddlu ei wneud o ganlyniad i dderbyn yr wybodaeth ( yn enwedig os mai’r canlyniad yw erlid rhai eraill).

Pwysig yw sylweddoli, gan fod y dull ffurfiol yn mynnu bod troseddwr yn rhoi cyfaddefiad llawn o’i ran ef yn y drosedd, y gellir dod a chyhuddiadau eraill yn ei erbyn, neu drafod troseddau eraill, wrth ddyfarnu.Felly mae penderfyniad pwysig yn wynebu diffynydd.

Sut byddaf yn gwybod os yw’r ffaith i mi gynorthwyo’r heddlu wedi ei ystyried?

Yn unol a’r gyfraith rhaid dweud wrthych os cwtogwyd eich dedfryd, a dweud hefyd beth fyddai’r ddedfryd lawn wedi bod. Yna byddwch yn gwybod i sicrwydd faint yn llai o ddedfryd gawsoch.

Sut gallwn helpu?

Nid yw’r penderfyniad na’r broses yn hawdd, oherwydd y canlyniadau posibl, allai gynnwys mynd i’r llys i roi tystiolaeth, neu cael ehangu’r ddedfryd wreiddiol.Hanfodol felly yw cael cyngor arbenigwr cyn siarad a’r heddlu. Os hoffech drafod hyn, cysylltwch , os gwelwch yn dda, a Bethan Williams ar office@strainandco.co.uk neu 01758 455 500

Yn ôl i'r prif dudalen blog.

 

Mae Ein Arbenigedd yn Cynnwys:

> Anaf Personol
> Cyfraith Teulu
> Trosedd
> Ymgyfreitha Cyffredinol

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: 14A Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd

Ffôn: 01758 455500

E-bost: office@strainandco.co.uk

facebook twitter

© 2023 Strain a'i Gwmni. Rheolir ac Awdurdodir gan yr SRA rhif 644052. Cedwir Pob Hawl. Rhybudd Preifatrwydd.

Gwefan gan Delwedd.